
|
- Cynhelir 96 o Eisteddfodau Cylch ac 16 o Eisteddfodau Rhanbarth trwy
Gymru er mwyn dewis y 15,000 o fuddugwyr i gystadlu mewn dros 460 o gystadlaethau a
gynhelir yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
- Mae dros 45,000 o aelodau'r Urdd yn cymryd rhan yn yr Eisteddfodau
Cylch a Rhanbarth cyn mynd ymlaen i'r Eisteddfod Genedlaethol.
|
...... |
- Mae Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru felly yn cael ei
chydnabod fel gwyl ieuenctid fwyaf Ewrop.
- Mae dros 100,000 yn ymweld â'r wyl deithiol hon sy'n cael ei chynnal
ddiwedd mis Mai am chwe niwrnod yn y De a'r Gogledd bob yn ail.
- Mae'r dros 460 o'r cystadlaethau sydd ar gael yn cynnwys pob math o
bynciau e.e. canu, dawnsio (disgo, gwerin, creadigol), llefaru, offerynnol, llenyddol,
celf a chrefft, gymnasteg, gwyddoniaeth a.y.b
|

. |
- Mae cystadlaethau arbennig i ddysgwyr a chan mai Cymraeg yw iaith
swyddogol yr wyl mae offer cyfieithu ar y pryd ar gael i'r di-Gymraeg.
|
- Mae dros 150 o stondinau yn gwerthu pob math o nwyddau a gwasanaethau
ar faes y Brifwyl. Mae Pabell Celf, Dylunio a Thechnoleg, Pabell Gwyddoniaeth, Pabell Roc,
Pabell y Dysgwyr, Meithrinfa, Ffair, beiciau modur, ymysg rhai o'r atyniadau sydd ar gael
ar y maes hefyd.
|

- Mae gweithgareddau'r Eisteddfod yn parhau gyda'r nos hefyd. Bydd
plant o ysgolion lleol wedi bod yn brysur yn ymarfer ers misoedd ar gyfer y Sioe Gynradd a
lwyfennir fin nos yn y Pafiliwn ar faes yr Eisteddfod. Bydd pobl ifanc o'r sector uwchradd
hefyd wedi bod yn brysur yn ymarfer ar gyfer sioeau eraill a lwyfennir mewn canolfannau o
fewn y dalgylch. Ar nosweithiau eraill yn y Pafiliwn gellir mwynhau gwledd o gystadlaethau
amrywiol megis y gân actol a'r cerddorfeydd yn ogystal â chyngherddau a fydd yn gyfle i
ddoniau lleol ddisgleirio.
|
- Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd - y fwyaf yn Ewrop, yr unig un o'i
bath yn y byd!
|
 |
|
|
|
|
|
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a
Llinos@urdd.org neu ffoniwch: 01970 613110 /
ffacs: 01970 626120
|