|
Cip
i Gymry Cymraeg Cynradd dan 12 oed
- Clecs gyda'r sêr
- Gwobrau ffantastig
- Jôcs di-ri
- Posteri anhygoel
- Cartwnau heb eu hail
Mae Cip yn gwneud darllen yn hwyl!
|
Pigion Cip!
 |
Mae
10 rhifyn o Cip bob blwyddyn, ac mae'r cylchgrawn yn gyfrwng gwych i
helpu'r plant i ddarllen yn eang, er mwyn mwynhad ac er mwyn codi gwybodaeth
fel y sonnir yn Natganiad Ffocws Cyfnod allweddol 2 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg. |

|
Bore Da
i ddysgwyr y Gymraeg dan 12 oed.
- Llond bol o ddarllen difyr
- Geirfa ar bob tudalen
- Iaith syml sy'n datblygu drwy'r flwyddyn
- Jôcs, straeon, cartwnau, posteri a digon o chwerthin
- Y cyfan yn Gymraeg
Mae Bore Da yn ffordd bril o gael plant ifanc i fwynhau dysgu
Cymraeg.
Mae hefyd yn addas ar gyfer cyfnod allweddol 1 a 2 o'r
Cwricwlwm Cenedlaethol Ail Iaith, ac i bob dysgwr newydd arall. |
Pigion Bore Da!

|
Mae Bore
Da yn gyfrwng gwych i addysgu disgyblion i ymestyn eu gallu darllen ac
ymateb i ddeunyddiau printiedig fel eu bod yn datblygu'n ddarllenwyr annibynnol a mwynhau
darllen, fel yr awgrymir yn Natganiad Ffocws y Cwricwlwm Cymraeg Ail Iaith.
Addas ar gyfer CA1 a 2 o'r Cwricwlwm Cymraeg Ail Iaith. Darperir taflenni geiriau,
patrymau iaith a gweithgareddau i'r athro gyda phob rhifyn hefyd. Mae deg rhifyn o Bore
Da bob blwyddyn. |
|
iaw!
i ddysgwyr ysgolion uwchradd sy'n cyd-fynd â phecyn aml
gyfryngol iaw!
- Gwaith amrywiol ar gyfer dysgwyr o bob safon
- 'Gosip' gyda'r enwogion
- Erthyglau gwefreiddiol
- Cartwnau difyr
- Cyfle i ddarllenwyr gyfrannu - unrhywbeth!
Deunydd darllen Cymraeg ar ei orau.
Mae iaw! yn addas ar gyfer cyfnod allweddol 3 a 4 o'r
Cwricwlwm Cenedlaethol Ail Iaith ac i unrhyw ddysgwr brwd arall!
|
Pigion iaw!

|
Addas ar gyfer CA3 a
4 o'r Cwricwlwm Cymraeg Ail Iaith ac yn adnodd gwych i ddatblygu sgiliau darllen y
disgyblion ac integreiddio sgiliau dysgu iaith. Darperir taflen weithgareddau i'r
athro hefyd. |