|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU YNYS MÔN, 2004 Datganiad i'r WasgDydd Mercher, 2 Mehefin, 2004 YR URDD AM WEDDNEWID Y PROFIAD EISTEDDFODOL
Arbrawf newydd eleni yw arddangos Wal Fideo enfawr sy'n cynnwys 80-sgrîn fel cefnlen yn y pafiliwn. Bydd y Wal Fideo, o'r enw 'Catalyst' yn dangos delweddau i gyd-fynd â themâu gwahanol gystadlaethau, gan gyfoethogi y profiad gweledol i'r gynulleidfa yn y pafiliwn ac yn gwylio'r cyfan o'r arlwy adref ar y sgrîn fach ar S4C. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y perfformiad o’r Sioe Gerdd Gynradd, Joseff i ddangos delweddau o'r pyramidiau a thirluniau yr Aifft er mwyn ategu at naws y Sioe. Er bod Wal Fideo y 'Catalyst' eisoes wedi ei defnyddio ar raglenni rhwydwaith fel Jet Set Lottery, Strictly Come Dancing a rowndiau cynderfynol yr UK Eurovision Song Contest, dyma'r tro cyntaf iddi gael ei defnyddio yng Nghymru. Bydd menter newydd sbon arall, sef ‘Y Llwybr Llaethog’, ar gael ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni am y tro cyntaf. Ardal gyfan wedi ei neilltuo ar gyfer y bobl ifanc yw hon gyda’r atyniadau’n cynnwys: demos trin gwallt gan Siop Ceri a Morus o Borthaethwy, gyda nawdd gan gylchgrawn ‘V’ a ramp sglefrfyrddio a noddir gan S4C. Yn ogystal, darperir tipis gan Shelters Unlimited o Fachynlleth, diolch i nawdd gan HSBC. Bydd y tipis yn gartref i sesiynau adrodd stori, gweithdai sgrifennu a sgriptio, dawns, sesiynau acwstig a dadleuon. Byddant hefyd yn le da i gymdeithasu, ac i sgwrsio dros frecwast a fydd yn cael ei baratoi gan aelodau’r Urdd, gan ddefnyddio cynnyrch a ddarperir gan Gwmni Masnach Teg. Mae'r Urdd hefyd eleni yn falch o allu cynnig gweithdai canu a cherddoriaeth dan ofal y tenor enwog o Lanbedrgoch, Gwyn Hughes Jones a'r pianydd proffesiynol o Amlwch, Iwan Llewelyn Jones. Cynigir y gweithdai i'r cystadleuwyr rheiny rhwng 15 ac 19 oed sydd wedi cyrraedd y rhagbrofion yn y Genedlaethol yn y cystadlaethau unawd canu a phiano. Bydd y dosbarthiadau meistri a gynhelir ar y maes yn ystod yr wythnos yn brofiad gwych i'r bobl ifanc hyn feithrin eu talent yn eu maes yng nghwmni dau arbenigwr. Mae Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau yn ffyddiog y bydd y mentrau newydd yma yn ffordd ymlaen i gynnig ystod eang o brofiadau modern, diwylliannol, cyfoes a deniadol i gystadleuwyr ac ymwelwyr â'r Eisteddfod: “Arbrawf yw nifer o’r gweithgareddau hyn eleni, a’r gobaith yw y gallwn adeiladau arnynt. Bydd y Wal Fideo yn cynnig profiad a rhoi naws weledol newydd i’r cystadlu tra bydd y tipis ac aradl y Llwybr Llaethog yn cynyddu yr arlwy ar gyfer y bobl ifanc nad ydynt o reidrwydd yn dod yma i gystadlu. “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y dosbarthiadau meistri hefyd am y tro cyntaf eleni ac yn gwerthfawrogi’n fawr fod Gwyn Hughes Jones ac Iwan Llewelyn Jones yn fodlon rhoi o’u hamser i feithrin sêr y dyfodol,” meddai. Diwedd Mai 28, 2004 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Eurgain Haf, Swyddog y Wasg ar 07770 955 668 neu Siân Eleri Davies ar 07811 269929
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |