Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards trwy ei apêl yn y cylchgrawn Cymru'r Plant.

Syr Ifan ab Owen Edwards

"Beth a wnawn ni, blant

Cymru i gadw'r iaith yn fyw?"...

"Fe sefydlwn Urdd newydd, a cheisiwn gael pob

Cymro a Chymraes o dan ddeunaw i ymuno â hi".

Erbyn diwedd 1922 roedd 720 o aelodau wedi cofrestru a channoedd yn aros eu tro. Sefydlwyd Adran Gyntaf yr Urdd yn Y Treuddyn, Fflint yn 1922 hefyd.

Adran Gyntaf yr Urdd, Treuddyn, Fflint, 1922

"Byddaf ffyddlon i Gymru a theilwng ohoni,
Byddaf ffyddlon i'm cyd-ddyn, pwy bynnag y bo;
Byddaf ffyddlon i Grist a'i gariad ef."

Dyma oedd arwyddair llawn yr Urdd yn y blynyddoedd cynnar.

Erbyn 1927, roedd aelodaeth yr Urdd wedi tyfu i dros 5,000 a thros 80 o adrannau.

1925, ymunodd yr Urdd i ddarlledu Neges Ewyllys Da Ieuenctid Cymru at Ieuenctid Byd a sefydlwyd rai blynyddoedd ynghynt gan y Parch Gwilym Davies. Fe barheir i anfon y neges yma ar Fai 18 mewn sawl iaith i wledydd y byd.

1928, cynhaliwyd y gwersyll haf cyntaf i dros 100 o fechgyn mewn pebyll yn Llanuwchllyn. Tyfodd y gwersylloedd hyn yn boblogaidd nes yn 1932 sefydlwyd gwersyll parhaol yn Llangrannog. Mae Llangrannog wedi tyfu i fod yn wersyll sy'n agored trwy'r flwyddyn erbyn heddiw ac yn gallu cysgu 350 o blant mewn ystafelloedd moethus.

1929, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Gyntaf yr Urdd yng Nghorwen. Gwyl yn para am ddau ddiwrnod oedd hon i ddechrau, ond erbyn heddiw mae'n chwe niwrnod o hyd.

1932, cynhaliwyd mabolgampau cyntaf yr Urdd yn Llanelli a daeth dros 4,000 o blant ynghyd i orymdeithio a chymryd rhan mewn arddangosfeydd dawns, gymnasteg a chystadlaethau athletaidd. Erbyn heddiw mae'r gwasanaethau chwaraeon wedi tyfu - mae 2 gala nofio genedlaethol, 3 gwyl chwaraeon genedlaethol, cystadleuaeth Rygbi a llawer o glybiau chwaraeon, cyrsiau hyfforddi a chystadlaethau athletaidd ar raddfa rhanbarth a thalaith ar gael.

1933, cynhaliwyd mordaith gyntaf yr Urdd i Sgandinafia ar y llong 'Orduna' i dros 500 o aelodau'r Urdd ym mis Awst. Bu sawl mordaith arall i ddilyn gan fod yr un gyntaf mor llwyddiannus, ond daethant i ben pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd yn 1939.

Syr Ifan a'i gamera 'sine'

Syr Ifan oedd y person cyntaf erioed i wneud ffilm Gymraeg ac yn 1937 fe ddangoswyd 'Y Chwarelwr' am y tro cyntaf, ac fe deithiodd Syr Ifan o gwmpas sinemáu Cymru yn ei dangos fel modd i hyrwyddo'r iaith.

1939, agorodd yr Urdd yr Ysgol Gynradd Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth i 7 o blant dan ofal Norah Isaac. Erbyn 1945 roedd 81 o blant yn Ysgol Lluest (enw'r ysgol) ac roedd 4 athrawes yn eu dysgu. Gyda pherswâd Syr Ifan, penderfynodd yr Awdurdodau Addysg i dderbyn yr egwyddor o gael ysgolion trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 1947 felly, fe agorwyd Ysgol Gymraeg yn Llanelli ac erbyn heddiw mae llu ohonynt ar gael trwy Siroedd Cymru.

1944, crewyd bathodyn trionglog i'r Urdd fel yr adnebir ef heddiw. Mae pob lliw i fod â'r un arwynebedd fel symbol fod y tair elfen i arwyddair yr Urdd yr un mor bwysig â'i gilydd.

Mae'r gwyn yn cynrychioli 'Crist'
Coch yn cynrychioli 'Cyd-ddyn'

 

a gwyrdd yn cynrychioli 'Cymru'

 

Felly "Byddaf ffyddlon i Gymru i Gyd-ddyn ac i Grist" oedd arwyddair yr Urdd o hynny ymlaen.

1950, cynhaliwyd gwersyll cyntaf Glan-llyn gyda chwch modur y 'Brenin Arthur' yn cludo gwersyllwyr ar draws Llyn Tegid o'r trên. Mae'r gwersyll yma hefyd wedi datblygu llawer ers y blynyddoedd cynnar ac mae ar agor trwy'r flwyddyn ar gyfer pob math o weithgareddau awyr agored ac amgylcheddol.

Gwersyllwyr yn gadael Glan-llyn ar y trên yn y 50'au

1954, cyhoeddwyd y cylchgrawn Cymraeg am y tro cyntaf - yr unig gylchgrawn o'i fath ar gyfer dysgwyr. Gwerthwyd 26,000 o fewn y flwyddyn gyntaf. Roedd Cymru'r Plant dal mor boblogaidd ag erioed gyda 22,500 yn cael eu gwerthu bob mis.

1957, cyhoeddwyd Cymru i'r aelodau hyn yn ychwanegol i'r cylchgronau eraill a fodolai'n barod. Mae'r cylchgronau wedi parhau i dyfu a datblygu ers i O.M.Edwards (tad Syr Ifan ab Owen Edwards) gyhoeddi'r Cymru'r Plant cyntaf yn ôl yn 1892, ac erbyn heddiw mae un cylchgrawn i Gymry Cymraeg - Cip, cylchgrawn i ddysgwyr cynradd - Bore Da a IAW! i ddysgwyr uwchradd.

Erbyn heddiw mae dros 50,000 o aelodau gan Urdd Gobaith Cymru rhwng 8 - 25 oed a thros 1,500 o ganghennau'r Urdd ledled Cymru.

Swyddfa'r Urdd,
Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth,
Ceredigion, SY23 1EY
Cymru
Ffôn: (01970) 613 100
Facs: (01970) 626 120
E-bost: urdd@urdd.org