wpe1.jpg (2325 bytes)

URDD GOBAITH CYMRU - CYNGOR, 28 EBRILL 2001

Cofnodion o'r Cyngor Arbennig a gynhaliwyd yn Adeilad Syr Hugh Owen, Campws y Brifysgol, Penglais, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 28 Ebrill, 2001

Presennol: Rhiannon Lewis (Cadeirydd), I. Prys Edwards, Wynne Melville Jones, Bob Roberts, Geraint Rees, Alun Edwards, Dyfrig Llyr Jones, Marc James, Eurig Davies, Wil Lloyd Davies, Marilyn Lewis, Arwel H. Roberts, Ceri P. Hughes, Dennis Davies, Ann Hughes, Patric Stephens, John Rees, Stan Lyall, Menna E Jones, Siôn Edwards, Bethan Evans, Edward Morus Jones, Carys Williams, Janet Evans, Eddie Jones, Alun Jones, Gwyn L. Morris, Alun Puw, Eirian Jones, Edwin Jones, Meriel Parry, Kevin Davies, Des Davies, Nia Chapman, Carol Davies, Siân Eirug, Iola Jones, Siân Eleri, Dyfrig Morgan, Siân Eirian, Efa Gruffudd, Alun Owens, Steffan Jenkins, Dafydd Carrington, Mai Parry Roberts, Jim O’Rourke.
Ymddiheuriadau: Peter Davies, Gwawr Davies, Derek Evans, Eirith Evans, Glyn T. Jones, Catrin Rhys, Nia Jones, Lona Evans, Delyth James, Dyfrig Ellis, Tudur Dylan Jones, Gwyn Griffiths, Lyn Mortell, Haf Morris, Iolo ab Eurfyl, Buddug Llwyd, Dilwyn Price, Gwyndaf Roberts.
Croesawyd pawb i’r cyfarfod yma a alwyd yn arbennig i roi’r darlun cywir o sefyllfa’r Urdd sy’n deillio o argyfwng y clwy traed a’r genau. Eglurwyd bo’r Pwyllgor Gwaith wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol dros y ddau fis diwethaf i edrych ar y sefyllfa a oedd yn gwaethygu yn wythnosol ar adegau. Eglurwyd pwy oedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’r Panel Personél y bu ymgynghori â nhw. Diolchwyd i bawb am eu hamser a’u hymroddiad i’r mudiad yn ystod y cyfnod yma.
Ariannol Cyn Y Clwy a. Eglurwyd nad yw’r clwy wedi cael ei ddefnyddio fel esgus i sefyllfa ariannol yr Urdd, nad yw’r Urdd wedi cuddio dim, roeddem yn wynebu colled ariannol o dros £100,000 am y flwyddyn a fu. Trafodwyd ‘Papur Trafod Cyfrifon 2000/2001 ac Amcangyfrifon 2001/2002 (gweler copi). Roedd y costau dan reolaeth ym mhob adran ond nid oedd yr incwm ar darged. Ail-strwythurwyd nifer o swyddi i arbed costau cyflogi, gan rewi unrhyw swydd a oedd yn dod yn wag. Unwyd yr Adran Gylchgronau a’r Adran Adnoddau, Aelodaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus i greu Adran Gyfathrebu, gan arbed un swydd. Unwyd yr Adran Eisteddfod a’r Maes, a derbyniodd Siân Eirian swydd Cyfarwyddwr Eisteddfod a Gwl ar secondiad am gyfnod o 18 mis gan rannu ei dyletswyddau fel Cyfarwyddwr Talaith y Gogledd rhwng Cyfarwyddwyr Taleithiol y Canolbarth a’r De. Peidiwyd â pharhau â swyddi a oedd ar gytundebau penodol ac ail-edrychwyd ar sefyllfa ceir y mudiad. Roedd hyn i gyd yn ddigon i roi’r cyfrifon mewn trefn a gwneud amcangyfrifon positif am y flwyddyn ariannol 2001/2002. Yna ym mis Mawrth daeth problemau oherwydd y clwy.
b. Eglurwyd pam na chyfarfu’r Bwrdd Busnes ym mis Mawrth fel yr arferid, gan fod y Pwyllgor Gwaith wedi bod yn cwrdd yn wythnosol yn ystod yr argyfwng. Mynegwyd siom gan ddau aelod o’r Bwrdd Busnes gan eu bod wedi teimlo rhwystredigaeth oherwydd diffyg gwybodaeth.
c. Edrychwyd ar gyfrifon 2000/2001 ac amcangyfrifon 2001/2002 a chafwyd eglurhad ar y ffigurau
Effaith Y Clwy a. Llangrannog – wedi disgwyl £130,000 o incwm yn fis Mawrth (gweler y daflen o eglurhad), ond collwyd £80,000. Collwyd pedwar grý p ym mis Ebrill, ond gan mai mis cynta’r flwyddyn yw mis Ebrill mae 11 mis ar ôl i godi’r incwm. Mae’r clwy a’r argyfwng tanwydd a fu ym mis Medi wedi’i gwneud hi’n flwyddyn ‘ddiddorol’ iawn! Serch hynny, mae’r flwyddyn 2001/2002 yn edrych yn addawol. Eglurwyd ein bod wedi cael cyfarwyddyd gan brif filfeddyg y cynulliad ynglÿ n â chau ac agor y gwersylloedd.
b. Glan-llyn – (gweler y daflen) roedd mis Mawrth i fod y mis prysuraf yn hanes y gwersyll – yna daeth y clwy. Mae hyn yn dorcalonnus gan fod y staff i gyd wedi gweithio mor galed i gyrraedd y targed. Mae’r clwy yn effeithio ar y gwersyll o hyd gan na ellir cynnal cyrsiau amgylcheddol na mynd ar dir amaethyddol.

