Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2004

 Yn dilyn cyffro’r cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Môn 2004, fe fydd saith o’r buddugwyr yn mynd ymlaen i gystadleuaeth bellach yn Theatr Gwynedd, Bangor i ymgiprys am Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru.

Mae’r Ysgoloriaeth yn ffrwyth llafur cyngerdd mawreddog y cynhaliwyd fel rhan o arlwy Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Llyn ac Eifionydd 1998 yng nghwmni Bryn Terfel a llu o artistiaid eraill.

Yn cystadlu am y wobr ariannol o £4,000 bydd y  saith buddugol yn y cystadlaethau dan 25 oed fel a ganlyn:- Cyflwyniad Theatrig, Llefaru Unigol, Unawd allan o Sioe Gerdd, Unawd Offerynnol, Unawd, Unawd Alaw Werin, Unawd Cerdd Dant a Dawns Unigol.

 

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004