Gwasanaeth Neges
Heddwch ac Ewyllys Da 2004

Lluniwyd y gwasanaeth eleni gan Y Parchedig Huw John Hughes Moelfre


Ydi hyn yn deg?

Arweinydd: Cwestiwn ydi thema ein hoedfa. Cwestiwn i bob un ohonom. Cwestiwn i bawb.

Gweddi:


 

Arglwydd
pob tegwch a charedigrwydd
agor ein meddyliau
trwy gyfrwng yr oedfa hon. Amen

Lois:


 

Noswaith dda a chroeso i’n rhaglen newydd sbon, “Ydi hyn yn deg?” Yn y rhaglen  bydd Siôn a  minnau Lois yn gofyn nifer o gwestiynau. Fe gewch chi’r gwrandawyr gyfle i ateb. Dyma bedair ffaith i chi. Sut fyddwch chi’n ymateb tybed?

Siôn:





 

Mae Gabriel yn byw yn y Caribî. Tyfu bananas mae o a’r theulu. Mae’n gwerthu ei gynnyrch  i’r farchnad Ewropeaidd dan gytundeb arbennig. Mae cwmnïau mawr yn yr Unol Daleithiau’n  gandryll. Mae’n nhw am i’r cytundeb hwn ddirwyn i ben. Cyn bo hir bydd rhaid i Gabriel gystadlu â’r planhigfeydd mawr yn yr UD sydd yn gwerthu eu bananas yn rhad – am yr unig reswm bod eu gweithwyr yn cael cyflogau isel iawn. Bydd hyn yn sicr o roi diwedd ar gynnyrch Gabriel.

Lois:




 

Byw ar arfordir Senegal mae Koambi. Mae’n byw gyda’i fam weddw. Mae hi’n ceisio gwneud bywoliaeth o werthu pysgod. Yn ddiweddar daeth llongau pysgota enfawr o Ewrop i bysgota’r dyfroedd o gwmpas ei gartref. Mae rhwydau’r llongau enfawr hyn yn rhwydo niferoedd mawr o bysgod. Os bydd hyn yn dal i ddigwydd fydd yna ddim pysgod i’r bobl leol fel mam Koambi. A dyna fydd diwedd ar ei busnes.

Siôn:





 

Yn ne Bangladesh mae Conari yn byw. Ffermio gorgimychiaid mae ef a’i deulu. Yn ystod y deng mlynedd olaf mae’r gorgimychiaid hyn wedi dod yn boblogaidd iawn yn Ewrop ac America. Mae hyn, yn ei dro, wedi hybu’r ffermwyr lleol, Conari a’i deulu yn eu plith, i brynu mwy o dir ar y lan i ffermio gorgimychiaid. Ond prin iawn ydi’r elw mae ef a’i deulu, a’r ffermwyr eraill, yn ei gael am eu cynnyrch. Dydi’r elw ddim yn ddigon i dalu’r pris am y tir a brynwyd yn y lle cyntaf.

Lois:




 

Tyfu india corn ar fferm ar gyrion Accra  prifddinas Ghana mae Lydia. Fel llawer o ferched eraill mae’n gweithio ddydd a nos i ofalu am ei theulu a’r busnes. Yn y gorffennol roedd llywodraeth Ghana’n helpu ffermwyr bychain trwy roi cymorth ariannol iddyn nhw i brynu hadau, gwrtaith ac offer i drin y tir. Bellach mae gwahanol sefydliadau wedi rhwystro llywodraeth y wlad rhag gwneud hyn.

Siôn:

Ydi hyn yn deg? Sut ydych chi’n teimlo o glywed hyn?

Llais 1:
 

Blin, cas, rhwystredig, chwerw. Ond oes gynno ni hawl fel Cristnogion i fod yn flin a chas?

Llais 2:

 

Unwaith, pan aeth Iesu i mewn i’r deml yn Jerwsalem gwylltiodd yn gacwn. Gwelodd y gwerthwyr a’r cyfnewidwyr arian. Marc, yn ei efengyl sy’n dweud yr hanes.

Llais 3:

Darllen Marc 11  15 -17

Siôn:

 

Oes yna debygrwydd rhwng y stori hon o weinidogaeth Iesu a’r amodau a weithredir ym myd masnach ym marchnad y byd heddiw? Oni ddylai hyn ein gwylltio a’n ffyrnigo?

