Mae dros 50,000 o bobl ifanc Cymru yn aelodau o Urdd Gobaith Cymru - yr unig fudiad ieuenctid gwirfoddol cwbl Gymreig yn y byd!

Mae dros 1,500 o Adrannau ac Aelwydydd yr Urdd (yr enwau a arddelir ar glybiau'r Urdd) trwy Gymru.

Amcangyfrifir fod dros 10,000 o wirfoddolwyr yn helpu i redeg canghennau a gweithgareddau'r Urdd trwy Gymru benbaladr.

Mae'r Urdd wedi rhannu Cymru yn 16 Sir ac mae Swyddog Datblygu yn gyfrifol am weinyddu a datblygu gweithgareddau lleol a sirol yn eu hardaloedd. Yn ychwanegol i'r rhain mae tri pennaeth talaith - un yn y Gogledd, un yn y Canolbarth a'r llall yn y De.

£5.50 yw tâl aelodaeth yr Urdd am flwyddyn yn dechrau o fis Medi i fis Awst.

Mae bron pob cystadleuaeth Genedlaethol wedi cael ei chynnal ar raddfa Cylch a Rhanbarth i ddechrau cyn i'r buddugwyr fynd i gynrychioli eu Rhanbarthau yn y rowndiau terfynol.

 

Tymor yr Hydref a'r Gaeaf - dyma pryd y cynhelir y cystadlaethau chwaraeon yn y Rhanbarthau gan amlaf e.e. Gala Nofio, cystadlaethau pêl-droed, pêl-rwyd, hoci, pwl, tenis bwrdd, dartiau a rygbi.

Tymor y Gwanwyn - bydd llawer o'r canghennau yn dechrau ymarfer er mwyn cystadlu yn Eisteddfodau lleol yr Urdd. Cynhelir tua 96 o Eisteddfodau Cylch ac 16 o Eisteddfodau Sir trwy Gymru yn ystod diwedd mis Chwefror a mis Mawrth ac amcangyfrifir y bydd dros 40,000 o aelodau'r Urdd wedi cymryd rhan yn yr Eisteddfodau yma!

Tymor yr Haf - ddiwedd mis Mai cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dros gyfnod o chwe niwrnod rhywle yng Nghymru.Wythnos fyrlymus llawn cyffro a hwyl - bydd angen wythnos o wyliau i ddod dros y profiad!

Gwersyll Haf - Cynhelir gwesylloedd haf yr Urdd yn ystod misoedd yr haf (Mehefin hyd ddiwedd Awst) yng Nglan-llyn a Llangrannog. Cyfle i brofi wythnos fythgofiadwy a gwneud llu o ffrindiau newydd mewn awyrgylch Gymreig.

Teithiau cyfnewid - mae rhai o'r Siroedd yn trefnu ymweliadau tramor efo grwpiau ieuenctid o gefndiroedd diwylliannol gwahanol. Cyfle i werthfawrogi gwerthoedd gwahanol wledydd wrth ymweld a chymysgu â phobl ifanc a'u teuluoedd a chyfle i chithau eu croesawu hwy yn eu holau y flwyddyn ddilynol.

Ymweliadau - trefnir ymweliadau trwy gydol y flwyddyn i wahanol lefydd e.e. trip i fowlio deg, sgïo, theatr, disgos a.y.b.

Clybiau diddordeb - mae sawl gweithgaredd yn cael eu trefnu ar gyfer grwp o bobl ifanc sy'n rhannu'r un diddordebau e.e. clybiau drama, clybiau pêl-droed, clybiau drymiau dur a.y.b.

Holwch eich Swyddog Datblygu lleol am ragor o fanylion am weithgareddau'r Urdd sy'n digwydd yn eich ardal chi, ynghyd â ble mae dod o hyd i'ch Adran/Aelwyd leol fel y gallwch ymaelodi.

Wyt ti eisiau perthyn i brif fudiad ieuenctid Cymru?

Am ragor o fanylion ynglyn â chofrestru, cysyllter â:

Swyddog Aelodaeth,

Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn,

Aberystwyth,Ceredigion, SY23 1EN

Cymru, U.K.

Ffôn: (01970) 613 102

Ffacs: (01970) 626 120

E-bost: Aelodaeth@urdd.org

 

(RHAID BOD RHWNG 8 A 25 OED I FOD YN AELOD O'R URDD)