|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU YNYS MÔN, 2004 Datganiad i’r Wasg3 Mehefin 2004 EISTEDDFOD CANOLFAN MILENIWM CYMRU Heddiw mae Urdd Gobaith Cymru yn eithriadol o falch i fod ym meddiant allwedd arbennig iawn, allwedd sy'n lysgennad penigamp i Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Gydag Eisteddfod yr Urdd 2005 yn cael cartref yng Nghanolfan y Mileniwm, mae hi'n briodol iawn bod yr allwedd yn ymweld â'r Eisteddfod hon, ddeuddeg mis ymlaen llaw. Cynlluniwyd yr allwedd gan y gofaint Ann Catrin Evans; hi fydd hefyd yn cynllunio'r drysau yn y mannau cyhoeddus yn y ganolfan. Y syniad ydi bod yr allwedd yn mynd o law i law, ac yn cael ei basio o ddwylo cerddorion i ddwylo perfformwyr i ddwylo gwleidyddion. Mae’r allwedd eisoes wedi bod gyda Bryn Terfel yn Efrog Newydd, ym Mharis, St Petersburg, Salzburg, Yr Eidal, De Affrica, Siapan a De Cymru Newydd, a bydd yn mynd o Fôn i Fontreal! Mae'r paratoi eisoes ar y gweill, a nos Sadwrn yn y pafiliwn bydd criw o Aelwyd CF1 yn perfformio cyflwyniad i groesawu Eisteddfod 2005 i Ganolfan y Mileniwm. Yn rhan o'r cyflwyniad bydd cerdd groeso a ysgrifennwyd ganddynt ar y cyd â Ceri Wyn Jones yn ystod ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru. Comisiynwyd Hector McDonald i roi'r gerdd ar gerddoriaeth, a bydd cydblethu'r geiriau a'r gerddoriaeth yn adlewyrchiad o'r bwrlwm fydd ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru flwyddyn i nawr. Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2005 yn Eisteddfod dra gwahanol. Meddai Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddau Urdd Gobaith Cymru: "Rydan ni'n gobeithio defnyddio godidogrwydd safle Eisteddfod y flwyddyn nesaf i'w lawn botensial. Mae trafodaethau ar y gweill rhwng yr Urdd a Chyngor Dinas Caerdydd ynglyn â'r posibilrwydd o gau rhai ffyrdd sy'n amgylchynu Canolfan y Mileniwm. Bydd modd gosod y stondinau ar y strydoedd a chreu maes arbrofol, arloesol a gwahanol iawn i'r arfer, a bydd modd ymgorffori Plass Roald Dahl yn rhan o'r maes hefyd. Mae trafodaethau ar y gweill yngln â chynnal rhagbrofion yn sinema'r UCI drws nesaf i'r Ganolfan hefyd. A gan fod yr Eisteddfod ar lan y dr, mae'n bosib y gallwn gynnig gweithgareddau dwr yn rhan o'r arlwy i'r Eisteddfodwyr. Bydd Eisteddfod yr Urdd 2005 yn gyfle heb ei ail i'n ieuenctid gael blasu am y tro cyntaf gyfleusterau rhagorol Canolfan ysblennydd y Mileniwm. Bydd sawl llwyfan yn gallu cael eu defnyddio yno, a bydd modd manteisio ar adnoddau campus preswylwyr eraill y Ganolfan megis Cwmni Dawns Diversions a Chwmni Opera Cymru. Mae'r Urdd yn ddiolchgar am gefnogaeth a chydweithrediad Cyngor Dinas Caerdydd, ac rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith bod yr Eisteddfod gyntaf fydd yn cael ei chynal yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd yn cyd‑daro gyda dathliadau 50 mlynedd prifddinas Cymru." Meddai Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Fel mae'r Urdd yn ei chyfrif hi'n fraint cael bod yn bartneriaid yng Nghanolfan y Mileniwm, mae'n fraint hefyd i'r Ganolfan gael croesawu hufen ifanc ein gwlad. Mae’n sir y bydd artistiaid proffesiynol o bob cwr o'r byd yn heidio i'r llwyfan yn eu tro, ond fydd yr un ohonyn nhw'n fwy pwysig na'r rhai fydd yn ymddangos ar y llwyfan yn ystod Eisteddfod yr Urdd." Meddai Judith Isherwood, Prif Weithredwr Canolfan Mileniwm Cymru: "Edrychaf ymlaen at groesawu’r Urdd, pobl ifanc Cymru a phobl ledled y wlad i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2005 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac i’ch croesawu yn ôl bob pedair blynedd o hynny ymlaen.” ---------------------- DIWEDD ----------------------- Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929 neu Eurgain Haf ar 07770 955668
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |