URDD GOBAITH CYMRU - CYNGOR, 28 MEHEFIN 2003

Cofnodion o'r Cyngor a gyfarfu yng Ngwesty’r Hanover, Bae Caerdydd ar ddydd Sadwrn, 28 Mehefin 2003

Presennol: Rhiannon Lewis; I. Prys Edwards; Wynne Melville Jones; Bob Roberts; Eurig Davies; Haf Morris; Meriel Parry; Dennis Davies; Glyn T. Jones; Eddie Jones; Peter Harries; Janet Evans; Carol Davies; John Rees; Linda White; Partic Stephens; Jim O’Rourke; Mai Parry Roberts; Siān Eirian; Efa Gruffudd Jones; Iola Jones; Dyfrig Morgan; Dafydd Carrington; Alun Owens; Siān Eleri Davies; Ian Carter; Dylan Elis ac Eurfyl Lewis.

Ymddiheuriadau: Geraint Rees; R. Alwyn Owens; Wil Lloyd Davies; Gwyn Morris; Iolo ab Eurfyl; Gwyndaf Roberts; Alun Puw; Ceri Pierce Hughes; Marion Owen; Delma Thomas;Nia Chapman; Siōn Edwards; Siān Eurig; Alun Jones; Jeremy Turner; Tudur Dylan; Eirith Evans; Des Davies; Kevin Davies; Peter Davies; Gwawr Davies ag Anne Hughes.

1. Croeso - Croesawodd Rhiannon Lewis bawb i’r cyfarfod o’r Cyngor ac adroddodd ar lwyddiant y daith i ymweld ā Chanolfan y Mileniwm yn ystod y bore. Cyfeiriodd hefyd at lwyddiant ysgubol Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan, a diolchodd i rheiny a fu’n ymwneud ā’r wyl.

2. Cofnodion 23 Tachwedd 2002

Dylid fod wedi nodi fod Wynne Melville Jones a John Rees wedi ymddiheuro. Heblaw am hynny nodwyd fod y cofnodion yn gywir.

3. Materion yn codi

Cadarnhawyd y byddai fforwm ieuenctid yn cyfarfod ar yr un adeg ā’r Cyngor yn y dyfodol o dan arweiniad y Swyddog Urddaholics.

Gofynnodd Prys Edwards am gadarnhad y byddai’r adroddiad ar yr Eisteddfod a gomisiynwyd yn ystod y flwyddyn yn cael ei weithredu’n llawn.

4. Adroddiad o’r Bwrdd Busnes

Nododd Prys Edwards nad oedd gwybodaeth ariannol llawn ar gael eto am Eisteddfod 2003, ond trosglwyddodd ddiolch y Bwrdd i staff yr Urdd am eu gwaith yn enwedig staff Glan-llyn a Llangrannog yng nghyswllt Caffi Mistar Urdd.

Nododd fod yswiriant yr Urdd wedi codi bellach i £100,000 y flwyddyn.

Ychwanegol ei longyfarchiadau i’r adran gylchgronau am weithredu o fewn costau, ac am gynyddu cylchrediad.

Gofynnodd am gymeradwyaeth y Cyngor i godi £5.00 am aelodaeth, gan godi £12.00 am 3 aelod mewn teulu a £15.00 am 4. Cymeradwyodd y Cyngor.

Dywedodd fod yr Urdd yn bwriadu clustnodi £60,000 tuag at wella ansawdd Dinas Ddu, ond fod symud ymlaen yn dibynnu ar gytundeb nifer o asiantaethau.

Ychwanegodd fod pensaer wedi ei gomisiynu hefyd i roi adroddiad ar adeilad yr Urdd yn Heol Conwy ac i baratoi cynlluniau perthnasol i cais am ganiatād cynllunio er sicrhau y gwerth gorau posib i’r eiddo.

5. Adroddiad Bwrdd y Maes

Diolchodd Carol Davies i Swyddogion Datblygu’r Urdd am sicrhau gweithgaredd ar draws Cymru.

Nododd fod Catrin James wedi ei phenodi fel Swyddog Hyfforddi.

Cafwyd adroddiadau cadarnhaol ar waith dyngarol, a chwaraeon yr Urdd. Nododd fod llyfr epilogau bellach ar werth – ‘Dewch at eich gilydd’

Codwyd y materion canlynol ynglyn ā’r Eisteddfod

a. Yr angen am gronfa ddata o feirniaid – ond nodwyd bod angen trafod ā Chymdeithas Eisteddfodau Cymru.

b. Yr angen i gysoni ffi i feirniaid.

c. Yr angen i gadarnhau’r rheol ar adrannau/adrannau ysgol.

Nodwyd fod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnal arolwg o waith y maes rhwng Awst a Hydref.

Gwnaed argymhelliad gan Fwrdd y Maes i Rhanbarth Myrddin gael ei hollti’n ddwy sir, ar sail nifer o aelodau. Cytunwyd i hyn.

Tynnodd sylw at lyfryn newydd gan Gomer ar yr Urdd.

Mae angen nodi hefyd fod Rhanbarth Abertawe, Nedd a Phort Talbot yn newid ei enw i Gorllewin Morgannwg.

Eglurodd Siān Eirian fod y rheol ar adrannau yn glir yn y rhestr testunau, ond bod angen cysoni’r dehongliad ohono.

Nododd hefyd fod angen argymhelliad i daleithiau gysoni’r tāl beirniaid.

Eglurodd Jim O’Rourke fod angen croesawu arolwg Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar waith yr Urdd.

6. Bwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau

Diolchodd Eurig Davies am bob cymorth a gafwyd er mwyn cynnal Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan.

Soniodd am ambell broblem, gan gynnwys gormod o geir ar y maes.

Eglurodd fod trafodaeth wedi bod hefyd ynglyn ā gwella’r awyrgylch o wyl ar y maes.

Nodwyd fod gwersi i’w dysgu wrth symud y rhagbrofion ar y maes, ond iddo fod yn llwyddiant mawr.

Tynnodd sylw at bwysigrwydd cadw at reolau yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth.

7. Yr Urdd a Chanolfan y Mileniwm

Dangosodd Jim O’Rourke fideo ar Ganolfan y Mileniwm a rhoddodd gyflwyniad ar berthynas yr Urdd ā Chanolfan y Mileniwm. Eglurodd yr amserlen a’r llu o bosibiliadau ar gyfer cydweithredu gyda’r partneriaid eraill yno. Ychwanegodd byddai’r ganolfan yn cynnig profiadau dinesig a phrofiadau perfformio i’r ymwelwyr, a’i fod yn ddatblygiad cyffrous iawn.

8. Unrhyw fater arall

Cododd Wynne Melville Jones y pwysigrwydd fod yr Urdd yn annog Cenhedlaeth newydd o Gymry dwyieithog i ddefnyddio eu Cymraeg yn naturiol. Eglurodd Jim O’Rourke fod pwyslais arbennig i gynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg gan yr Urdd, yn enwedig yn yr oedran 12 – 15. Cytunwyd i drosglwyddo’r drafodaeth i Fwrdd y Maes.  Awgrymodd Prys Edwards y dylid cael trafodaeth ehangach ynglyn a’r mater hwn.

9. Dyddiad y Cyngor nesaf – Dydd Sadwrn, 15 Tachwedd 2003.