Neges Ewyllys Da 2005
Message of Goodwill 2005
Gwahoddwn
ieuenctid y byd i uno gyda ni bobl ifainc Cymru i dynnu sylw at faterion
sy’n effeithio ar fywydau ein cymdogion, adref a thramor.
Pwy yw ein
cymdogion?
Ein brodyr
â’n chwiorydd led led y byd, ein cyd-ddyn, ein cyfeillion da, beth bynnag fo’n
ffydd neu’n credoau.
Dyma’r
pryderon sydd gennym ynglŷn â’r problemau sydd yn ein hwynebu ni a’n cymdogion:
Trais
Tlodi
Rhagfarn
Hiliaeth
Anghyfiawnder
Digartrefedd
Rhyfel
Newyn
Cam‑drin
Hil-laddiad
Ymunwch gyda
ni i helpu ein cymdogion drwy fod yn gyfeillion i’n gilydd. Cefnogwn fudiadau
fel Shelter Cymru sy’n brwydro yn erbyn effeithiau niweidiol digartrefedd ar
fywydau plant a phobl ifanc.
Gyda’n gilydd
gallwn fynnu dysgu er mwyn chwalu’r anwybodaeth sy’n rhan annatod o’r problemau
a’r draws y byd er mwyn ymdrechu i fod yn gymdogion da.
câr dy
gymydog
Nôl