URDD GOBAITH CYMRU - CYNGOR, 17 TACHWEDD 2001
Cofnodion o'r Cyngor a gyfarfu yng Ngwersyll Llangrannog ar ddydd Sadwrn, 17 Tachwedd 2001.
Presennol: Rhiannon Lewis; Geraint Rees; Ifan Prys Edwards; Wynne Melville Jones; Eurig Davies; Dyfrig Ellis; Eirith Evans; Manon Jones; Meriel Parry; Alwyn Owen; Mair Jones; Siôn Edwards; Peter Harries; Gwyndaf Roberts; Alun Roger Parry; Edward M. Jones; Gerallt Rhun; Patric Stephens; Carol Davies; Glyn T. Jones; Eddie Jones; Lyn Mortell; Haf J. Morris; Dennis Davies; Jim O'Rourke; Mai Parry Roberts; Iola Jones; Dyfrig Morgan; Efa Gruffudd; Siân Eirian a Siân Eleri Davies.
Ymddiheuriadau: Dyfrig Llÿ r Jones; Marc James; Dylan Jones; Bob Roberts; Siân Eurig; Iola ab Eurfyl; Buddug Llwyd Jones; Janet Evans; Rhian Rowe; Gwawr Davies; Peter Davies; John Rees; Lynda White; Ken Parfitt; Stan Lyall; Alun Jones; Dilwyn Price; Menna Jones; Huw Llywelyn Davies; Carys Williams; Anne Hughes; Ceri Pierce Hughes; Alwyn Ifans; Alun Owens; Dafydd Carrington.
1. Adroddiad o'r Bwrdd Busnes
Adroddodd Geraint Rees fod llif ariannol y mudiad dros y 6 mis diwethaf yn iach, a bod mwy o wersyllwyr wedi bod i'r gwersylloedd dros y chwe mis diwethaf na'r cyfnod cyfatebol y llynedd. Ychwanegodd y gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn wahanol iawn pe bai'r Clwy wedi ymledu i Wynedd a/neu Ceredigion.
Nododd fod y Bwrdd Busnes wedi cymeradwyo camau i ail sefydlu'r Fforwm Staff i drafod materion yn ymwneud ag amodau gwaith staff.
Adroddodd ar ddatblygiadau eiddo:
Aberystwyth - popeth ar y gweill
Llangrannog - ceisiadau'n mynd yn eu blaenau.
Glan-llyn - cynllun cyffrous ar y gweill
Dinas Ddu - penderfynwyd symud ymlaen i'w adnewyddu
Cymeradwyodd y Bwrdd Busnes ryddhau swm i gynorthwyo Swyddogion Datblygu (o 10k) yn y cyfnod Ionawr - Mawrth.
2. Adroddiad o Fwrdd Y Maes
Nododd Edward Morus Jones ei ddiolch i'r rheiny a ymgymerodd â'r gwaith o redeg Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych. Trafodwyd adroddiad Edward Elias, o Ben-llyn, a phenderfynwyd fod Bwrdd y Maes am awgrymu i'r Cyngor a fyddai modd i'r Urdd gydweithio âr mudiadau ieuenctid eraill i ystyried beth ellir ei wneud ynglÿ n â phroblemau ieuenctid yng nghefn gwlad. Trafodwyd y £150,000 a gyfrannwyd gan y Cynulliad tuag at daith hyrwyddo'r Urdd i ysgolion cynradd ac uwchradd, a nodwyd y byddai canran sylweddol yn cael ei wario ar offer i'r mudiad at ddefnydd i'r dyfodol. Trafodwyd gwaith "Cyd-ddyn a Christ" yr Urdd a phwysleisiwyd fod angen i'r neges Ewyllys Da fod yn un sensitif yn yr hinsawdd bresennol. Nodwyd mai Calcutta fyddai canolbwynt ymgyrch y flwyddyn nesaf. Trosglwyddodd farn y Bwrdd y Maes fod angen trefnu rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i weithgareddau'r Urdd. Trafodwyd polisi iaith ir mudiad a phenderfynwyd trefnu cynhadledd ar 19 Ionawr 2002 i'w thrafod ymhellach a'i gyflwyno ir Cyngor ym Mehefin.
Nodwyd fod y Strategaeth Chwaraeon wedi ei derbyn.
Yn dilyn adroddiad Edward Morus Jones, gofynnodd Wynne Melville Jones a fyddai modd creu cysylltiad rhwng plant Cymru a phlant Afganhistan a Phacistan. Mynegodd ei fod yn ddyletswydd ar yr Urdd fel mudiad i greu cynllun o'r fath. Ymatebodd Edward Morus Jones trwy ddweud fod y Panel Cyd-ddyn Crist wedi ystyried hyn, ond fod cymaint o waith wedi ei fuddsoddi yn y cynllun 'Calcutta' fel eu bod o'r farn y byddai mabwysiadu prosiect arall yn anymarferol ar hyn o bryd. Ychwanegodd Jim O'Rourke fod trefniadau ar y gweill i anfon dau aelod o staff i India, fel rhan o'r prosiect 'Calcutta'. Bydd ymholiadau yn digwydd gyda Cymorth Cristnogol parthed posibiliadau yn Afganhistan.
3. Adroddiad o Fwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau
Croesawyd Heulyn Rees fel aelod o staff llawn amser newydd i'r adran.
Adroddwyd fod Eisteddfod Caerdydd yn mynd yn ei blaen, er bod rhai anawsterau, er enghraifft cynnydd mewn costau pebyll
Nododd Eurig Davies fod y Bwrdd hefyd wedi trafod y drefn o osod marciau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond nad oedd penderfyniad terfynol wedi ei wneud.
Nododd hefyd fod yr arfer o roi tocynnau llyfrau i enillwyr hefyd wedi ei ddileu.
Nododd hefyd ysgoloriaeth gelf newydd.
Trafodwyd Eisteddfod 2003, a nodwyd fod y gwaith o drafod gyda'r Cyngor ynglÿ n â defnyddio Parc Margam yn mynd yn ei flaen.
Yn 2005, bydd yr Eisteddfod yn gobeithio mynd i'r adeilad newydd yn y bae.
Adroddodd Eurig Davies ar gyfarfod a gynhaliwyd ar y cyd â chynrychiolwyr o'r Bwrdd Busnes, ac mai'r prif argymhelliad a ddaeth o'r cyfarfod fyddai penodi ymgynghorydd i ystyried sefyllfa bresennol yr eisteddfod, ac i gynnig awgrymiadau i'r dyfodol.
Ychwanegodd fod S4C yn awyddus i'r Urdd ystyried trafod cynnal gý yl ar wahân i'r Eisteddfod.
Argymhellodd hefyd fod y Cyngor yn cefnogi Cais Caerdydd i fod yn brifddinas diwylliant yn 2008.
Cymeradwyodd y Cyngor yr argymhelliad i benodi ymgynghorydd i ymgymryd ag arolwg o gryfderau/gwendidau'r Eisteddfod a'r argymhelliad i gefnogi cais Caerdydd ar gyfer Prifddinas Diwylliant 2008.
4. Cynllun Corfforaethol/Cynllun Busnes
Rhoddodd Jim O'Rourke adroddiad ar y Cynllun Corfforaethol a'r Cynllun Busnes a luniwyd gyda chymorth Cyfarwyddwyr adrannau'r Urdd. Nododd fod y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys targedau hawdd eu mesur. Eglurodd fod y Cynllun Busnes yn ddogfen sy'n rhoi mwy o fanylder ynglÿ n â thrywydd gwaith y mudiad. Nododd fod y Cynllun Busnes yn cynnwys cynllun ar gyfer ail adeiladau cronfeydd wrth gefn y mudiad dros y cyfnod 2001 - 2005.
Ychwanegodd fod perchnogaeth gan pawb sydd yn gysylltiedig â'r Urdd, gan gynnwys gwirfoddolwyr a staff yn bwysig i lwyddiant gweithredu'r hyn sydd yn y dogfennau.
Cyflwynodd hefyd ddogfen ar anfantais gymdeithasol' at sylw'r cyngor. Dogfen sydd yn profi fod y mudiad yn fudiad i blant Cymru gyfan, gan fod canran sylweddol o'n haelodau yn dod o gymunedau difreitiedig. Dywedodd ei fod hefyd yn awyddus i'r Urdd dderbyn yr her o gynyddu gweithgareddau mewn cymunedau difreitiedig. Bydda'ir ddogfen yn ffurfio rhan o Gynllun Busnes y mudiad.
Cododd Edward Morus Jones sylw at darged 6:5 'Dyngarol ac Ysbrydol' ac awgrymodd gryfhau'r geiriad o - "obeithio" i "anelu at". Eglurodd Jim nad oedd yn gwrthwynebu'r newid, ond fod sianelai priodol i ystyried penodi swyddi newydd i'r mudiad.
Trafodwyd hefyd angen mynd trwy y berthynas yr Urdd â phlant o dan 8 oed a'r angen i fod yn ofalus cyn cynnig gweithgareddau i grwpiau o blant dan 8 oed.
Cododd I. Prys Edwards nifer o faterion y dylai'r Urdd eu hystyried er enghraifft - dyfodol aelwydydd ac adrannau, ac y dylai'r Cyngor drafod materion ehangach na'r hyn y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, er enghraifft dyheadau ieuenctid. Pwysleisiodd ei fod am weld newidiadau, a'i fod wedi cyflwyno papur i Jim ar ddyfodol yr Urdd.
Dywedodd Rhiannon Lewis fod Bwrdd y Maes wedi trafod materion o'r fath yn ystod y bore.
Awgrymodd I. Prys Edwards y dylair Cyngor gynnal cyfarfod di-agenda i wyntyllu ystod eang o bethau. Ategodd Geraint Rees ei fod yn amserol gwneud hynny.
Dywedodd Jim O'Rourke ei fod yn derbyn llawer o'r sylwadau a wnaed ond fod y Cynllun Corfforaethol yn dangos newid trywydd lle y bydd llawer mwy o benderfyniadau ynglÿ n â gweithgareddau'r Urdd yn y dyfodol yn cael ei harwain gan ei aelodaeth, gan mai'r aelodaeth yw prif ffocws gweithgareddau'r mudiad.
Penderfynwyd aros tan y cyfarfod nesaf o'r Cyngor cyn trafod y mater ymhellach.
5. Unrhyw fater arall
Dyddiad y cyfarfod nesaf fydd ddydd Sadwrn, 22 Mehefin 2002.