Neges Ewyllys Da 2004

Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru yn 83 oed ac ers 1922 mae’r neges wedi bod yn ysgogiad ac yn ysbrydoliaeth i weithgarwch dyngarol a rhyngwladol yr Urdd. Anfonwyd y neges cyntaf gan Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni. Roedd yn Heddychwr mawr ac yn flaenllaw yn sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO. Credai mewn dod â phlant y cenhedloedd ynghyd a penderfynodd Syr Ifan y dylai'r Urdd ymuno gyda'r fenter o gyhoeddi'r neges er mwyn dileu'r anwybodaeth a'r rhagfarnau oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Roedd y neges cyntaf, a anfonwyd mewn morse code, yn gweddio ar i Dduw fendithio ymdrechion a gwaith dynion da dros y byd a dod a rhyfela i ben. Cafwyd un ymateb gan warchodwr Tŵr Eiffel Paris. Darlledwyd y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service yn 1924 ac erbyn heddiw mae’r neges yn ymddangos mewn 16 iaith ar y We ac yn cyrraedd pedwar ban byd ac mae pob un yn y pecyn hwn.

Yn y 50au rhoddwyd sêl bendith i’r neges a chymerodd yr Urdd y cyfrifoldeb dros gyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da sef Mai 18, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg yn 1899.

Eleni mae’r neges yn cydfynd â phrosiect arbennig iawn mewn cydweithrediad â Shelter Cymru i godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc Cymru am effeithiau digartrefedd ymhlith pobl ifanc a theuluoeddgyda plant. Bydd prosiect AGOR DRYSAU yn cynnig cyfleoedd arbennig i cymryd rhan mewn gweithdai, derbyn hyfforddiant, trefnu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth ynglyn à effeithiau digartrefedd, cefnogi apel Agor Drysau, a gweithdy cynradd arbennig yn edrych ar ‘y cartref’.

Nôl