Neges Ewyllys Da 2005

Dydd Mercher 27ain Ebrill bu i 40 o ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci dreulio diwrnod cyfan yn y Cynulliad.  Treiliwyd y bore yn yr Adran Addysg yn Adeilad y Lanfa yn derbyn gweithdy gan Rheinallt, ac yna ymweld a'r siambr ble mae Aelodau'r Cynulliad yn cyfarfod.  Wedi cinio yng Nghanolfan yr Urdd bu paratoi wedyn ar gyfer cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da pobl ifanc Cymru i Aelodau'r Cynulliad ac i'r cyhoedd ym mhrif adeilad y Cynulliad yn y Bae.  Roedd perfformiad y disgyblion yn raenus iawn, 40 ohonynt yn ddysgwyr gan mai Ysgol Gyfun Treorci yw'r ysgol ail-iaith gyntaf erioed i gael gwahoddiad gan yr Urdd i gyflwyno Neges Ewyllys Da.  Yn bresennol roedd Leighton Andrews AC Y Rhondda - derbyniodd boster swyddogol y neges gan y disgyblion.  Croesawyd y disgyblion i'r Cynulliad gan Mrs. Gwenda Thomas AC ar ran Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ac fe dderbyniwyd poster ar ei ran ar gyfer Swyddfa'r Llywydd.  Llongyfarchwyd y disgyblion ar eu gwaith gan Jane Davidson AC, Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes.

Nôl