Mae Sul yr Urdd eleni ar 18
Tachwedd 2001, ac mae'r gwasanaeth, sy'n cyd-fynd â phrosiect arbennig
Croeso Calcutta, wedi ei baratoi gyda help Cymorth Cristnogol. Yn y
gwasanaeth mae Guto a Gwen yn penderfynu mynd i India ar eu gwyliau, "i
ddechrau darganfod y byd mawr tu fas i Gymru" a "gweld sut mae mwyafrif pobl
y byd yn byw."
Ar eu taith maen nhw'n dod
ar draws y Cathedral Relief Service, a thra'n aros mewn hostel CRS yn
Calcutta maen nhw'n dysgu am ei gwaith nhw. Mae'r CRS yn gweithio yn
slymiau'r ddinas, y bustees, i geisio rhoi gofal iechyd ac addysg i'r
bobl dlotaf a dod o hyd i ffyrdd iddyn nhw ddringo allan o'u tlodi.
Maen nhw'n gweithio gyda
phlant a gwragedd yn arbennig, gan mai nhw ydi'r tlotaf o'r tlawd. Mae tua
2000 o blant yn mynd i tua 16 o ysgolion y CRS. Dyma ysgolion gwahanol iawn
i'n rhai ni yma yng Nghymru, mae'r plant yn eistedd ar y llawr ac ysgrifennu
ar lechen. Mae llawer o'r plant yma yn gweithio hefyd, yn glanhau esgidiau,
gwerthu cacennau neu wneud bagiau papur ac mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n
dysgu rhifo a darllen yn yr ysgol.
Mae'r CRS yn trefnu
mabolgampau rhwng ysgolion hefyd, er mwyn gwneud yn sir bod y plant yn cael
rhywfaint o hwyl.
Yn y gwasanaeth daw'n amlwg
bod Guto a Gwen wedi cael profiadau bythgofiadwy yn India. Maen nhw'n
byrlymu am eu gwyliau wrth eu hathro ar ôl cyrraedd adref:
"Roedd y tlodi a'r slymiau
yn ein gwneud ni i deimlo'n ddigalon wrth gwrs, ond roedd cymaint o obaith
yno hefyd, yn enwedig wrth weld gwaith ffantastig y CRS," meddai Guto. Ac
mae Gwen yn ychwanegu,
"Roedd gweithwyr y CRS mor
fywiog, mor weithgar ac yn wir yn rhoi popeth i mewn i'r gwaith, rhoi eu
holl fywyd i geisio gwella bywyd pobl dlotaf eu dinas."
Mae Cymorth Cristnogol yng
Nghymru yn cefnogi gwaith y CRS trwy roi arian ar ei gyfer, ac mae cyfle i
holl aelodau'r Urdd gyfrannu i ymgyrch Croeso Calcutta eleni er mwyn rhoi
hwb i waith y CRS a mudiadau tebyg yn India.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am
ymgyrch Croeso Calcutta