Mawrth - £56,000 o golled, Ebrill - £15,000 o golled a rhagwelir y bydd colled Mai yn £28,000. Mae mis Mehefin yn edrych yn well. Mae’r golled ddisgwyliedig oherwydd yn clwy yn £93,000 yng Nglan-llyn. Oni bai am y clwy mi fyddai’r gwersyll wedi bod £30,000 - £40,000 dros darged.

Holwyd beth oedd ymrwymiad yr Urdd i gynllun datblygu Llangrannog. Eglurwyd fod £100,000 wedi’i wario o arian mae’r gwersyll wedi bod yn ei roi i'r neilltu ers dwy flynedd i dalu am hyn. Mae’r cynlluniau wedi’i lleihau o £6miliwn i £3½miliwn gan ganolbwyntio ar lety newydd yn lle’r cabanau pren, a neuadd chwaraeon newydd. Gobeithir y bydd 80% - 90% o’r cynllun yn cael ei ariannu gan arian cyhoeddus - mae Jim wedi bod mewn trafodaethau gydag Edwina Hart yn ddiweddar a bu Mike German ar ymweliad â’r gwersyll yr wythnos ddiwethaf.

c. Eisteddfod – dau gyfarfod o Fwrdd yr Eisteddfod wedi’i gynnal i drafod gohirio’r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Roedd yn anorfod ein bod yn ei gohirio gan mai dim ond chwech allan o’r 16 rhanbarth oedd wedi gallu cynnal eisteddfodau. Cafwyd eglurhad o’r sefyllfa ariannol a sut y bu i Eisteddfod na chafodd ei chynnal gostio cymaint (gweler y daflen). Pe baem wedi cario ‘mlaen i gynnal yr Eisteddfod gyda cyn lleied wedi gallu cymryd rhan yn y cylch a sir, yna mi fyddai’r golled ariannol wedi bod hyd yn oed yn fwy. Diolchodd Jim i bawb o’r staff ar draws y mudiad a fu’n gweithio’n gyson tan hanner nos yn ystod y cyfnod o aildrefnu a gohirio eisteddfodau, ond yn y diwedd, er tegwch â phawb – y cystadleuwyr, yr arweinyddion, y cymunedau, yr awdurdodau addysg a’r Cynulliad – bu’n rhaid gohirio.
ch. Gweithgarwch y Maes – Diolchwyd i’r ysgrifenyddion cylch a rhanbarth am eu gwaith dros y cyfnod. Mae’r darlun o weithgarwch yn amrywio o ardal i ardal, gyda rhai canghennau dal i gynnal gweithgareddau mewn ardaloedd ‘glân’ ac eraill mewn ardaloedd heintiedig ar stop. Yn fras, mae tua hanner y gweithgareddau wedi’i dileu dros y deufis diwethaf.

Ni fydd y gwyliau chwaraeon cenedlaethol yn cael eu cynnal yn Aberystwyth fis Ebrill/Mai gan nad oedd y caeau ar gael i gynnal unrhyw beth, ond mi fydd Gý yl Rygbi’r Urdd yn cael ei chynnal yn Llanelli yr wythnos nesaf. Mae staff y maes wedi bod dan bwysau aruthrol gyda rhai canghennau yn holi am eu tâl aelodaeth yn ôl, ond mae ymateb y staff wedi bod yn bositif iawn ac maent yn edrych ymlaen at fis Medi ac at ailadeiladu’r Urdd.

Crynodeb o Golledion oherwydd Y Clwy Eglurwyd fod cyfanswm y colledion yn £530,000 (£190,000 o’r gwersylloedd a £340,000 o’r Eisteddfod). Pwysleisiwyd mai effaith pur y clwy traed a’r genau yw’r colledion yma.
Penderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith/Panel Personél a. Staffio – bu dau gyfnod o benderfyniadau gan y Pwyllgor Gwaith
i.– effaith cau’r gwersylloedd – penderfynwyd y byddai’r gweithlu yn mynd i lawr i weithio 3 diwrnod yr wythnos pe bai’r gwersylloedd ar gau am gyfnod o dros ddau fis.
ii.– effaith gohirio’r eisteddfod – byddai’n rhaid i staff fod yn gweithio 3 diwrnod yr wythnos am gyfnod o hyd at flwyddyn i ddod dros y broblem yma, felly cynigwyd opsiynau i staff – ymddeoliad cynnar; misoedd o wyliau di-dâl; secondiad i swydd arall; diswyddo gwirfoddol. Dim ond dau wirfoddolwr ddaeth i law, felly roedd yn rhaid wynebu diswyddo hyd at 15 o staff. Penderfynwyd diswyddo pob swyddog datblygu cynorthwyol gan arbed £80,000. Bellach mae 16 o staff wedi eu diswyddo yn bennaf o adrannau’r Eisteddfod a Gwasanaethau Canolog gyda thargedau i leihau costau cyflogau yn y Gwersylloedd yn ystod y flwyddyn (trwy beidio â phenodi pan ddaw swyddi yn wag) gan ddod ag arbedion o £150,000. Penderfynwyd na fedrid lleihau’r gweithlu yn fwy na hyn heb effeithio ar weithgarwch y mudiad – felly penderfynwyd gwerthu eiddo i arbed swyddi.
b. Eiddo - Mae’r adeilad yng Nghaernarfon ar fin cael ei werthu am £72,000 ac mae Pencadlys yr Urdd yn Aberystwyth ar werth am tua £250,000. O wneud hyn oll (sef gwerthu eiddo a diswyddiadau) daw ag £470,000 tuag at gau’r twll ariannol o £530,000.
Mae angen creu strategaeth sy’n rhoi arian wrth gefn i ni fel y gellid ei ddefnyddio mewn argyfwng. Dywedwyd bod y staff presennol yn gwybod bod eu swyddi yn ddiogel, a mynegwyd pryder fod cymaint o swyddi o’r adran Eisteddfod yn cael eu colli. Ni enwyd unigolion gan fod trafodaethau yn dal i gael eu cynnal. Mynegwyd fod grant o £50,000 tuag at gynnal yr Eisteddfod yn fach iawn, a dim ond tua £475,000 o grant mae’r Urdd yn ei dderbyn fel mudiad ar drosiant o £4miliwn. Dylid chwilio am grantiau mawrion tuag at gynnal yr Urdd. Un peth sydd wedi dod i’r amlwg trwy’r argyfwng yma yw cyn lleied o grantiau mae’r Urdd yn ei dderbyn i redeg y mudiad (sef 12% o’n hincwm).

Dywedwyd fod angen mynegi ein diolchiadau i’r holl swyddogion datblygu cynorthwyol a fu’n gweithio yn y rhanbarthau dros y blynyddoedd diwethaf.

Holwyd a ellid cael rhestr o’r holl benderfyniadau a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Gwaith er gwybodaeth – nodwyd eu bod yn cael eu cofnodi a bydd y cofnodion yn cael eu dosbarthu yn fuan.

Diolchwyd i bawb am eu gwaith dros y misoedd diwethaf - bu’n gyfnod ofnadwy o anodd i bawb.

Mynegwyd fod yr eglurhad a gafwyd gan y Cyngor yma yn ateb gofidiau rhai, yn enwedig rhai oedd ar y Bwrdd Busnes, a’i bod yn bwysig fod pawb yn mynd o’r cyfarfod wedi’u harfogi gyda’r atebion.

Amcangyfrifon newydd drafft am ganlyniadau ariannol 2000/2001 Oni bai am y clwy traed a’r genau mi fyddem yn wynebu colledion oddeutu £132,000. Y golled yn cynnwys popeth am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2001 yw tua £511,359. Rhaid edrych ar draws dwy flynedd i gael gweld yr effaith lawn (gweler y daflen).
Dyfodol Mae amcangyfrifon newydd ar gyfer 2001/2002 yn obeithiol am weddill yn ogystal â chyfraniad o £470,000 tuag at golledion y clwy. Jenny Randerson o’r Cynulliad yn rhyddhau datganiad heddiw (Sadwrn) yn datgan fod y Cynulliad yn rhoi £150,000 tuag at daith cyhoeddusrwydd yr Urdd fis Medi. Arian a oedd wedi’i glustnodi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn Llandudno 2002 oedd hwn i fod, ond nawr mae wedi cael ei ailgyfeirio at y daith yma gan roi peth arian at gynnal staff i weithio ar y cynllun. Canmolwyd y Cynulliad am eu cydweithrediad trwy’r cyfnod yma.
Polisi Arian Wrth Gefn Mae’r rhan fwyaf o arian wrth gefn yr Urdd mewn eiddo neu’r farchnad stoc, ond rhaid creu strategaeth parthed adnoddau wrth gefn i wynebu argyfyngau. Yn ôl argymhellion y Comisiwn Elusennau dylai bo gan yr Urdd hyd at 6 mis o drosiant h.y. oddeutu £2m Holwyd a yw’r Urdd yn gwybod faint o arian sydd allan mewn gwahanol gyfrifon ledled Cymru. Mae’r swyddogion datblygu wrthi’n casglu’r wybodaeth gan drysoryddion canghennau’r Urdd. Mae dau ranbarth wedi benthyg arian i’r Urdd am log sy’n uwch nag unrhyw gymdeithas adeiladu ond sy’n rhatach na’r llog y byddai’n rhaid i’r Urdd dalu i unrhyw fanc. Dylid holi pob rhanbarth a ydynt eisiau gwneud rhywbeth tebyg fel bod pawb yn helpu’i gilydd.
Gwyl Yr Urdd Eglurwyd y sefyllfa gan Siân Eirian – gwyl 3 diwrnod (Mercher hyd Gwener) mewn 3 canolfan deledu gyda gwahoddiad i rai a gyrhaeddodd lwyfan y genedlaethol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Bydd rhaglen dydd Mawrth i egluro’r gwyl a rhoi sylw i’r cystadlaethau celf a chrefft. Mercher - dan 12, Iau -dan 15, Gwener - Urddaholics. Dydd Sadwrn edrych yn ôl ar yr uchafbwyntiau a bydd slotiau uchafbwyntiau yn cael eu darlledu gyda’r nos hefyd. Caernarfon fydd y brif ganolfan a bydd sylw yn cael ei roi i’r prif lenorion, Neges Ewyllys Da a Thlws John a Ceridwen.

Bydd Eisteddfod 2002 yn cael ei chynnal yn yr un man ac y bwriedid ei chynnal eleni, a bydd testunau llenyddol newydd yn unig yn cael eu argraffu ar gefn y gyfrol gyfansoddiadau eleni. Cedwir yr holl destunau eraill fel rhai eleni. 3 – 8 Mehefin fydd dyddiadau Eisteddfod 2002.

Taith Yr Urdd Talwyd teyrnged i staff y maes mewn cyfnod o ansicrwydd a bygythiad i swyddi pawb. Mae Taith Urddaholics wedi bod yng Ngwlad Pwyl i adnewyddu rhan o gartref i blant amddifad. Bydd Gý yl Rygbi’r Urdd yr wythnos nesaf gyda 108 o dimau oedran uwchradd yn cymryd rhan. Hwn yw’r twrnament rygbi mwyaf yng Nghymru. Mae taith wedi bod i Lundain gan roi cyfle i gael profiadau theatrig. Mae tri bws yn mynd i Barcelona, pedwar bws yn mynd i Ffrainc a thaith Urddaholics yn mynd i’r Iseldiroedd. Bydd Parti Ponty yn digwydd fis Gorffennaf ac mae’r Urdd yn ganolog yn y trefniadau.
a) Taith Gynradd
Y tro diwethaf i Mistar Urdd gael ei weld oedd yn y gofod. Bwriedir ymweld ag ysgolion cynradd yn ystod mis Medi hyd ganol Tachwedd gan weld rhwng 20,000 a 30,000 o blant.
b) Taith Uwchradd
Bwriedir mynd â sioe o gwmpas yr ysgolion uwchradd a fydd yn ymdrin â Chymreictod a’r Gymraeg fis Ionawr – Chwefror gan gyplysu hyn â thaith gwersylloedd.
c) Urddaholics
Gobeithir trefnu 3-4 o gigs mawr ar draws Gymru gydag apêl at yr Urddaholics
Mynegwyd fod tua 100,000 o ymwelwyr yn flynyddol â’n safle gwe ni a bod gan BT ddiddordeb mewn noddi’n safle. Mae angen meddwl am syniadau newydd radical yn y Cyngor nesaf i ail-gynllunio’r mudiad, gan feddwl am ffyrdd o gael barn ein haelodau am yr hyn yr hoffent i’r Urdd ei ddarparu ar eu cyfer.
Ymgyrch Godi Arian Mae dwy farn ynglyn â hyn – mae rhai yn awyddus i godi arian i’r Urdd ond barn eraill yw ei bod yn anodd ar gymunedau gwledig hefyd – nid dim ond yr Urdd sy’n dioddef. Mynegwyd fod angen gosod strwythur yn ei le sy’n gwneud cyfrannu arian i’r Urdd yn syml – nid apêl genedlaethol ond cyfraniadau gan unigolion, gan gyplysu hyn gyda'r daith Marchnata yn yr Hydref.
Unrhyw Fater Arall i) - Cofier am Ddydd Ewyllys Da 18 Mai.
ii) - Penderfynwyd gohirio’r drafodaeth ynglÿ n ag arwyddair yr Urdd tan Y Cyngor ym mis Tachwedd.
iii) - Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf yn arbennig.