Mae gan yr Urdd gasgliad amrywiol o e-gardiau ar gyfer bob achlysur. 

Dweud pen-blwydd hapus wrth un o dy ffrindiau, dweud diolch wrth berthynas neu athro, a gyrru cardiau tymhorol fel rhai Nadolig, Santes Dwynwen a Phasg at bawb!

Mae dewis o gardiau gen ti:

Cardiau Cyffredinol: Cardiau Pen-blwydd,  Llongyfarchiadau, Cardiau Diolch a mwy!

Cardiau Cylchgronau: Cardiau o bob math yn cynnwys rhai o gymeriadau cylchgronau yr Urdd fel Cipyn Caws a Celt y Ceiliog

Cardiau tymhorol: Cardiau Nadolig* | Cardiau Santes Dwynwen* | Cardiau Pasg*

*Dim ond ar gael am gyfnodau penodol o'r flwyddyn