Cyflwyno
Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Urdd Gobaith Cymru o’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel
Braint o'r mwyaf oedd cael cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith
Cymru o’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, a’r arfer hwn eleni yn dathlu 80 mlynedd
ers anfon y neges cyntaf nol yn 1922. Mewn dinas hardd a'r tywydd bendigedig
cawsom gyfle i fwynhau cwmni a dealltwriaeth o waith yr Aelodau Seneddol a'n
cynrychiolwyr o Gymru wrth eu gwaith yn Ewrop.
Roedd ein rhaglen am y ddeuddydd yn llawn a cychwynwyd ar
ein taith fore Llun yn eiddgar iawn i gael gweld dinas newydd a Chymry blaenllaw
yn ein cynrychioli yno. Bore dydd Mawrth cafwyd derbyniad yn y Senedd a
chyflwynodd Caryl Jones, Gwenllian Sion, Ela Cernyw a Sioned Roberts, oll yn
ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Conwy Llanrwst, Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd
i Eurig Wyn ASE, Jill Evans ASE, Desmond Clifford, Y Cynulliad ym Mrwsel, Nia
Lewis, Canolfan Ewropeaidd Cymru a Haf Elgar, Ymchwilydd Jill Evans. Cyflwynwyd
i bawb boster lliwgar, mewn ffram, o'r neges eleni ac yna cafwyd ymweld a'r
Senedd yng nghwmni Jill Evans.
Yn y prynhawn ymwelwyd a'r Ganolfan Ewropeaidd Gymreig yng
nghwmni Nia Lewis a Peredur John, cafwyd trafodaethau brwd iawn ynglyn a'r ewro
a'r Undeb Ewropeaidd a rol Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Roedd y disgyblion
yn frwdfrydig iawn yn eu trafodaethau. Dywed Peredur John fod y grwp ifanc "wedi
cyfranu mewn ffordd aeddfed a rhaid i mi eu llongyfarch ar eu parodrwydd i
fynegi barn ar faterion ma llawer o bobl yn dewis osgoi."
Ymlaen wedyn i dderbyniad gyda'r Comisiynydd Reding.
Darllenwyd y neges i'r Comisiynydd ac fe fu iddi hi longyfarch y disgyblion ar
eu gwaith a phwysleisio'r pwysigrwydd o anfon neges heddwch yr Urdd yn flynyddol.
Pwysleisiodd hefyd y pwysigrwydd o ddysgu am ddiwylliant ein gilydd o fewn Ewrop
er mwyn cryfhau cyfeillgarwch rhwng y Cenhedloedd.
Bu ein hymweliad dydd Mercher a Chanolfan Ddarlledu
Rhyngwladol y BBC yng nghwmni Iolo ap Dafydd - fe soniodd am ei waith fel
Gohebydd Newyddion yn Ewrop. Recordiwyd y neges yn y ganolfan i'w darlledu adre
yng Nghymru a bu i'r disgyblion wneud eu gwaith trwy gydol yr ymweliad yn raenus
tu hwnt a dod a chlod ac anrhydedd nid yn unig i Ysgol Dyffryn Conwy ond i'r
Urdd a Chymorth Cristnogol ac yn wir i Gymru.
Isod gwelir ymateb y sawl fu'n ymweld a Brwsel.
Waw! dyna'r gair perfaith i ddisgrifo'r profiad
bythgofiadwy o gyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2002 yn y Senedd Ewropeaidd
ac i'r Comisiynydd Reding, roedd hwn yn brofiad anhygoel!
Caryl Wyn Jones
Roedd y profiad o fynd i Frwsel mor wych, a mae'n wir
anrhydedd gen i fod wedi cael fy newis i ddarllen y neges holl bwysig yma a
dangos i'r byd bod Cymru yn poeni ac yn helpu gwledydd eraill.
Gwenllian Sion
Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn bwysig er mwyn codi
ymwybyddiaeth pobl am anghenion pobl eraill llai ffodus ar draws y gwledydd a
lledaenu neges o obaith a heddwch led led y byd. Mae'n bwysig ein bod yn rhannu
ein dyheadau i gyd-fyw, a chyd-dynnu mewn oes mor dreisgar a rhyfelgar.
Ela Cernyw
Roedd cael mynd ar y daith hon yn brofiad ac yn fwy na dim
yn fraint ac anrhydedd i mi. Roedd cael fy newis i gynrychioli fy Ysgol, yr
Urdd, Cymorth Cristnogol a Chymru yn golygu llawer i mi.
Sioned Roberts

Nôl