|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
Er mwyn dathlu deng mlynedd o berthynas nawdd gydag Urdd Gobaith Cymru, eleni bydd HSBC yn noddi ‘Tipis Gweithgareddau’ ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn a gynhelir rhwng 31 Mai a 5 Mehefin. Dyma’r tro cyntaf erioed i’r tipis gael eu codi ar faes y Brifwyl, ac fe’i cyfrennir y 4 sydd o faint diamedr o 24 troedfedd ac sydd â’r fwyaf yn gallu dal hyd at 100 o blant ar y tro, gan gwmni Shelters Unlimited o Fachynlleth. Byddent yn cael eu defnyddio gan gwmnïau Masnach Deg, HSBC a’r Urdd yn ystod yr wythnos gyda’r nod o gynnig gweithgareddau ychwanegol a chyfoes i blant a phobl ifanc. Bydd y gweithgareddau a gynhelir ynddynt yn amrywio o ddydd i ddydd i gyd-fynd ag oedran y cystadleuwyr ar y llwyfan, ac yn cynnwys sesiynau adrodd stori, gweithdai ysgrifennu a sgriptio, gweithdai dawns, sesiynau acwstig a sesiynau trafod ar bob math o faterion. Bydd hefyd yn fan gwych i gymdeithasu ac i fwynhau brecwast Masnach Teg bob bore os y mynner a ddarperir gan yr Urddaholics. Meddai Siân Elin Jones, Rheolwr Cymunedol Cymreig, Banc HSBC: “Mae hwn yn fenter newydd, gyffrous i’r Urdd ac yn un rwy’n sicr gaiff groeso gwresog gan Eisteddfodwyr. Mae’r tipis yn drawiadol tu hwnt, a gobeithiaf y bydd nifer fawr o blant a phobl ifanc yn mwynhau’r llu o weithgareddau fydd yn mynd ymlaen yn ystod wythnos yr Eisteddfod. “Mae cysylltiadau’r banc â’r Urdd yn mynd yn ôl i gychwyn y mudiad yn 1922, ac eleni rydym yn dathlu degfed blwyddyn ein perthynas nawdd. Rydym yn falch iawn o’n cysylltiadau agos a hir dymor.” Lleolir y tipis mewn lleoliad o’r maes a enwir ‘Stryd yr Ifanc’ sef menter newydd arall gan yr Urdd eleni i gynnig mwy o ddarpariaeth modern a chyfoes ar gyfer yr ifanc nad ydynt efallai yn dod i’r Eisteddfod i gystadlu. Yr atyniadau eraill yn y ‘Stryd’ fydd gweithdai torri gwallt gan siop Ceri a Morus o Borthaethwy ym mhabell y cylchgrawn ‘V’, parc sglefrfyrddio arbennig, a dosbarthiadau meistri arbennig gan enwau fel Gwyn Hughes Jones ac Iwan Llewelyn Jones. “Gwelwn y Tipis Gweithgareddau a Stryd yr Ifanc fel ychwanegiad cyffrous i faes yr Eisteddfod,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau. “Rydym yn sylweddoli nad yw pawb sy’n dod i’r Eisteddfod yno i gystadlu, neu efallai nad ydynt wedi cael llwyfan, a bod angen i ni wella’r ddarpariaeth ar y maes ar eu cyfer. Y nod yw fod y Tipis Gweithgareddau a ‘Stryd yr Ifanc’ yn dod yn lecyn o’r maes sy’n cael ei berchenogi gan blant a phobl ifanc yn ystod yr wythnos, gan gynnig amrywiaeth o brofiadau cyfoes, modern a diwylliannol a fydd yn aros efo nhw am amser hir. “Rydym yn hynod ddiolchgar i HSBC am gefnogi gwaith y mudiad unwaith yn rhagor a’n galluogi i gynnig yr adnawdd yma,” ychwanega.
Diwedd
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |