|
Mae yna lai na deufis bellach nes y bydd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Môn 2004 yn cychwyn ar gae y Primin ym Mona, ac mae’r bwrlwm yn cynyddu’n ddyddiol. Ers dechrau’r flwyddyn mae dros 100 o blant ysgolion cynradd yr ynys wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd bob wythnos i ymarfer ar gyfer y Sioe Gerdd, Joseff.
Criw cynhyrchu Cwmni’r Fran Wen, cwmni sydd wedi ei leoli ym Mhorthaethwy, dan gyfarwyddiaeth Iola Ynyr sy’n cynhyrchu Joseff, ac meddai Iola “Y stori o’r Hen Destament sydd yma wrth gwrs a hanfod y sioe ydi cenfigen brodyr Joseff tuag ato. Mae’r brodyr eraill yn teimlo fod ei dad yn difetha Joseff ac mae’n diflasu ei frodyr wrth sôn am ei freuddwydion – yn enwedig y rhai sy’n rhagweld y byddant yn moesymgrymu o’i flaen. Mae ei frodyr yn cael llond bol ac yn penderfynu ei werthu’n gaethwas a thwyllo eu tad ei fod wedi marw. Yn y diwedd wrth gwrs, Joseff sy’n cael y llaw uchaf ac yn llwyddo i achub ei frodyr rhag newyn.”
Ysgrifennwyd y sioe’n wreiddiol yn 1967 ar gyfer ysgol yn Llundain, ond bryd hynny dim ond chwarter awr oedd hyd y sioe, ac yn raddol cafodd ei datblygu i fod yn sioe gerdd gyflawn erbyn dechrau’r saithdegau. Mae dros 140 o blant o ysgolion cynradd Môn yn cymeryd rhan yn y cynhyrchiad.
Andrew Angel, pennaeth ysgol gynradd Pentraeth yw cyfarwyddwr cerdd y sioe a Ceri Gwyn sy’n dysgu yn ysgol gynradd Llanfairpwll yw’r cyfeilydd.
“Mae bod yn rhan o’r sioe yn cynnig cyfle ardderchog i’r plant i fwynhau actio a chanu a datblygu eu sgiliau. Mae nhw’n cael cyfle i wneud ffrindiau newydd a dwi’n siŵr y bydd y wefr o berfformio o flaen cynulleidfa yn brofiad y gwna nhw ei drysori am byth,” meddai Iola.
Perfformir Joseff ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar gae y Primin ym Mona nos Fawrth a nos Fercher y 1af a’r 2il o Fehefin 2004. Bydd y perfformiadau yn dechrau am 7.30 ac mae tocynnau’n £8 i oedolion a £5 i blant. I archebu tocyn, ffoniwch Swyddfa’r Eisteddfod ar 01970 613102.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Wyn Jones ar 01248 723510 |
|
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004 |