Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU

YNYS MÔN,  2004

Datganiad i'r Wasg

Gwener, 4 Mehefin, 2004

S4C YN CHWILIO AM Y ‘WAWFFACTOR’ AR FAES YR EISTEDDFOD

Heddiw, ar faes yr Eisteddfod, bydd talent pobl ifanc Cymru yn cael llwyfan ym Mhafiliwn S4C yn ogystal â phafiliwn y Brifwyl, wrth i rai o sêr y dyfodol geisio profi fod ganddynt y ‘Waw ffactor’.

Mae cynhyrchwyr y gyfres deledu boblogaidd WawFfactor a hyn o bryd yn cynnal clyweliadau ar gyfer yr ail gyfres a fydd i’w darlledu yn gynnar yn 2005 ar y Sianel.

Cynhelir y clyweliadau cyntaf ym Mhafiliwn S4C ar faes Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Ynys Môn heddiw (ddydd Gwener, 4 Mehefin) rhwng 3.00 a 5.00 o’r gloch.

Bydd cyflwynydd WawFfactor, Eleri Siôn, ynghyd ag un sydd â llygad graff am dalent newydd, yr amryddawn Caryl Parry Jones yn bresennol i wrando ar y rhai fydd yn ymgeisio, ac yn gobeithio ennill eu lle mewn clyweliad arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fyddent yn gorfod perfformio o flaen panel o feirniad a chamerâu WawFfactor.

Mae’r ail gyfres o WawFfactor yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfres gyntaf y llynedd pan gipiodd Lisa Pedrick o Wauncaegurwen y brif wobr. Ers hynny, mae Lisa ac Aimee Duffy o Ben Llŷn, a ddaeth yn ail agos iddi wedi rhyddhau CD.

LLUNIAU

Os ydych am dynnu lluniau o’r cystadleuwyr gydag Eleri Siôn a Caryl Parry Jones, gofynnir i chi ddod draw i Bafiliwn S4C ar y Maes am 2.45pm. Gofynnwn yn garedig i ffotograffwyr beidio â thynnu unrhyw luniau yn ystod y perfformiadau.


Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Eurgain Haf ar 07770 955 668 neu Owain Pennar ar 029 20 741 416.

4 Mehefin 2004
 

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481