EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU
YNYS MÔN,
2004
Datganiad i’r Wasg
SIOEAU I GODI’R TÔ
Er bod y cystadlu ar y
llwyfan yn dirwyn i ben am 6.00 o’r gloch bob dydd mae’r arlwy o
gyngherddau a sioeau hwyrol a ddarperir gan Eisteddfod yr Urdd, Ynys
Môn eleni yn sicrhau fod yr adloniant yn parhau ymhell i’r nos.
Sioe Gerdd
Gynradd yr Eisteddfod eleni yw Joseff, addasiad Cymraeg Aled
Lloyd-Davies o’r sioe gerdd hynod boblogaidd Joseph and the
Amazing Technicolour Dreamcoat. Ysgrifennwyd y sioe’n wreiddiol
yn 1968 ar gyfer ysgol yn Llundain, ond bryd hynny dim ond chwarter
awr o hyd oedd y sioe, ac yn raddol cafodd ei datblygu i fod yn sioe
gerdd gyflawn erbyn dechrau’r saithdegau i’w pherfformio yn y West
End yn Llundain.
Bydd dros 140 o
blant ysgolion cynradd Ynys Môn yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad dan
gyfarwyddyd Iola Ynyr o Gwmni’r Frân Wen. A bydd y perfformiad
cyntaf i’w weld heno (nos Fawrth, 1 Mehefin) yn y Pafiliwn gydag ail
berfformiad nos yfory.
Yn chwarae rhan
Joseff, mae wyneb cyfarwydd i nifer am ei bortread o’r Rhys Lewis
ifanc yng nghyfres gyntaf S4C o’r ddrama gyfnod Treflan, Siôn
Eifion, sy’n unarddeg oed ac yn hanu o Lanfaelog. Bydd yn dilyn ôl
troed enwogion fel Jason Donavan, Phillip Schofield a chyd-Fonwynsyn
arall, Aled Jones ym mhrif ran sioe gerdd enwog Andrew Lloyd Webber
a Tim Rice.
Cyfarwyddwr
cerdd y sioe yw Andrew Angel, pennaeth ysgol gynradd Pentraeth. “Mae
bod yn rhan o’r sioe yn cynnig cyfle ardderchog i’r plant i fwynhau
actio a chanu a datblygu eu sgiliau,” meddai. “Maen nhw wrth ei bodd
efo’r sioe gan fod yma ddigon o amrywiaeth o ran steils a rhythm y
caneuon, o ganeuon roc a rôl, i gân Ffrengig a chalypso.”
Mae hi wedi bod
yn gyfnod prysur ar Andrew ar hyn o bryd gan mai y fo hefyd a fu’n
cyfeilio i Sioe Gerdd Ieuenctid yr Eisteddfod eleni sef Llwch yn
ein Llygaid gan Rhian Mair Jones a Delyth Rees, cyfarwyddwyr
llwyfan a cherdd y sioe.
Ffuglen yw
Llwch yn Ein Llygaid sydd wedi ei sylfaenu ar ddau ddigwyddiad
yn hanes Môn ond sydd hefyd yn gyfoes i sefyllfa yr Ynys heddiw ac
fe’i perfformir gan ddisgyblion yr ysgolion uwchradd.
Gwerthwyd y
tocynnau i gyd ar gyfer y perfformiadau ar Nos Sadwrn cyntaf yr
Eisteddfod a’r Nos Lun yn Ysgol Uwchradd Caergybi.
Yn ystod wythnos yr
Eisteddfod hefyd cynhaliwyd cyngerdd agoriadol mawreddog yng nghwmni
y tenor enwog o Lanbedrgoch, Gwyn Hughes Jones ac artistiaid eraill
ar y nos Sul cyntaf; cystadlaethau caneuon actol, drama,
cerddorfeydd ac Aelwydydd gyda’r Gymanfa Ganu yn ddiweddglo i
wythnos lawn o weithgareddau.
27 Mai, 2004 |