Neges Ewyllys Da 2005

Cynhaliwyd cystadleuaeth arbennig gan Athrawon Bro Wrecsam ar gyfer Gwasanaeth Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn Wrecsam.  Gwahoddwyd disgyblion i ysgrifennu cerdd ar thema 'Câr dy Gymydog'.

Enillydd Adran Cymraeg

Câr dy Gymydog

Pam? Pam wyt ti'n edrych arnaf fel 'na?
Cydymdeimlad yn dy lygaid,
Yn gofyn "Pam mae rhaid iddo fod fel hyn?"
Gwelaist fi ar y teledu yn do?
Yn dy gartref cynnes,
Efo dy deulu yn ymlacio,
Wedi dy lapio mewn cariad.
Ydw i ar dy feddwl?
Pan wyt ti'n chwarae ar dy 'gameboy',
Yn chwerthin efo ffrindiau
A finnau hefo dim byd.
Wyt ti'n meddwl ei fod yn deg?
Bod gennyt ti yr holl foethusrwydd,
a finnau mewn poen,
efo dim byd, dim gobaith?
Wyt ti'n meddwl amdanaf?
Pan wyt ti yn y siop
Yn prynu 'mars bar' neu gylchgrawn.
A finnau yn marw o newyn,
yn trio goroesi'r wythnos?
Wyt ti'n hoffi'r ysgol?
Wyt ti'n teimlo'n lwcus bod yna?
Yn dysgu ffeithiau y byd?
A finnau yn dysgu sut i fyw,
Trwy'r newyn a'r tristwch a'r ansicrwydd.
Y gwir yw dw i'n union fel ti.
Er nad ydym yn adnabod ein gilydd,
Er fy mod o wlad wahanol,
Rydym ni yn gymdogion
Brodyr a chwiorydd y byd.
Gad i ni helpu ein gilydd.

Georgina Tipping
Ysgol Morgan Llwyd

 

Enillydd Adran y Dysgwyr

Câr dy Gymydog

Mae hi'n eistedd yn fud,
amheuon ar ei meddwl.
Mae pobl yn mynd
heibio.
Maen nhw'n mynd adref.
Beth ydy cartref?
Ydy hi ar lwybr cul?
Dw i ddim yn gwybod.
Does ganddi ddim
gobaith,
Dim arian.
Mae hi'n eistedd
yn unig.

Sarah Binnersley
Ysgol Uwchradd St Joseph's Catholic High School

 

Enillydd Adran Saesneg

Love thy Neighbour

Some people are rich, some are poor,
Some are confident, some unsure,
Some people are loved and some are not,
Some are remembered and others forgot.

Some are victims of violence and war,
Some have experienced injustice by law,
Some have been affected by disasters and crimes,
Some just haven't had the easiest of times.

So with this thought you need no plan.
Just go out and offer help as much as you can.
Remember when you're generous you help people through,
Because after all, they're people who have feelings just like you!

Hannah Roberts
Ysgol Rhosnesni

Nôl