Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU

YNYS MÔN, 2004

4 Mehefin 2004

Datganiad i'r Wasg EMGARGO 8.30pm

TLWS Y PRIF GYFANSODDWR

Enillydd: OWAIN LLWYD, AELWYD UNDEB MYFYRWYR CYMRAEG BANGOR, BANGOR OGWEN, ERYRI.

Daw Owain Llwyd o Lyndyfrdwy, Corwen, Sir Ddinbych. Mae'n ugain oed, a chychwynnodd gyfansoddi pan oedd yn wyth oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy. O'r ysgol honno aeth i Ysgol Y Berwyn, Y Bala, lle y bu'n brif-fachgen cyn mynd i Goleg y Brifysgol Bangor i astudio tuag at radd Bmus.  Mae bellach wedi cwblhau ei ail flwyddyn . Ei brif offeryn yw'r piano.

Uchafbwyntiau cerddorol Owain hyd heddiw oedd ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003, Tlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2002 ac ennill yr unawd piano yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol gan gipio y Rhuban Glas Offerynnol i rai rhwng 16 ac 19 yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002.


Hoffai ddiolch i'w rieni a'i frawd am eu holl anogaeth a'u cefnogaeth ac i'w holl ffrindiau JMJ a'r Adran Gerdd, Prifysgol Cymru Bangor. Yn arbennig, hoffai ddiolch i Wyn Thomas yn yr Adran Gerdd am ei hyfforddiant a'i weledigaeth.

Mae'r gwaith yn gyfres o 3 symudiad wedi eu seilio ar gerdd gan yr Athro Gwyn Thomas o'r enw 'Da Ydoedd’ sy’n sôn am y greadigaeth o gyffro'r dechreuad.  Ysgrifennwyd y geiriau yn wreiddiol ar gyfer comisiwn gan Côr Merched Edeyrnion.


Cyfansoddwyd y gwaith yn ei lofft yn Neuadd John Morris Jones ym Mangor a'r dylanwadau cerddorol ar y gwaith yw'r cyfansoddwr megis Debussy, Ravel, Hindermith, William Mathias ag Alun Hoddinott.

Y cyfansoddwr o Fôn, Gareth Glyn oedd yn beirniadu'r gystadleuaeth eleni, ac roedd ei sylwadau yn y feirniadaeth yn gadarnhaol dros ben.

"Naw ymgais ddaeth i law, ac mae’n dda gen i ddweud bod y safon ar y cyfan yn hynod o uchel...  Cefais bleser mawr yn pori drwy’r ymgeisiau, ac mae’n braf gweld bod ’na ddyfodol sicr i’r grefft o gyfansoddi yng Nghymru."

Owain Llwyd hefyd ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth heddiw, gydag Eleri Pound, Aelod Unigol o'r tu allan i Gymru, Headingley yn drydydd.

Noddwyd y seremoni heno gan Alwminiwm Môn.

Diwedd 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929 neu Eurgain Haf ar 07770 955668

4 Mehefin 2004

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481