URDD GOBAITH CYMRU - CYNGOR, 23 TACHWEDD 2002

Cofnodion o'r Cyngor a gyfarfu yng Ngwersyll Glan-llyn ar ddydd Sadwrn, 23 Tachwedd 2002.

Presennol: Rhiannon Lewis (Cadeirydd); Eirith Evans (Llywydd); Geraint Rees (Trysorydd);

Prys Edwards (Llywydd Anrhydeddus); Alun Edwards, Alwyn R. Owens, Edward Morus Jones, Gwyndaf Roberts, Meriel Parry, Menna E. Jones, Lyn Mortell, Eirian Jones, Edwin Jones, Gwyn Griffith, Ifan Alun Puw, Dennis Davies, Haf J.Morris, Iolo ab Eurfyl, Manon Jones, Eirug Davies,

Emyr Williams, Jim O'Rourke, Mai Parry Roberts, Dyfrig Morgan, Iola Jones, Dafydd Carrington, Siân Eirian; Efa Gruffudd, Alun Owens, Siân Eleri (Staff).

Ymddiheuriadau: Bob Roberts, Siôn Edwards, Marc James, Tudur Dylan, Dyfrig Ellis, Ken Parfitt, Dilwyn Price, Janet Evans, Anne Hughes, Linda White, Patric Stephens, Buddug Llwyd Jones, Carol Davies, Huw Ll. Davies, Ceri P. Hughes.

1. Croesawyd pawb i'r Cyngor gan y Cadeirydd, a diolchwyd am y llety yng Nglan-llyn.

2. Cofnodion 22 Mehefin 2002

Derbyniwyd rhain fel rhai cywir a chadarnhawyd trwy bleidlais y penderfyniadau a wnaethpwyd yn y cyfarfod hwnnw ac yng nghyfarfod 12 Tachwedd 2001, gan i'r ddau gyfarfod gwrdd heb y cworwm angenrheidiol.

3. Adroddiad o'r Bwrdd Busnes gan Geraint Rees

Adroddodd Geraint fod buddsoddiad o £10 miliwn yn Llangrannog, Glan-llyn a Chanolfan y Mileniwm dros y misoedd nesaf.   Esboniodd y gallai'r cyfrifon ar ddiwedd y flwyddyn ddangos elw sylweddol gan y gallai grantiau fod wedi dod mewn ond y biliau heb eu talu eto.  Roedd y Bwrdd Busnes yn awyddus i'r Prif Weithredwr roi pwysau sylweddol ar y C.R.B. i ddarparu ffurflenni drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer eu llenwi gan y staff.

Ni fydd yr Urdd yn ganolog yn trefnu raffl eleni.

Talodd Geraint deyrnged i waith y staff ynglÿ n â'r cynlluniau cyffrous yn y gwersylloedd.

4. Adroddiad o Fwrdd y Maes gan Rhiannon Lewis

Adroddodd Rhiannon (yn absenoldeb Marc)

* bod trafodaeth wedi bod ynglÿ n â maint/staffio talaith Myrddin,

* bod sawl penodiad newydd wedi eu gwneud,

* bod posibilrwydd cynnal penwythnos i fforymau ieuenctid yn y gwersylloedd i drafod materion o bwys.

* bod newid staffio mawr wedi bod yn yr adran chwaraeon - 5 aelod staff newydd.

* bod angen ailedrych ar y ddarpariaeth i Aelwydydd - bydd y Panel Chwaraeon yn edrych ar hyn ymhellach.

* bod lle'r gymnasteg yn yr ý yl chwaraeon wedi ei drafod.

Yn y panel derbyniwyd adroddiad gan Llinos ar waith dyngarol yr Urdd. Roedd Sul yr Urdd dydd Sul diwethaf yn llwyddiannus. Llongyfarchwyd Elidir ar y rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Neges Ewyllys Da 2003 - ysgol Gyfun Gwyr fydd yn gyfrifol.

Mae trafodaethau ar y gweill gyda Dolen Cymru Lesotho.

Bu ymweliad arall â chartref plant a amddifad Legnicia yng ngwlad Pwyl a llongyfarchwyd y criw ar ennill Gwobr Rhagoriaeth Ieuenctid.

Mae'r llyfryn gwasanaethau ar y ffordd.

Mae codi ymwybyddiaeth am Calcutta yn parhau a diolchwyd i Branwen, Cymorth Cristnogol a Manon Wyn am eu gwaith, ynghÿ d a Llinos.

Yn y panel hefyd trafodwyd dyddiad ymaelodi. Pwysleisiwyd bod rhaid sicrhau bod pob un yn aelod cyn cymryd rhan bob tro.

Bu llawer o newid staff yn Nhalaith y De.

Nodwyd bod angen gwella'r sylw i lwyddiannau'r Urdd yn y wasg.

5. Adroddiad o Fwrdd yr Eisteddfod gan Eurig Davies

Adroddodd Eurig i'r bwrdd gadarnhau bod croeso i ysgolion cynradd, uwchradd, ysgolion perfformio, adrannau pentref ac aelwydydd i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

Adroddwyd bod Eisteddfod Caerdydd a'r Fro wedi gwneud gweddill eithriadol o iach a bod Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan yn her. Rhoddwyd manylion am y gweithgareddau nos - sydd ddim yn gomisiynau newydd.

Adroddwyd na fydd lletya gyda theuluoedd yn cael ei gynnig. Bydd yr holl ragbrofion yn digwydd ar y maes a bod sefyllfa ariannol yn gwella.

Lleoliad Môn wedi ei gadarnhau a'r ffrâm destunau yn ei lle.

2005, Canolfan y Mileniwm - y cynlluniau yn bwrw 'mlaen.

Lleoliadau hyd ddiwedd y degawd yn eu lle.

Cadarnhawyd adroddiad Eurig gan y Cyngor a'r penderfyniad i ddileu llety gyda theuluoedd i'r dyfodol.

6. Swyddog Cyd-ddyn a Christ

Yn dilyn cwestiwn adroddwyd bod cael swyddog Cyd-ddyn a Christ llawn amser yn un o flaenoriaethau cais newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac mae'n flaenoriaeth yn y Cynllun Corfforaethol.

7. Polisi Iaith - Derbyniwyd y ddogfen polisi iaith.

8. Argymhellion Eisteddfodau i'r dyfodol

Adroddwyd pa newidiadau a wnaethpwyd yn dilyn sylwadau'r rhanbarthau a'r cyfarfod neithiwr. Mae'r manylion mewn dogfen ar wahân.

Derbyniwyd yr argymhellion gyda'r newidiadau i'w gweithredu cyn gynted â phosib.

Diolchodd y Cadeirydd am ymateb y cylchoedd a'r canghennau.

8. Unrhyw fater arall

Dyddiad y cyfarfod nesaf - Bore Sadwrn, 29 Mehefin 2003 yng Nghaerdydd, gyda'r Byrddau i gyfarfod ar y nos Wener, 28 Mehefin 2003.