Neges Ewyllys Da 2004
Eleni
mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru yn 82 oed ac ers 1922
mae’r neges wedi bod yn ysgogiad ac yn ysbrydoliaeth i weithgarwch dyngarol
a rhyngwladol yr Urdd. Anfonwyd y neges cyntaf gan Y Parch Gwilym Davies o
Gwm Rhymni. Roedd y Parch Gwilym Davies yn Heddychwr mawr ac yn flaenllaw
wrth sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO.
Credai mewn dod â phlant y cenhedloedd ynghyd a penderfynodd Syr Ifan y
dylai'r Urdd ymuno gyda'r fenter o gyhoeddi'r neges er mwyn dileu'r
anwybodaeth a'r rhagfarnau oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Roedd y
neges cyntaf, a anfonwyd mewn morse code, yn gweddio ar i Dduw fendithio
ymdrechion a gwaith dynion da dros y byd a dod a rhyfela i ben. Cafwyd un
ymateb gan warchodwr Tŵr Eiffel Paris. Darlledwyd y neges am y tro cyntaf
ar y BBC World Service yn 1924 ac erbyn heddiw mae’r neges yn ymddangos mewn
12 iaith ar y We ac yn cyrraedd pedwar ban byd, ac mae’r ymatebion yn
cynyddu pob blwyddyn.
Yn y 50au
rhoddwyd sêl bendith i’r neges a chymerodd yr Urdd y cyfrifoldeb dros gyhoeddi
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da sef Mai 18, sef
dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâf yn 1899.
Lluniwyd y neges gan aelodau’r Urdd o
Aelwyd yr Ynys, Ynys Môn. Mae’r neges yn annog ein bod ni yn prynu nwyddau
Masnach Deg a chefnogi cynhyrchwyr yng ngwledydd tlawd y byd.
Nôl
|