|
DATGANIAD I’R WASG DYDI DDIM YN RHY HWYR I GYFANSODDI!
Mae’n gwaith mawr ni drosodd! Ddwy flynedd yn ôl, yng nghanol tywyllwch y gaeaf, eisteddodd rhyw ddeuddeg ohonom i lawr gyda thudalen wag. Y dasg? - meddwl am destunau rhyddiaith a barddoniaeth ar gyfer yr Eisteddfod. Doedd hi ddim yn dasg mor hawdd â hynny chwaith, cael testunau cartref fyddai’n apelio i blant a phobl ifanc o bedwar ban Cymru ac a oedd hefyd yn adlewyrchu Môn.
Gorchwyl arall oedd dewis beirniaid, ac fe lwyddasom i gael criw brwdfrydig a phrofiadol i wneud y gwaith pwysig hwnnw. Mae’r rhestr testunau allan ers bron i flwyddyn bellach, a phawb wedi bod yn pori drwyddi i weld oes yna rywbeth yn apelio.
Noddwyd pob un o’r cystadlaethau llenyddol gan hanner cant o ysgolion cynradd Ynys Môn, ac mae’r pwyllgor yn falch iawn o gael eu cymorth. Mi fydd yna hen gystadlu hefyd gobeithio gan bob un o’r ysgolion yma.
Llwyddo wnaethon ni wrth gwrs, a dwi’n credu fod yna destunau gwerth chweil. Erbyn hyn, mae’r beirdd a’r llenorion wedi bod yn chwysu dros eu storïau a’u cerddi, a chyn Dydd Gŵyl Dewi, mi fydd y newidiadau olaf wedi eu gwneud a phob camsillaf wedi ei gywiro, a’r cwbl yn y post ar y ffordd i’w feirniadu. Cofiwch, dydi ddim yn rhy hwyr i chi afael mewn beiro a phostio’r cynnyrch!
Pan feddyliwch chi, mae gwaith y pwyllgor hwn yr un mor bwysig â’r lleill. Ar ddeuddydd o leiaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod, mae pob tafod yn siarad ac yn ceisio dyfalu pwy yw y bardd a’r llenor buddugol, pwy sydd wedi ennill y gadair a’r goron. Uchafbwynt unrhyw Eisteddfod ddwedwn ni. Ac mae’n rhyfeddol faint o enillwyr Eisteddfodau’r Urdd sydd yn mynd ymlaen i’r Genedlaethol ac yn cyfrannu i fyd llên ein gwlad.
Croesi neu Trysor yw testun y Goron eleni ac Angor yw testun cystadleuaeth y Gadair. Mae honno’n cael ei rhoddi gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Ynys Môn. Mae yna hen edrych ymlaen am ei gweld. Rhodd gan bum Ysgol Uwchradd Ynys Môn yw y goron, ac mae’r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i’r ysgolion a Mudiad y Ffermwyr Ifanc am eu haelioni.
Does dim angen stiwardio gyda’r cystadlaethau Llên, felly mae’r rhan fwyaf o’r pwyllgor wedi ymuno hefo’r Pwyllgor Gweithgareddau. Eleni, fodd bynnag, mae yna newid bychan. Rydan ni’n cyfarfod yn fuan i drafod gweithgareddau llenyddol ar y maes. Y syniad yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gael profiadau llenyddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a byddwn yn cyfarfod gyda chynrychiolydd o Adran Addysg, Diwylliant a Hamdden Cyngor Sir Ynys Môn i weld beth allwn ni ei wneud gyda’n gilydd.
Fel pob pwyllgor arall, rydan ni wedi codi arian wrth gwrs. Fe gawsom nawdd gan yr ysgolion cynradd, a chwta flwyddyn yn ôl fe gynhaliwyd ‘Siwper Stomp’ yn y Bulkley ym Miwmares, noson lwyddiannus dros ben gyda’r lle dan ei sang a deg o feirdd bywiog yn cael eu rheoli gan Cefyn Roberts. Mi fydd yna digwyddiad arall cyn hir – cadwch eich llygaid yn agored!
Diwedd
Gair i’r Golygydd Cadeirydd y Pwyllgor Llên yw Dafydd Idriswyn Roberts, a’r ysgrifennydd yw Manon Morris Williams. Gellir cysylltu â Dafydd Idriswyn Roberts ar 01248 714478.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Andrew Jones ar 01248 672100
|
|
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004 |