Neges Ewyllys Da 2003

Apeliwn ni, blant a phobl ifanc Cymru, ar ran plant a phobl ifanc y byd, ar i arweinyddion y cenhedloedd wrando ar ein neges.

Yn ein hoes fodern heddiw, gwelwn fod trais a rhyfel, rhagfarn a hiliaeth yn cynyddu o ddydd i ddydd. Teimlwn mai diffyg cyd-fyw yw gwraidd llawer o’r problemau hyn.

Sail cyd-fyw llwyddiannus yw cyfathrebu a siarad. Felly ymbiliwn ar arweinyddion y byd i wrando a thrafod cyn gweithredu.

Gadewch inni gofio a dysgu am ein cymuned leol a chymuned y byd drwy barchu pobl eraill, eu traddodiadau a’u diwylliant, a cheisio dileu agweddau negyddol. Gadewch inni ddechrau wrth ddysgu byw ochr yn ochr a’n gilydd.

Mae pob person yn wahanol, ond mae lle i bawb yn y byd. Credwn fod gan bob un ohonom ran i’w chwarae er mwyn sicrhau heddwch.

Gwrandewch, a gweithredwch.

Gorau byw, cyd-fyw.

Nôl