|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU YNYS MÔN, 2004 Datganiad i'r WasgDydd Gwener, 4 Mehefin, 2004 BRYN TERFEL YN RHOI LLAIS I DALENT Y DYFODOL Er bydd y cystadlu yn dirwyn i ben yfory, ar ddydd Sadwrn olaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn 2004 - mae gwledd o ddoniau a thalent eto yn ein disgwyl. Nos Sadwrn, 26 o Fehefin, cynhelir noson arbennig o gystadlu yn Theatr Gwynedd, Bangor am 7.00y.h, ble y gwahoddir enillwyr o blith yr wyth prif gystadlaethau o dan 25 oed i ymgiprys am y fraint o dderbyn Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Urdd Gobaith Cymru am eleni. Dyma fydd y bumed flwyddyn i'r Ysgoloriaeth hon gael ei chynnig yn dilyn ei sefydlu yn 1988 wedi cyngerdd arbennig gan Bryn Terfel a llu o artistiaid eraill yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Mae'r Ysgoloriaeth werth £4,000, ac i'w defnyddio ar gyfer hyfforddiant ychwanegol i bobl ifanc mewn maes arbenigol. Enillydd yr Ysgoloriaeth y llynedd yn Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan oedd Aled Pedrick, 18 oed o Wauncaegurwen yn Nyffryn Afan, gan olynu Mirain Haf o Fangor fel enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth, Fflur Wyn o Frynaman a Rhian Mair Lewis o Gaerfyrddin. Ers i Aled ennill yr ysgoloriaeth mae'r gwahoddiadau i berfformio mewn cyngherddau a gwahanol ddigwyddiadau wedi bod yn doreithiog. Roedd hefyd yn fraint i Brif Fachgen Ysgol Gyfun Ystalyfera, sydd ar hyn o bryd yn adolygu ar gyfer ei Lefel A mewn Drama, Cerddoriaeth a Llenyddiaeth Saesneg, fod Bryn Terfel ei hun yn bresennol ar y noson i'w gyflwyno gyda’i wobr o £4,000. "Roedd yn bwysig iawn i mi ei fod yn gallu bod yno ar y noson. Ma' fe'n foi hynod o ffein â'i dra'd e ar y ddaear. Mae ei enw yn fyd-enwog, ac yn amlwg mae gall cynnwys enw Bryn Terfel ar eich C.V yn mynd i fod yn hwb mawr i'ch gyrfa. Ond pan ry'ch chi'n cwrdd ag e, dydych chi ddim yn meddwl hynny, gan ei fod yn gwneud i chi deimlo mor gartrefol yn siarad am bethe' fel rygbi a phêl-droed," meddai Aled. “Fe gefais y fraint hefyd o ganu ochr yn ochr ag e yng Nghyngerdd Cyhoeddi Eisteddfod 2005 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn gynharach eleni. Dyma, yn sicr un o brofiadau gorau fy mywyd i,” ychwanega. Mae Aled wedi defnyddio cyfran o’r arian a enillodd yn sgil yr Ysgoloriaeth i gael gwersi canu gan y bariton proffesiynol, Tim Rhys-Evans yng Nghaerdydd, a hefyd i dalu am ei gostau teithio i wahanol glyweliadau ar gyfer Colegau a Phrifysgolion yn Llundain ac ar draws Prydain. Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau “Mae’r Urdd yn hynod falch o lwyddiant yr Ysgoloriaeth ers ei sefydlu, ac yn ymfalchïo ein bod yn gallu rhoi cyfle i rai o dalentau gorau Cymru ddatblygu ymhellach drwy gyfrwng y wobr hon. “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Bryn Terfel am ei gefnogaeth i’r Mudiad. Anogwn bawb i ddod yn llu i Theatr Gwynedd i gyd-fwynhau y wledd gerddorol efo ni.” Bydd tocynnau ar gael ar gyfer y noson drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01248 353 707. Os na fydd cyfle i chi fynd draw i Theatr Gwynedd ym Mangor, darlledir cystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru yn fyw ar S4C ar 26 o Fehefin am 8.30 pm. Diwedd Mai 28, 2004 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Eurgain Haf. NodiadauEleni, gwahoddir enillwyr y cystadlaethau canlynol i gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2004. · Unawd 19-25 oed · Unawd Allan o Unrhyw Sioe Gerdd 14-25 oed · Cyflwyno Alaw Werin Unigol (19-25 oed) · Unawd Offerynnol 19-25 oed · Unawd Gerdd Dant 19-25 oed · Llefaru Unigol 19-25 oed · Cyflwyniad Theatrig unigol 14-25 oed · A’r gorau yn nhyb y beirniaid o’r cystadlaethau canlynol: Dawns Unigol i Ferched 15-25 oed a Dawns Unigol i fechgyn 15-25 oed Dyfyniad gan Bryn Terfel: “Mae gennym i gyd ddyled fawr i’r Urdd am y cyfleon gwych rydw i a nifer o bobl ifanc wedi eu derbyn wrth brofi’r wefr o berfformio o flaen cynulleidfa fyw. “Cystadlu yn yr Urdd a roddodd yr hwb i mi i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth, a rwy’n hynod falch o allu cynnig cefnogaeth i’r Urdd i wireddu’r cyfleon hyn a rhoi hwb ychwanegol i’r bobl ifanc i ddilyn gyrfa lewyrchus ar raddfa ryngwladol yn eu maes arbenigol.”
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |