
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU
YNYS MÔN, 2004
Datganiad i'r Wasg
Gwener, 4 Mehefin, 2004
S4C YN GOSOD HER l GORAU
GORAU CYMRU
Wrth i Eisteddfod yr Urdd, Ynys
Môn 2004 dynnu at ei therfyn, mae’r gorau o’r cythraul canu eto i
ddod wrth i’r Corau Aelwydydd fynd ben yn ben ar lwyfan y Brifwyl ar
ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod.
Ond ymestynnir yr her i’r corau ieuenctid hyn, ynghyd â gweddill
corau Cymru a thu hwnt, i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Côr Cymru
nesaf S4C a gynhelir yn 2005.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol Côr Cymru 2003, yn Aberystwyth a
buddugoliaeth ryfeddol côr plant Ysgol Gerdd Ceredigion, mae S4C yn
falch i gyhoeddi cystadleuaeth arall yn 2005 gyda chyfle i’r Côr
buddugol ennill gwobr o hyd at £7,000.
Trefnir y gystadleuaeth Côr Cymru 2005 gan Gwmni Teledu Opus ar ran
S4C ac mae nifer o geisiadau eisoes wedi dod i law ymhob un o’r
pedwar categori, sef Corau ieuenctid o dan 25 oed; Corau cymysg;
Corau Merched a Chorau Meibion.
Ond mae’r drws dal yn agored am geisiadau hyd at y 15fed o Fehefin,
2004. Gwahoddir y corau i gysylltu â Theledu Opus ar 029 2022 3456
neu e bostio’r cwmni, corcymru@opustv.com
Meddai Gwawr Owen: “Mae’r ymateb i’r gystadleuaeth wedi bod yn
galonogol iawn hyd yma, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at
gystadleuaeth safonol fel a gafwyd yn 2003.
Bydd y pedwar Côr a ddaeth i’r brig y llynedd sef Côr Seiriol,
Cywair, Only Men Aloud ac Ysgol Gerdd Ceredigion hefyd yn cymryd
rhan yng Nghyngerdd Canolfan y Mileniwm ym mis Tachwedd i ddathlu
agoriad swyddogol y Ganolfan a fydd hefyd yn cartrefu gwersyll
newydd Urdd Gobaith Cymru.”
Bydd y rowndiau cynderfynol a gynhelir ar benwythnos 4-6 Chwefror
2005, a’r rownd derfynol a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau
Aberystwyth ar nos Sul, 27 Chwefror 2005 yn cael eu recordio gan
Deledu Opus i’w darlledu ar S4C ac S4C digidol.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Eurgain Haf ar 07770 955 668 neu
Owain Pennar, S4C 029 20 741416
Dyddiad: 4 Mehefin, 2004
|