NEGES HEDDWCH AC EWYLLYS DA

URDD GOBAITH CYMRU

Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru yn 84 mlwydd oed ac ers 1922 mae’r neges wedi bod yn ysgogiad ac yn ysbrydoliaeth i weithgarwch dyngarol a rhyngwladol yr Urdd.  Anfonwyd y neges cyntaf gan Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni.  Roedd yn Heddychwr mawr ac yn flaenllaw yn sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO.  Credai mewn dod â phlant y cenhedloedd ynghyd â penderfynodd Syr Ifan y dylai'r Urdd ymuno gyda'r fenter o gyhoeddi'r neges er mwyn dileu'r anwybodaeth a'r rhagfarnau oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd.  Roedd y neges cyntaf, a anfonwyd mewn morse code, yn gweddïo ar i Dduw fendithio ymdrechion a gwaith dynion da dros y byd a dod a rhyfela i ben.  Cafwyd un ymateb gan warchodwr Tŵr Eiffel ym Mharis!  Darlledwyd y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service yn 1924 ac erbyn heddiw mae’r neges yn ymddangos mewn 15eg iaith ar y We ac yn cyrraedd pedwar ban byd ac mae pob un o’r ieithoedd hynny yn y pecyn hwn.

Yn y 50au rhoddwyd sêl bendith a chyfrifoldeb i’r Urdd dros gyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da - Mai 18, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg yn 1899.

Lluniwyd y neges eleni gan Fforwm Ieuenctid Ysgol Maes Garmon Yr Wyddgrug ac mae’n annog pobl ifanc i ymgyrchu, i gwestiynu a thynnu sylw at achosion tlodi dros y byd. 

MESSAGE OF PEACE AND GOODWILL

URDD GOBAITH CYMRU

This year the Urdd Gobaith Cymru Message of Peace and Goodwill is 84 years old and since 1922 the Message has been the inspiration behind the citizenship and international activities of the Urdd.  The first Message was sent by the Reverand Gwilym Davies from Cwm Rhymni, a pacifist who was forefront in establishing the Welsh Union of the United Nations and later UNESCO.  He believed in bringing together the children of all nations.  Sir Ifan decided that the Urdd should join in this venture and publish the Message to help delete all ignorance and prejudice existing between the nations.  The first Message, sent in ‘morse code’ was a paryer to God asking for the blessing of efforts of good men all over the world and to bring an end to war and fighting.  One response was received from the guardian of the Eiffel Tower in Paris!  The Message was transmitted by the BBC World Service in 1924 and by today it appears on the World Wide Web in 15 languages and reaches all four corners of the world.  The same are available here.

In the 50s the Urdd took over sole responsibility for the publishing of the Message of Peace and Goodwill annually, on Goodwill Day – May 18, which was the date of the first peace seminar at the Hague in 1899.

This years  Message has been prepared by the Youth Forum of Ysgol Maes Garmon Mold and asks young people to campaign, to question and draw attention to poverty all over the world.

Nôl