|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU YNYS MÔN, 2004 Datganiad I'r Wasg ARDDANGOSFA HERIOLPafiliwn o bosau, gweithgareddau a rhyfeddodau ydi'r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Mathemateg eleni. John Idris Jones ydy Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Môn: "Yn y Pafiliwn gydol yr wythnos bydd llu o weithgareddau mathemategol a gwyddonol gwahanol. Yn ogystal â her gwyddoniaeth - sef hanner dwsin o daclau gwahanol sy'n bosau i'w datrys, mi fydd criw Calon Cymru yno yn gwneud profion syml i weld pa mor iach ydy'r eisteddfodwyr. Tu allan yr arddangosfa, bydd 'bysgiwr gwyddoniaeth' yn crwydro'r maes ac yn holi a phryfocio i weld faint mae pobl yn wybod am wyddoniaeth a mathemateg. Yn y pafiliwn bydd cystadleuaeth K-Nex ddyddiol, sef cyfle i ddefnyddio blociau ychydig yn fwy peirianyddol na Lego i adeiladu tr neu bont - addas iawn ar Ynys Môn!" Bydd arddangosfa o waith buddugol cystadlaethau gwyddoniaeth a mathemateg yr yl yn y Pafiliwn hefyd, a chyfle i chwarae'r gemau Mathemateg buddugol. Derbyniodd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ynys Môn 2004 nawdd gan gwmni British Nuclear Group ar gyfer Pafiliwn Gwyddoniaeth a Mathemateg yr yl. Bydd staff o orsaf ber yr Wylfa yn y Pafiliwn drwy'r wythnos yn rhoi help llaw gyda'r sialensau a'r gweithgareddau. Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru: "Fel un o brif gyflogwyr Ynys Môn, mae'r Urdd wedi cael cydweithrediad llawn y cwmni wrth baratoi am yr Eisteddfod ac mae llawer o'r gweithlu wedi rhoi o'u hamser yn wirfoddol i gynorthwyo'r mudiad. Mae'n unol â pholisi'r cwmni i gefnogi gweithgareddau pobl ifanc ac i hybu eu dealltwriaeth o wyddoniaeth." DiweddAm fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929 neu Eurgain Haf ar 07770 955668 1 Mehefin 2004 |
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |