![]() |
URDD GOBAITH CYMRU - CYNGOR, 23 MEHEFIN 2001 |
|
Cofnodion o'r Cyngor a gyfarfu yng Ngwersyll Glan-llyn ar ddydd Sadwrn, 23 Mehefin 2001. |
||
Presennol: Rhiannon Lewis; I. Prys Edwards; Wynne Melville Jones; Geraint Rees; Eurig Davies; Marc James; Eirith Evans; Manon Jones; Alun Edwards; Iolo ab Eurfyl; Buddug Llwyd; Meriel Parry; Gwyndaf Roberts; Gerallt Rhun; Gwyn L. Morris; Dilwyn Price; Catrin Rhys Roberts; Edward M. Jones; Stan Lyall; Carys Lewis Jones; Lyn Mortell; Carys Williams; Llinos Ann Roberts; Lona Evans; Carol Davies; Nia Chapman; Glyn T. Jones; Marion Owen; Alun Roger Parry; Alun Jones; Ken Parfitt; John Rees; Jim O'Rourke; Mai Parry Roberts; Iola Jones; Siân Eleri Davies; Efa Gruffudd; Dafydd Carrington; Siân Eirian; Dyfrig Morgan; Alun Owens.
Ymddiheuriadau: Dyfrig Jones (Llywydd); Bob Roberts; Alwyn Evans; Ceri Pierce Hughes; Arwel Roberts; Eirian Jones; Edwin Jones; Nia Jones; Tudur Dylan Jones; Siôn Edwards; Janet Evans; Siân Eurig; Eddie Jones; Delyth James, Ruth Davies; Siân Vaughan Jones; Marilyn Lewis; Dyfrig Ellis; Anne Hughes; Gwawr Davies; Patric Stephens.
1. Croesawyd pawb gan y Cadeirydd Rhiannon Lewis gan ddiolch i Alun a staff Glan-llyn. Nodwyd bod cyfnod anodd wedi dod i ben a bod cynlluniau yn awr i ail lansio'r mudiad yn yr Hydref. Roedd yr ý yl yn llwyddiannus iawn gyda chydweithio braf rhwng y staff, gwirfoddolwyr a'r cyfryngau - y wasg, radio a theledu.. Diolchwyd i Siân Eirian â'r tîm.
2. Derbyniwyd cofnodion 25 Tachwedd 2000 a 28 Ebrill 2001 fel rhai cywir.
3. Adroddiad o'r Bwrdd Busnes (gan Geraint Rees Trysorydd) | Diolchwyd Geraint i Bob Roberts am ei waith dros nifer o flynyddoedd. Nodwyd effaith y clwy ar lif arian y mudiad gan ddisgwyl colledion o gwmpas £500,000 am y flwyddyn 2000 - 2001. Roedd y colledion cyn effaith y clwy fel roeddwn yn disgwyl tua £120,000 ac roedd penderfyniadau wedi ei gwneud yn Chwefror i osod amcangyfrifon bositif am 2001 - 2002. Roedd pob adran wedi cadw o fewn eu cyllideb gwariant am y flwyddyn gyda rheolaeth da ar y costau ond roedd y targedau incwm yn rhy obeithiol. Roedd effaith y Clwy Traed a'r Genau dros £500,000 ar draws dwy flwyddyn ariannol ond roedd arwyddion ein bod wedi troi cornel gyda ffigyrau incwm calonogol yn y Gwersylloedd a llwyddiant yr gwyl. | |
Mae torri ar staffio ar draws y mudiad yn broses boenus ac roedd rhaid cael sicrwydd i'r staff sy ar ôl. Edrychwn nawr at gyfleoedd i godi incwm trwy grantiau neu nawdd gan aneli at ail adeiladu i lenwi bylchau fel bo angen. | ||
Mae gwerthu eiddo yn symud ymlaen trwy gyfnewid cytundeb i werthu Caernarfon a chryn ddiddordeb yn y swyddfa yn Aberystwyth. Cefnogwyd y cynnig bod y Cadeirydd, Trysorydd a'r Prif Weithredwr yn cael yr hawl i wneud penderfyniad i dderbyn y cynnig gorau. Mae yna arwyddion mwy obeithiol am gefnogaeth grantiau i ddatblygiadau arfaethedig yn Llangrannog hefyd. | ||
Nodwyd pryder am gost gynyddol i'r mudiad am yswiriant ond penderfynwyd gan y Cyngor bod angen Yswiriant Cyfrifoldeb Cyhoeddus am £10 miliwn yn hytrach na £2 miliwn. Nodwyd bod gan yr Urdd hanes da iawn yng nghyd-destun gofal plant ac asesiad risg ar bob gweithgaredd. | ||
Adroddwyd bod y Bwrdd Busnes yn awyddus i gydnabod teyrngarwch y staff au hymrwymiad i'r mudiad yn ystod y misoedd anodd. Roedd y Bwrdd yn awyddus i godi cyflogau mewn cyd-destun costau byw ond yn ceisio bod yn ofalus oherwydd effaith y Clwy Traed a'r Genau. Cefnogwyd cynnig Y Bwrdd Busnes bod cyflogau yn codi ar draws y mudiad fel a ganlyn: o 1 Ebrill - 31 Awst 2001 - 1.7% (wedi ei ôl-dalu) a 2% ychwanegol o 1 Medi - 31 Mawrth 2002. Cefnogwyd codi tâl aelodaeth i £4.50 gyda manteision i aelodau sy'n ymuno cyn 31 Rhagfyr 2001 - C.D. arbennig i'r aelodau Uwchradd/Urddaholics a chyfres o sticeri i blant cynradd. 31 Rhagfyr 2001 fydd hefyd y dyddiad terfynol i ymaelodi er mwyn cystadlu yn Eisteddfodau 2002. | ||
Diolchwyd i'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Busnes a Phersonél a'r tîm staff am gario baich mawr trwy gydol y misoedd anodd. Nodwyd bod lleihad mawr yn y tîm staff e.e.10 sydd ar ôl yn Aberystwyth, 4 yn yr Adran Eisteddfod, yn ogystal â cholli Swyddogion Datblygu Cynorthwyol yn creu pwysau ychwanegol ar y tîm sydd ar ôl a bod angen trafodaethau gyda Bwrdd yr Iaith â'r Cynulliad i geisio cynyddu y grantiau sy'n cefnogi gwaith y mudiad. Nodwyd canmoliaeth i'r mudiad gan y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith am y ffordd gwnaethom ymateb i'r argyfwng - yn strategol a effeithiol ond bod angen edrych yn awr at ail adeiladu. | ||
4. Bwrdd Y Maes - Adroddiad gan Marc James (Ysgrifennydd yr Urdd) | Esboniwyd am yr angen am y Daith Gyhoeddusrwydd a diolchwyd am gefnogaeth Y Cynulliad (£150,000) i'r daith. | |
Chwaraeon - Nifer o ddigwyddiadau wedi eu gohirio ond Gý yl Rygbi llwyddiannus iawn yn Llanelli - gobeithio bydd Gwyliau Pêl-droed a Phêl-rwyd blwyddyn nesaf. | ||
Mae cryn waith hefyd ar hyn o bryd parthed Cyrsiau Hyfforddi Chwaraeon i'r staff a gobeithio cyn hir bydd gweledigaeth Chwaraeon yr Urdd yn cael eu cytuno gyda'r Cyngor Chwaraeon. | ||
Cyd-ddyn a Christ - Llongyfarchwyd Ysgol Gyfun Gwynllyw am y Neges Ewyllys Da. Cytunwyd bydd Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy yn paratoi Neges 2002. | ||
Nodwyd hefyd trafodaethau yn y Pwyllgor Cyd-ddyn a Christ a'r gobaith o gais i ariannu swydd sydd yn cael ei gyflwyno i DFID o fewn y misoedd nesaf. Ymgyrch 2001 - 2002 bydd "Croeso Calcutta" ar y cyd gyda Cymorth Cristnogol. | ||
Grant Lloyds/TSB - Derbyniwyd grant i gyflogi Swyddog rhan amser i weithio ar fynediad pobl anabl i weithgarwch yr Eisteddfodau Cenedlaethol. | ||
Adroddiad Edward Elias - Cyrhaeddwyd yr Adroddiad o dan unrhyw fater arall a phenderfynwyd er mwyn cael trafodaeth lawn ar y pwyntiau bod angen ystyriaeth ymlaen llaw gan aelodau'r Bwrdd ac ystyriaeth hefyd yn y Rhanbarth a'r Dalaith. | ||
Grantiau - Croesawyd y cyfle i i benodi dwy swydd ychwanegol yn y De yn dilyn llwyddiant ceisiadau am grantiau. Ariannir y swyddi yn llawn heb gyfraniad ychwanegol gan yr Urdd. Byddwn yn hysbysebu cyn hir. | ||
5. Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau - Adroddiad gan Eurig Davies | Adroddwyd am lwyddiant yr ý yl a rhan allweddol Siân Eirian o fewn wythnosau o gychwyn fel Cyfarwyddwr yr Adran. Datganwyd pryder am lefel staffio yn yr Adran - 4 llawn amser gyda'r amserlen yn bwrw ymlaen ar gyfer trefniadau 2002, 2003 a 2004. Bydd rhaid sicrhau adnoddau staff ychwanegol yn fuan. Nodwyd yr angen am gefnogaeth ar lefel uwch yn ariannol gan y Cynulliad neu Bwrdd yr Iaith. Gobeithir hefyd bydd modd elwa o'r ý yl 2001 mewn syniadau a threfniadau ir Eisteddfodau draddodiadol i'r dyfodol e.e. y rhaglenni teledu, proffil i'r prif enillwyr, portread o'r darn. Mae cymhlethdod hawlfraint yn broblem gynyddol. | |
Trafodwyd dileu yr holl dlysau ond penderfynwyd i barhau a'r trefniant ar hyn o bryd. Bydd y sefyllfa parthed gosod a chyhoeddi marciau i'r cystadlaethau yn cael ei arfarnu trwy'r Rhanbarthau. | ||
2002 Testunau Llenyddol/Gwaith Cartref ar gael trwy Cyfansoddiadau 2001 | ||
2003 Adolygu testunau ymhen pythefnos. | ||
2004 Ynys Môn - cyfarfod cyhoeddus ar 10 Medi 2001. | ||
2005 Canolfan Y Mileniwm. | ||
Mae trafodaethau ar y gweill ymlaen i 2012. | ||
Conwy 2000 - Cyrhaeddwyd £211,000 trwyr gronfa apêl. Llongyfarchwyd Pwyllgor Gwaith Bro Conwy ar eu llwyddiant. Disgwylir gweddill ar darged oddeutu £50,000 sef cyfraniad am wasanaeth gan yr Urdd trwy'r Gwasanaethau Canolog a'r Maes. | ||
Cronfa Pantyfedwen - Bydd yr arian yn cael ei rannu trwy'r Rhanbarthau. | ||
Y Dyfodol - Mae'r Cyfarwyddwr (Siân Eirian) yn awyddus i sefydlu grwpiau bach i sicrhau rôl mewn gweithredol gan aelodau'r Bwrdd. Mae angen ethol aelodau o'r Bwrdd i'r Pwyllgor Gwaith lleol gyda lle i Gadeirydd pob Pwyllgor Gwaith Eisteddfodau Cenedlaethol ar y bwrdd canolog. | ||
Caerdydd 2002 - Nodwyd y dyddiadau, 3 - 8 Mehefin (wythnos hanner tymor). | ||
Adroddiad - Nodwyd bod Ian Carter yn paratoi adroddiad i'w gyflwyno i Bwrdd yr Iaith a'r Cynulliad am gostau cynnal safleoedd amrywiol i'r dyfodol. Gobeithio bydd mod adeiladu cais am gymorth ychwanegol. | ||
Aelodau Byrddau - Cytunwyd i'r awgrym gan y Bwrdd Eisteddfod bod angen cyfethol aelodau o'r Rhanbarthau sy heb gynrychiolaeth yn barod o'r Taleithiau ar y Byrddau (i bob Bwrdd). Mae angen cyfethol o restr aelodau'r Cyngor (sef y pedwar cynrychiolydd o bob rhanbarth). | ||
Nodwyd yn ychwanegol bod angen cynrychiolydd o'r Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol gyfredol i fod ar y Bwrdd Busnes. Cefnogwyd y cynigion gan y Cyngor. | ||
6. Y Dyfodol - Adroddiad gan y Prif Weithredwr (Jim O'Rourke) | Datganwyd bod y mudiad yn edrych yn hyderus i'r dyfodol ar ddiwedd cyfnod digon anodd. Roedd y clwy wedi effeithio ar bob agwedd - o'r Gwersylloedd a'r Maes i'r Eisteddfod, o ddigwyddiadau Cenedlaethol i rai lleol. | |
Nodwyd cyfraniad pwysig y gwirfoddolwyr a'r angen i sicrhau cefnogaeth iddynt a'r gobaith bydd modd gwella ar hyn i'r dyfodol. | ||
Nodwyd Taith yr Urdd fel cam bositif i ail lansio'r mudiad gan ddefnyddio cyllideb arbennig o'r Cynulliad at y pwrpas. Rydym yn cychwyn ar y broses o ail adeiladu ond yn ceisio rhedeg y mudiad gyda 25 yn llai o staff ar hyn o bryd. | ||
Nodwyd llwyddiant ysgubol ein safle we gyda 17,000 o ymwelwyr yn ystod mis Mai (197,000 o hits) a 1,254 o ymwelwyr mewn diwrnod - y mwyaf erioed ac ymwelwyr o 42 o wledydd i'r gwyl a'r y we. | ||
Nodwyd wrth ail strwythuro a thrafod yn y Byrddau a chyda staff bod y swydd Cyfarwyddwr i'r Adran Eisteddfod ar Celfyddydau yn hanfodol ond bod modd sicrhau mwy o gydweithio rhwng staff sy'n gweithio ar agweddau o'r Eisteddfod, y Celfyddydau a'r Maes. | ||
Y Daith - Adroddiad gan Dyfrig Morgan | Esboniwyd nod a chynnwys y daith a'r tair elfen i'r adrannau gwahanol - cynradd, Uwchradd a'r Urddaholics. Bydd sioe broffesiynol gyda Mistar Urdd yn cychwyn ym Medi i'r oed cynradd gyda sioe wahanol i'r oedran uwchradd i'r Ysgolion Cymraeg/Dwyieithog yn Hydref/Tachwedd a sioe i'r ysgolion ail Iaith yn Ionawr/ | |
Chwefror. Mae trefniadau yn cychwyn hefyd i ddigwyddiad mawr yng Nghaerdydd ir urddaholics yn Nhachwedd - tocyn gêm rygbi, cyngerdd a theithio o bob rhan o Gymru am bris sy'n cynnwys bob dim - am £20.00 - £25.00 | ||
Nodwyd gan Prys Edwards yr angen i ddefnyddio'r daith i sicrhau atborth o'r aelodau ac yna cynllunio i adfwy ein darpariaeth yn ôl dymuniadau'r aelodau. Mae'n amserol i'r mudiad gynllunio ac arbrofi a datblygu gweithgareddau newydd sy'n apelio i'r oedrannau gwahanol. | ||
7. Unrhyw fater arall | Nodwyd bod cyfraniadau yn cyrraedd yn dilyn llwyddiant yr ý yl a'r sylw i'r mudiad ar y rhaglen deledu - Y Byd ar Bedwar. Bydd y cyfle i gyfrannu yn cael ei hysbysebu yn yr Hydref ond ni fydd lansio apêl arbennig. | |
8. Dyddiad a lleoliad y Cyngor nesaf | - 17 Tachwedd 2001 yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog gyda Chyngor yr Haf yn Aberystwyth ym Mehefin |