|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU YNYS MÔN, 2004 Datganiad i'r WasgMEDAL Y DYSGWYREnillydd: PATRICK BIDDER, YSGOL UWCHRADD CAERDYDD, DWYRAIN CAERDYDD, CAERDYDD A’R FRO.
Enillydd Medal y Dysgwyr eleni yw Patrick Bidder o Ysgol Uwchradd
Caerdydd. Partick yw Prif Fachgen Ysgol Uwchradd Caerdydd eleni.
Mae’n
aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru – ac mae’n cyfrif
Cerddoriaeth yn bwysig iawn iddo. Yn ei amser hamdden mae Patrick
yn chwarae ei ffidl mewn ensemble offerynnol mewn priodasau a
phartïon.
Er
mwyn gwella ei Gymraeg mae’n ymarfer siarad efo disgyblion o Ysgol
Gyfun Gymraeg Glan Taf yng Nghaerdydd – ac un o’r rheiny yn arbennig! Bu'n flwyddyn tu hwnt o lwyddiannus i Ysgol Uwchradd Caerdydd, gyda dau ddisgybl o'r ysgol yn cael yr ail a'r drydedd wobr eleni. Daeth BETH SMITH yn ail a DANIEL O’GRADY yn drydydd. DiweddAm fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929 neu Eurgain Haf ar 07770 955668 01 Mehefin 2004
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |