Croeso i Eisteddfod Môn 2004

GWYBODAETH PWYSIG!
Cofiwch ddarllen bwletin O'r Newydd - cliciwch yma
Cliciwch yma i weld ar pa ddiwrnodau mae y cystadlaethau gwahanol
I lawrlwytho
Ffurflen Archebu Safle ar y Maes Carafanau, cliciwch yma.

BLE?
Cynhelir Eisteddfod 2004 ar faes Sioe Amaethyddol Môn ym Mona, o fewn cyrraedd i dref farchnad brysur Llangefni – arwyddion sy’n tanlinellu mai ffermio yw prif ddiwydiant yr ynys ffrwythlon hon ers cenedlaethau. Goronwy Owen, un o feirdd clasurol gorau Cymru, ganodd y cywydd hiraeth enwog am ‘dirion dir’ ei fam Ynys. Yn Oes y Tywysogion, cnydau Môn oedd yn
bwydo trigolion Gwynedd. Dyma, yn ôl traddodiad, wreiddyn yr arwyddair enwog: ‘Môn Mam Cymru’. Ond nid amaeth yn unig sy’n cynnal heddiw prysur yr ynys. Ceir clwstwr o weithfeydd modern ar draws y sir a llongau poblog porthladd Caergybi yn croesi’n ddyddiol i Ddulyn, un o ddinasoedd bywiocaf yr Ewrop gyfoes.

Mae olion hen hanes Môn yn dal i hudo pob ymwelydd a bwydo’r dychymyg. Meini a chylchoedd yr oesoedd cynnar. Chwedl Branwen a’i bedd ar lan afon Alaw. Adlais pell o’r Derwyddon cyn dyddiau’r Rhufeiniaid. Ceir sôn am lys brenhinoedd yn y Berffro a sibrwd am frenhinoedd gwahanol ym Mhenmynydd, crud y Tuduriaid. Yn eglwys Biwmares mae cof am dywysoges o dras brenhinol arall; yma gwelir beddfaen Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, wyres Elinor o Aquitaine a merch y Brenin John.
Yn wastadol uwchben yr eglwys clywir cri’r gwylanod, sain oesol Ynys Môn.


SUT MAE CYRRAEDD MONA?

Cyffordd 6 oddi ar yr A55, a dilynwch yr arwyddion ar yr A5 ar gyfer Rhostrehwfa a Gwalchmai. Parcio’n rhad ac am ddim ar y safle.

Cliciwch yma am fap Multimap (Gallwch newid y raddfa ar yr ochr chwith i'r map)

 

Cliciwch yma i ddarllen gair o groeso gan Bob Parry O.B.E (Arweinydd y cyngor)

Cliciwch yma i ddarllen gair o groeso gan Derek Evans (Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Eisteddfod yr Urdd, Môn 2004)

PRYD?
Wythnos hanner tymor, 31 Mai – 5 Mehefin 2004


EISIAU RHYWLE I AROS?

Carafanwyr – ffoniwch 01970 613110.
I drefnu llety personolcliciwch yma neu Canolfannau croeso Ynys Môn:
    Llanfairpwllgwyngyll - 01248 713177,
    Caergybi - 01407 762622.
 

BE AMDANI?
Lle gwych i dreulio’ch gwyliau hanner tymor, felly – yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Môn 2004. Dewch yn llu!
Am fanylion pellach neu i archebu tocynnau ymlaen llaw, ffoniwch swyddfa’r Eisteddfod ar 01970 613 102
neu e-bostiwch mon2004@urdd.org. Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan yr Urdd
www.urdd.org.
 

Mae llu o atyniadau eraill yn yr ardal – am syniadau ewch i wefan Bwrdd Croeso Cymru
www.visitwales.com neu
ffoniwch canolfannau croeso
Ynys Môn: 01248 713177 neu
01407 762622.


Os ydych eisiau mwy o wybodaeth ynglyn a'r Eisteddfod, cysylltwch â swyddfa'r Urdd ym Mona:
Rhifau ffôn:
01407 720 741
01407 720 984
01407 721 066
01407 721 128

Rhif ffacs:
01407 721 057

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004