Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU

YNYS MÔN, 2004

 Datganiad i'r Wasg

CORONI 

Enillydd: SIÂN EIRIAN REES DAVIES, AELWYD UNDEB MYFYRWYR CYMRAEG BANGOR, BANGOR OGWEN, ERYRI.

Jane Edwards a Gwilym Dyfri Jones  oedd yn beirniadu cystadleuaeth y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ynys Môn heddiw.  Dyma oedd ganddynt i'w ddweud am waith Siân:

"Saif MADRYN ben ac ysgwyddau uwchlaw gweddill y cystadleuwyr.  Wele awdur aeddfed a dawnus sydd â’r gallu i drin geiriau mewn modd sensitif, gofalus a chywrain.  Cafodd y ddau ohonom wefr o ddarllen ei gampwaith." 

Daw Siân yn wreiddiol o Dinas, Pen Llyn ond mae hi bellach yn byw ym Mhwllheli.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Morfa Nefyn, Ysgol Gynradd Nefyn ac Ysgol Uwchradd Botwnnog.  Dilynodd gwrs Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor - cyn ennill gradd dosbarth cyntaf ym Mhrifysgol Cymru Bangor mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol.  Ar hyn o bryd mae Siân yn astudio MA Ysgrifennu Creadigol, gan gwblhau'r cwrs ym mis Awst.

Ym mis Medi, bydd Siân yn dechrau ar ei swydd gyntaf, fel darlithydd Cymraeg Ail iaith yng Nghoeg Ial.

Mwydro gyda theulu a chyfeillion, gwledda a gwin yw diddordebau Siân, heb anghofio ysgrifennu wrth gwrs.  Hoffai feistroli Sbaeneg rhyw ddydd, a theithio'r byd.

Wrth sôn am ei dylanwadau, meddai Siân:

"Fel merch sy'n ffodus o fod yn perthyn i deulu, cylch o ffrindiau ac i ardal sydd mor gyfoethog o gymeriadau lliwgar a straeon dirifedi does dim angen llenorion mawr y byd llenyddol i'm hysbrydoli - mae'r hyn sy'n fy ysgogi a'm dylanwadu wrth 'sgrifennu o fy nghwmpas.  Rwyf wedi fy nifetha gyda'r holl ddeunydd llenyddol sy'n fy amgylchynu."

Hoffai Siân ddiolch i Kate Roberts am ddangos bod lle a gwerth i lais y ferch yn y byd llenyddol yng Nghymru.  Hefyd hoffai ddiolch i'w holl athrawon Cymraeg a Saesneg, y darlithwyr oll yn yr adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ac i'w ffrindiau a'i chymar, ei mam a'i thad ac Arwel a Bethan am eu cefnogaeth frwd, ac yn bennaf oll, am eu cariad.

Guto Dafydd, o Ysgol Glan y Môr, Llyn, Eryri ddaeth yn ail gyda Gwenno Mair Davies, Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth, Ceredigion a Leah Hughes Jones, Aelod Unigol o'r tu allan i Gymru, Lemmington Spa yn rhannu'r drydedd wobr. 

Diwedd

Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eleri Davies
neu Eurgain Haf

4 Mehefin 2004

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481