Lois:

 
Cyn mynd ddim pellach gwell fyddai i ni ofyn i Dduw am arweiniad rhag ofn i ddicter gael y gorau arnom.
Arweinydd
Gweddïwn:

 











 

Arglwydd, mor hawdd ydi ffyrnigo
a gwylltio’n gacwn
o weld ein brodyr a’n chwiorydd
mewn mannau eraill o’r byd
yn cael cam.
Cael cam maen nhw a dim arall.
Tro ein dicter a’n ffyrnigrwydd, Arglwydd
a heria ni ieuenctid Cymru
i wneud gwahaniaeth.
i weithredu yn enw cyfiawnder.
Paid â gadael i ni suro a chwerwi
ond defnyddia ni
i arwain
i arloesi
ac i ddangos y ffordd  ymlaen.  Amen.

Siôn:

Beth fedrwn ni ei wneud, felly? Pa gamau ymarferol allwn ni eu cymryd?

Lois:

Dyma rai o’r atebion gawsom ni wrth baratoi’r rhaglen.

Llais 4:
 

Dowch i ni ddechrau yn y top. Gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ymrwymo i hybu    Masnach Deg ymhob agwedd yng Nghymru.

Llais 5:

 

Datblygu rhwydwaith o wirfoddolwyr i drefnu a chydlynu gweithgarwch Masnach Deg yn eu hardaloedd mewn siopau, tai bwyta, boreau coffi, capeli ac eglwysi.

Llais 6:
 

Datblygu perthynas rhwng cwmnïau all gyflenwi nwyddau Masnach Deg i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru.

Llais 7:
 

Paratoi rhaglenni addysg i blant ysgol a cholegau i ddangos pwysigrwydd cefnogi Masnach Deg.

Lois:
 

Dyna fan cychwyn i ni. Dyma’r neges eleni gan blant a phobl ifanc Ynys Môn.
 
DARLLEN NEGES HEDDWCH AC EWYLLYS DA 2004

Siôn:

Munud bach o ddistawrwydd i ofyn bendith Duw ar y neges eleni.

Emyn:

866 “Anfonodd Iesu fi” (Neu emyn o ddewis)

Llais  8:
 

Gwrandewch ar eiriau’r proffwyd Eseia pan oedd yn cerdded drwy’r farchnadfa ac yn clywed llais yn galw. Llais Duw.

Llais 9:

Darllen Eseia 55 1 – 3      8 – 9    12 – 13

Lois:

 
Mae’r farchnadfa heddiw yn lle cymhleth iawn, bron iawn yn ein llethu. Sut y gallwn glywed llais Duw yn ein byd cymhleth ac astrus?

Siôn:


 

Mae’n ein galw, fel unigolion i weithredu fel y gallwn godi safon byw y rhai sy’n gwerthu yn y farchnad fyd eang. Mae cynnyrch Masnach Deg, lle mae cynhyrchwyr yn cael gwell arian ar gyfer eu teuluoedd a’u cymunedau yn weladwy ar silffoedd ein siopau erbyn hyn.

Lois:
 

Chwiliwch am label Masnach Deg ar bethau fel bananas, te, coffi, siocled ymhlith pethau eraill.

Siôn:


 

Os ydych yn eu prynu’n barod perswadiwch weddill eich teulu, eich ysgol, eich capel, eich eglwys, eich cymuned, eich gwlad i brynu nwyddau sydd wedi eu masnachu’n deg. Hon yw her Duw i ni yn y farchnad fyd eang heddiw.

Lois:

Dyma’r ffordd i ymateb i lais Duw yn y farchnad fyd eang.

Llais 10
Gweddi:







 



Heddiw Arglwydd
defnyddia fi
i brynu
i wario
i fuddsoddi
i helpu
i roi cymorth
i unigolion a chymunedau
sy ddim yn cael digon i fyw.
Heria fi wedyn i argyhoeddi eraill. Amen.


Emyn:

871 “Dyro dy gariad i’n clymu.” (Neu emyn o ddewis)

Arweinydd:





 

 Y Fendith

Rho i ni ieuenctid Cymru
arweiniad
ar sut i draws newid y byd
fel bydd pob unigolyn yn cael
ei drin yn deg.  Amen.

Nôl