Gwasanaeth Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2006

'Gobaith'

Arweinydd - GOBAITH - Wrth edrych ymlaen at y dyfodol mae'n rhaid i ni gael gobaith, hyd yn oed os mai anobeithiol yw ein sefyllfa. Mae'n rhaid gobeithio am yfory, mae adnod yn y Beibl yn dweud:

'Oherwydd dylai'r arddwr aredig, a'r dyrnwr ddyrnu, mewn gobaith am gael cyfran o'r cnwd.'

Gwyddom ei bod yn llawer haws i ni yn y gwledydd cyfoethog i ddweud hyn, gan wybod yn iawn o ble y daw ein pryd nesaf. Ond edrychwn yn ystod y gwasanaeth hwn yn bellach na ni ein hunain, yn bellach na Chymru ac yn bellach na'n deall ein hunain.

Cân - 'Weithiau Rwy'n Gofyn' ('Caneuon Bob Ysgol' tud 31) - Ysgolion Cynradd

- 'Y Gobaith yn y Tir' (Geiriau a cherddoriaeth Ruth Owen, trefniant Sioned Williams) i'w ganu gan gôr ysgolion uwchradd.

Arweinydd - Nid yw gobaith yn dibynnu ar ein cyfoeth, nac ar ein sefyllfaoedd. Daw Gobaith Cristnogol drwy roi ein ffydd yn Nuw.

Ein Gobaith ni yma heddiw yw am yfory gwell i holl blant y byd. Credwn fod yr hawl gan bawb i fyw - cyn marw.

Gweddi

Arswyd, trais, newyn ac ymelwa

llygaid ofnus yn disgwyl crasfa arall,

llygaid dig yn llosgi o gasineb a dial,

llygaid gwag yn syllu o wynebau newynog,

llygaid barus yn bwyta'r bwyd ar blât rhywun arall

Dim ond ychydig o lygaid trist yn dangos bod yn ddrwg ganddynt.

Dad, ai dyma weli di pan edrychi ar dy fyd?

Duw trugaredd gobaith a chariad diamodol

agor ein llygaid i weld dy fyd fel yr wyt ti am iddo fod.

Agor ein dwylo a'n calonnau i rannu ei holl adnoddau.

Dangos i ni sut wyt ti eisiau i ni fyw a gweithio er dy fwyn di.

Pletha rubanau gloyw gobaith sy'n gallu trwsio byd clwyfedig

er mwyn i'r darlun o'th fyd fod yn gyfan eto.                                  Amen.

Llais 1 - Ond beth yw gobaith?

Llais 2 - Edrych ymlaen i'r dyfodol

Llais 3 - Byw mewn ffydd am yfory gwell

Llais 4 - Mae Gobaith yn trawsnewid

Llais 2 - Y mae Gobaith yn disgwyl i bethau newydd ddigwydd

Llais 3 - Y mae Gobaith yn dymuno newid hanes

Llais 4 - Rhinweddau Gobaith yw cyfiawnder, heddwch, cymdeithas a chariad.

Llais 1 - Y mae'n rhaid i Obaith gychwyn RWAN

Arweinydd - Ond beth allwn ni blant cyffredin Cymru ei wneud am hyn i gyd.  Rydym ni yn dda iawn am wneud swn, ac mewn gwirionedd gwneud swn yr ydym wrth ymgyrchu.  Dweud NA wrth bob anghyfiawnder yn ein byd, neu fel dywed Edward H. Dafis yn eu cân, Cân Mewn Ofer.

'Pam da ni'n cefnu o hyd ac o hyd

ar yr anobaith sydd yn ein byd?

Pam yr holl falais? Pam yr holl drais?

Mae'n hen bryd i rhywun godi ei lais.

Codwn ninnau ein lleisiau fel plant ac ieuenctid Cymru yn erbyn yr anobaith sydd yn ein byd.

(Sn y drwm, anogir cymaint o blant â phosibl i wneud sn gydag offerynnau taro, cyn eu tawelu i wrando ar y neges.)

Adroddir y Neges

Gwrando ar CD o Cân Mewn Ofer neu gellir ei chanu

Bytholwyrdd Cyhoeddiadau Curiad

Gweddi

Bydd Teyrngarwch a ffyddlondeb yn cyfarfod,

a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.

Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear,

a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.

Bydd yr Arglwydd yn rhoi daioni,

a'n tir yn rhoi ei gnwd.

Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen,

a heddwch yn dilyn ôl ei droed.

Amen.                                                                                           (Salm 85:10-13)

Nôl