Llun Wilf Roberts

Magwyd Wilf Roberts ym mherfeddion Môn ac mae ei gariad at ei fro yn amlwg iawn yn ei waith.

Tirluniau o gefn gwlad, boed hynny’n glytwaith o’r caeau bychain sy’n amlwg ym Môn neu o’i bythynnod gwyngalchog, sy’n nodweddu ei waith. Ond fel pob un sy a’i wreiddiau’n ddwfn yn naear Môn, all o ddim anghofio ei harfordir godidog ychwaith fel mae sawl un o’i ddarluniau’n tystio.

Ganed ef yn Llanfaelog, ond symudodd i fyw i Fynydd Bodafon pan oedd yn deir mlwydd oed. Cafodd ei addysg gynradd yn ysgol Ty Mawr a’i addysg uwchradd yn ysgol Llangefni. Mae’n debyg ei fod yn hoff o arlunio ers pan oedd yn blentyn bach, a dywed nad yw’n cofio amser pan nad oedd yn gwneud lluniau a pheintio.

Tra’n ddisgybl yn ysgol Llangefni daeth dan ddylanwad tri athro celf – Harri Hughes Williams, Ernest Zobole a Gwilym Prichard. Yn ôl ei addefiad ef ei hun, Gwilym Prichard oedd y dylanwad pennaf arno. Ar ôl treulio cyfnod yn y Coleg Normal ym Mangor aeth i ddysgu i Croydon a bu yno rhwng 1961 a 1973.

Yn Oriel Arnhem, Croydon yn 1965 y cafodd ei arddangosfa gyntaf, ac roedd y blynyddoedd a dreuliodd yn Llundain yn ddefnyddiol dros ben iddo am ei fod wedi cael cyfle i ymweld a gwario amser mewn orielau fel y Tate a’r Oriel Genedlaethol. Serch hynny, tirwedd Môn oedd yr ysbrydoliaeth iddo baentio ac mae mwyafrif ei luniau yn dirluniau o’r ynys. Ei filltir sgwar sy’n ei ysgogi i greu, ac nid yw’n syndod felly o ddarganfod fod nifer o’i luniau yn rhai o Fynydd Bodafon, er enghraifft - Bythynnod ger Bodafon, y Gaeaf, Bodafon a Min Nos, Bodafon. Ysbrydolwyd ef hefyd gan arfordir Môn fel y dengys lluniau fel Lligwy a Storm, Trearddur.

Ar ôl y blynyddoedd a dreuliodd yn Llundain, dychwelodd i Fôn i fyw unwaith yn rhagor ar lethrau mynydd Bodafon. Bu ganddo sawl arddangosfa mewn gwahanol fannau dros y blynyddoedd ac ar hyn o bryd mae’n arddangos yn Abertawe, Caerdydd, Stow-on-the-Wold a’r Thompson Gallery yn Llundain. Cynhelir ei arddangosfa nesaf ym Môn yn Oriel Môn yn ystod misoedd Medi a Hydref 2004.

Dywed fod yn rhaid i rywbeth ei sbarduno cyn y gall gychwyn ar waith, ac fod yn rhaid iddo hoffi a derbyn yr hyn mae’n ceisio ei ddehongli. Bu’n garedig iawn yn rhoi llun o’i waith i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru Môn 2004 er mwyn codi arian tuag at yr Eisteddfod honno. Ysbrydolwyd y llun gan eiriau o’r gerdd groeso ‘I Sir Fôn’ - cerdd a gyfansoddwyd gan bymtheg o ddisgyblion ysgolion uwchradd Môn dan arweiniad y Prifardd Meirion MacIntyre Huws. Y geiriau

"I'r lle bu'r hen Geltiaid yn dod i addoli Pen Hendy,

   I'r lle bu fflam gynnes yn neidio ger llyn Cerrig Bach

I'r ynys lle deuai cariadon am fendith gan Dwynwen,

  Dowch chwithau â hwyl yn eich calon i chwerthin yn iach."

a sbardunodd Wilf Roberts i greu llun trawiadol o Ynys Llanddwyn.

Cyflwynodd Wilf Roberts y llun i Derek Evans, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddofd yr Urdd Môn 2004 ym mhabell yr Urdd ar Faes y Primin eleni, ac mae aelodau Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn hynod ddiolchgar iddo am ei haelioni.

Argraffwyd nifer cyfyngedig o’r llun (150) a gellir ei archebu am £70 yr un drwy gysylltu â Bethan Wyn Jones ar 01248 723510.

Dsc01179.jpg (35042 bytes) - Derek Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn annerch y dorf
Dsc01182.jpg (41894 bytes) - Yr artist, Wilf Roberts
Dsc01185.jpg (38634 bytes) - Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau, yn diolch i Wilf Roberts am ei haelioni; yn                                gwrando arni mae Wilf Roberts, Derek Evans a Ieuan Wyn Jones AC
Dsc01188.jpg (43386 bytes) - Wilf Roberts gyda'i lun o "Llanddwyn"