Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU

YNYS MÔN,  2004

DATGANIAD I'R WASG BWRDD YR IAITH GYMRAEG

01.06.04 Urdd yn effeithio'n gadarnhaol ar y defnydd o'r Gymraeg

Mae'r Urdd yn cael effaith gadarnhaol ar ledu a gwella'r defnydd o'r Gymraeg yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar waith maes y mudiad.

Wrth gyflwyno copi o'r adroddiad heddiw (Mawrth) i Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

"Mae casgliadau'r adroddiad yn gam bwysig ymlaen o ran mesur gyfraniad yr Urdd i'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith plant a phobl ifanc. Heb os, mae'r Urdd yn cynnig cyfle heb ei ail i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg mewn amryw o ffyrdd sy'n hwylus a pherthnasol iddyn nhw.

"Yr her i’r Urdd yw parhau i ddarparu’n effeithiol ar gyfer yr holl ystod oedran a chefndiroedd ieithyddol gwahanol yn wyneb y ffaith bod cymaint o ffactorau’n cystadlu am sylw plant a phobl ifanc. Mae'n rhaid i'r Urdd weithredu'n strategol gyda'i phartneriaid i sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i fod yn atyniadol i aelodau'r Urdd a bod yna fwy o gyfleoedd nag erioed iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg."

Pwrpas yr arolwg oedd i edrych ar 'effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwaith maes Urdd Gobaith Cymru' o ran cynyddu'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg ymysg yr aelodau. Mae'r arolwg yn nodi bod gweithgarwch yr Urdd yn cael effaith gadarnhaol ar ledu a gwella defnydd cymdeithasol o’r iaith Gymraeg o fewn cyd-destunau cyfoes a deniadol.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu canlyniadau’r adroddiad yn fawr. Dywedodd Prif Weithredwr y mudiad, Efa Gruffudd Jones:

‘Rydym yn falch iawn o nodi canlyniadau’r arolwg. Ein blaenoriaeth ni nawr fydd ymateb yn greadigol i'r argymhellion a wnaed ac yn y modd ry'n ni'n mynd ati i sicrhau cyllid digonol i'r Urdd er mwyn iddi gyflawni ei photensial. Mae’n amlwg o'r adroddiad fod yr Urdd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru, a bod ganddom ni rôl bwysig i’w chwarae wrth sicrhau defnydd o’r iaith Gymraeg fel iaith gymdeithasol fywiog.’

Nodiadau Golygyddol

·         Mae 'gwaith maes' yr Urdd yn cynnwys: chwaraeon, teithiau, hybu ymweliadau â’r gwersylloedd, gweithgareddau celfyddydol, cylchgronau, y gwaith dyngarol a’r gweithgareddau a drefnir drwy’r gangen leol, boed honno’n adran, aelwyd neu gangen ysgol

·         Mae gan yr Urdd 50,000 o aelodau a dros 1,000 o ganghennau.

Mae’r Urdd yn un o brif bartneriaid Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481