|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU, YNYS MÔN, 2004 Datganiad i'r Wasg Y FEDAL LENYDDIAETHEnillydd: MARI SION AELOD UNIGOL, CYLCH CAERDYDD, CAERDYDD A’R FRO Dyma oedd gan Ceri Wyn Jones a Sonia Edwards, beirniad Y Fedal Lenyddiaeth eleni, i'w ddweud am Dilyffethair, casgliad i gerddi buddugol Mari Siôn: "Cyfrol o gerddi sy’n llwyr argyhoeddi. Dyma fardd o’r iawn ryw. Mae yma waith aeddfed a sensitif ac mae’r dweud yn hudolus ar brydiau fel yn y gerdd Websters ‘Bookstore Café’ sy’n berl. Medda ... ar y ‘peth’ anniffiniol hwnnw sy’n treiddio i synwyrusrwydd dyn a’i swyno. Gwobrwyer y casgliad hwn yn ddiymdroi!" Yn dair ar hugain oed, ganed Mari yng Nglyn Ceiriog, a symudodd y teulu i fyw ym Mangor pan oedd hi'n 11 oed. Mae hi'n un o dri o blant, ei thad yn gweithio i BBC Cymru ym Mangor a'i mam yn gweithio i Gyngor Gwynedd. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Tryfan, Bangor, gan fynd i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth i astudio gradd Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yna MA mewn gwleidyddiaeth.
Bellach mae
Mari yn gweithio i Blaid Cymru ac yn ymchwilydd personol i Leanne
Wood AC Sioned Bevan, Aelod Unigol o Gylch Cefni, Ynys Môn ddaeth yn ail eleni, gyda Manon Wyn, Aelwyd Llandwrog, Cylch Dyffryn Nantlle, Eryri ac Iwan Wyn Rees, Aelwyd Coleg Meirion-Dwyfor, Cylch Llyn, Eryri yn rhannu'r drydedd wobr.
Diwedd
Am fwy o fanylion
cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929 neu Eurgain Haf ar
31 Mai 2004
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |