|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU YNYS MÔN, 2004 Datganiad i’r Wasg4 Mehefin 2004 Urddaholics yn Wirfoddolwyr y Mileniwm Mae nifer o aelodau Urddaholics (pobl ifanc 16 - 25 oed) yn y de-ddwyrain wedi ymrwymo i'r cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm dros y flwyddyn diwethaf. Fel rhan o'r cynllun yma mae dros 40 o aelodau rhwng 16 - 19 oed wedi ymrwymo i wneud gwaith gwirfoddol am flwyddyn ar wahanol brosiectau a gynhelir gan yr Urdd yn y gymuned. Mae’n rhaid i bawb sy'n cymryd rhan yn Gwirfoddolwyr y Mileniwm gyflawni 100 o oriau o waith gwirfoddol cyn y byddant yn cael tystysgrif cydnabyddedig am eu gwaith. Bydd pawb sy'n cyflawni 200 o oriau yn derbyn tystysgrif rhagoriaeth. Rhai o'r cynlluniau y mae'r Urddaholics yn ymwneud â nhw yn y gymuned yw: · Hyfforddi pêl-droed i aelodau cynradd · Rhedeg a chynnal adrannau'r Urdd i blant ail-iaith · Cynnal a rhedeg adrannau ac uwch-adrannau'r Urdd i siaradwyr Cymraeg · Cynorthwyo Swyddogion Datblygu'r Urdd gyda gweithgareddau · Hybu gweithgareddau cymundeol yr Urdd yn eu hysgolion Meddai Carly Jones, 17 oed o Benybont-ar-ogwr, "Mae cymryd rhan yn y cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm efo’r Urdd wedi rhoi cyfle i mi gael profiad gwerthfawr o weithio gyda phlant a phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf yn dysgu sgiliau newydd holl bwysig ac mae’n rhoi boddhad mawr i mi feddwl fy mod yn cyfrannu at fywyd y gymuned." Meddai Sara Richards, Swyddog Urddaholics y de-ddwyrain, "Mae prosiect Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn brosiect cenedlaethol sydd wedi ei anelu at bobl ifanc 16 - 24 mlwydd oed i roi’r cyfle iddynt wirfoddoli a chael cydnabyddiaeth am yr hyn maent yn ei gyflawni. Mae'n braf gweld yr Urddaholics sy'n cymryd rhan yn y cynllun yma yn derbyn cyfrifoldeb ac yn datblygu'n unigolion gwerthfawr sy'n cyfrannu eu hamser ac yn rhannu eu harbenigedd gyda'r gymuned - a'r cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.' ----------------------------------- DIWEDD -----------------------------------
Am
fwy o fanylion cysylltwch â Siân
Eleri Davies
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |