EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU
YNYS MÔN,
2004
Datganiad i'r Wasg
Y CADEIRIO
Enillydd:
HYWEL MEILYR GRIFITHS,
AELWYD PANTYCELYN, ABERYSTWYTH, CEREDIGION
Cen Williams ac Einir Jones oedd y ddau feirniad
yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith
Cymru Ynys Mon heddiw. Dyma oedd ganddynt i'w ddweud am yr awdl
fuddugol:
"Awdl gan grefftwr arbennig sy’n defnyddio amrywiaeth eang o fesurau
yw hon. Cododd fel potel gyda neges ynddi i frig y don o’r
darlleniad cyntaf. Aberystwyth, y teimladau a’r emosiynau a
gysylltir yn y cof â’r coleg a’r gymdeithas yw’r angor ond mae’r
diweddglo yn cynnig angor amgenach i ni yn yr iaith, ein hanes, ein
chwedlau a’n llenyddiaeth. “Ar drothwy’r môr angorwn. / Rhannwn
iaith â’r penrhyn hwn/ Rhown i’r tir heno’r to iau / Sŵn ein hanes
a’n henwau…/ Englynion gwyllt i’r tonnau /A’r llanw’n ferw’n cryfhau...
Pleser ysgytwol oedd ei darllen."
Daw Hywel Griffiths yn enedigol o Langynog ger
Caerfyrddin ac ar hyn o bryd mae'n fyfyriwr yn y drydedd flwyddyn ym
Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'n astudio Daearyddiaeth a
Mathemateg ac yn gobeithio aros yn Aberystwyth i astudio cwrs Meistr
mewn Daearyddiaeth ffisegol flwyddyn nesaf.
Ei brif ddiddordebau ar wahan i farddoni yw
chwaraeon, cerddoriaeth, ffilmiau a gwleidyddiaeth. Mae'n hoff iawn
o ddarllen gwaith Gerallt Lloyd Owen, Dic Jones ac R.S Thomas a bu’r
rhain yn ddylanwadau mawr arno. Hoffai ddiolch i'w deulu i gyd a
Catrin, ei gariad am yr ysbrydoliaeth, ac i’w ffrind Eurig am ei
nysgu i gynghaneddu.
Dwy gredd gan Eurig Salisbury, o Aelwyd Pantycelyn, Aberyswyth,
Ceredigion (athro Hywel!) ddaeth yn gydradd ail eleni, gydag Aneirin
Karadog, Aelod Unigol o Gylch Pontypridd, Morgannwg Ganol ac Osian
Rhys Jones o Aelwyd Pantycelyn, Aberyswyth, Ceredigion yn gydradd
drydydd.
Diwedd
Am fwy o fanylion
cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929 neu Eurgain Haf ar
07770 955668
3 Mehefin 2004 |