Urdd Gobaith Cymru

Eirian Stephen Williams
Cadeirydd Pwyllgor Ieuenctid Mônsdar


Mae'n siŵr eich bod wedi gweld yr hysbysebion a'r erthyglau sydd wedi bod yn y wasg dros y flwyddyn diwethaf, fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ymweld ag Ynys Môn y flwyddyn hon.
Un person sy'n gweithio'n ac wedi gweithio’n galed iawn gyda'r Urdd yw Cadeirydd y Pwyllgor Ieuenctid – y Mônsdar ei hun - Eirian Stephen Williams, Cadeirydd y Pwyllgor.
Sefydlwyd y Pwyllgor dros flwyddyn a hanner yn ôl er mwyn hyrwyddo'r Eisteddfod a chael pobl ifanc yr ynys at eu gilydd i drefnu gweithgareddau hwyliog a chodi arian.


Cafodd Eirian ei chyflwyno i’r Urdd pan oedd hi’n 4 oed yn Ysgol Gynradd Llandrygan. Ei phrofiad cyntaf o’r Urdd oedd cystadlu ar yr unawd dan wyth pan oedd yn 4 oed a chael llwyfan yn y cylch ar ôl canu 'Y Gwanwyn'.
Bu Eirian yn cystadlu mewn nifer helaeth o gystadlaethau tan iddi gyrraedd 25 oed - Partïon, Corau, Dawnsio Disgo a Gwerin, ac hefyd mewn cystadlaethau ysgrifennu. Mae hi wedi ennill amryw o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol; enillodd yr ail wobr ym Mro’r Preseli yn 1995 am Unawd i Ferched rhwng 15-19 oed a chafodd gyntaf am stori fer dan 25 yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn 1998.


Eleni caiff y cyfle i gystadlu yng nghystadlaethau i rhai hyd at 30 oed drwy Aelwyd yr Ynys - aelwyd newydd sbon sydd wedi ei sefydlu ar Ynys Môn yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod hon. Mae'r Aelwyd yn bwriadu cystadlu mewn amryw o gystadlaethau i Aelwydydd ac wedi cychwyn ymarfer bob nos Sul am 7.30 yng Nghapel Lôn y Felin, Llangefni. Mae croeso i unrhyw un dros 14 oed ymuno.

Mae Eirian yn mwynhau gwneud gwaith gwirfoddol i’r Urdd er mwyn cael anghofio am ei gwaith dyddiol fel athrawes ysgol gynradd, ond mae'n falch fod gweithio i'r Urdd yn golygu ei bod yn gallu cadw cysylltiad gyda plant a phobol ifanc.

"Mae bod yn aelod o'r Urdd yn galluogi i mi gael profiadau newydd megis siarad yn gyhoeddus, rhywbeth nad wyf yn hoffi ei wneud go iawn! Mae hefyd yn rhoi cyfle i mi gyfarfod pobl o wahanol rannau o Gymru. Rwyf wedi cael profiad o deithio i wahanol lefydd gyda'r Urdd a helpu ar dripiau tramor megis Paris ac Eurodisney".

Aeth ymlaen i ddweud - ‘Y peth gorau am yr Urdd yw'r cyfle i cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Rhoi y cyfle i blant brofi pethau newydd megis mynd i Glan Llyn am y pen wythnos. Mae hyn yn brofiad hollol newydd i blant yn yr ardal dwi’n gweithio’.
Mae Eirian wedi bod yn gweithio gyda’r Urdd fel gwirfoddolwr ers rhyw ddeg mlynedd; dechreuodd drwy stiwardio yn rhagbrofion cerdd pan oedd oddeutu 15 oed ."Ew, roeddwn yn meddwl fy mod yn bwysig iawn yn gwneud hynny!” chwarddodd Eirian.

Mae Eirian ac aelodau'r Pwyllgor Ieuenctid yn edrych ymlaen ar hyn o bryd tuag at Steddfod Dafarn a threfnir ar y cyd gyda Menter Môn. Cynhelir yr steddfod yn Nhafarn y Rhos, Nos Wener, Ionawr 23 am 7.30pm.

Cynigodd Eirian rhai syniadau ar gyfer y cystadlaethau er mwyn sicrhau fod pawb yn mwynhau eu hunan ar yr noson :
“Bydd lot fawr o hwyl a chwerthin gobeithio trwy gystadlaethau gwirion iawn megis creu darn o newyddion, bwyta gymaint o ‘Jammie Dodgers’ mewn amser penodol, sgets a llawer o bethau gwirion.”

Gan y cynhelir y noson ar benwythnos Santes Dwynwen, thema'r cystadlu fydd 'Cariad'. Beirniad y Steddfod Dafarn fydd Dewi Rhys ('Dyff' o Pobl y Cwm). Bydd croeso i bobl dros 16 oed ddod i gystadlu, ac wrth gwrs mae croeso i bawb fod yn rhan o'r gynulleidfa.

Y gweithgaredd mawr nesaf ar ôl hyn fydd Noson Gŵyl Ddewi yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi, Nos Sadwrn, Chwefror28. Bydd cyfle i wrando ar gyflwyniad ar y delyn ar gychwyn y noson, wedyn bydd bwffe o gynnyrch lleol, wedyn adloniant gan yr enwog Elin Fflur ac un grŵp arall. Bydd hefyd cyfle i fwynhau ychydig o ddawnsio gwerin yn ystod y nos - noson amrywiol iawn felly!

Meddai Eirian : " Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i'r noson yma, dyma'r tro cyntaf i ni fentro trefnu gweithgaredd o'r fath. Mi fydd hon yn noson mwy soffistigedig na'r arfer! Y pwyllgor eu hunain sydd wedi dod i fyny hefo'r syniad o gael noson Gymreig i ddathlu Gŵyl Ddewi ac rydym yn gobeithio cael cefnogaeth aelodau'r pwyllgorau eraill yn ogystal a chefnogwyr yr Urdd o bob oed."

"Mae'r pwyllgor yn cydweithio’n agos gyda Menter Môn sydd wedi sicrhau grant i ni i gynnig bwyd a chynnyrch Cymreig i'r gwesteion."

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod i hun, bydd aelodau o Bwyllgor Ieuenctid Mônsdars yn brysur yn helpu gyda chystadlaethau roc a chanu ysgafn, maent hefyd yn bwriadu trefnu gig mawr ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, gan obeithio y daw llawer o bobl ifanc ac Aelwydydd yno i gefnogi.

"Rydym yn edrych ymlaen i gael trefnu gig a chroesawu pobl ifanc a myfyrwyr o bob rhan o Gymru yno. Ar ôl cystadlu drwy'r dydd byddant yn falch o gael ymlacio a chymdeithasu dwi'n siŵr!" meddai Eirian.

Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am y Pwyllgor Ieuenctid a'r gweithgareddau maent yn ei drefnu, ffoniwch Swyddfa'r Urdd ar 01248 363100.

DIWEDD
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Andrew Jones ar 01248 363100







 

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004