EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU
YNYS MÔN,
2004
Datganiad i’r Wasg
EMBARGO 8.30pm 31, MAI 2004
Heulwen Davies yn ennill Tlws John a Ceridwen
Hughes
Heulwen Davies, 43 oed, o Ddolanog, Maldwyn yw enillydd Tlws John a
Ceridwen Hughes am 2004. Mae Heulwen wedi bod yn arweinydd corawl
Aelwyd Penllys ers dros bymtheg mlynedd bellach ac yn ystod y cyfnod
hwnnw daeth y côr cymysg mawr a bach, y côr meibion a'r parti
merched i'r brig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sawl tro.
Fe ddyfernir Tlws John a Ceridwen Hughes yn flynyddol yn Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol
i ieuenctid Cymru. Noddir y tlws yma yn flynyddol gan Gerallt a Dewi
Hughes yn enw eu rhieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu
diddordeb mawr. Anrhydeddir gwaith ieuenctid gwirfoddol trwy gyfrwng
yr iaith Gymraeg sy'n waith wyneb yn wyneb â phobl ifanc dros 11 oed
a thu allan i gyfundrefn addysg ffurfiol.
Mae Heulwen wedi rhoi dros bymtheg mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i
ddiwylliant Cymraeg yr ardal ers i arweinydd diwetha côr Aelwyd
Penllys Tegwyn Jones, roi'r gorau iddi yn 1988. Mae'r côr wedi
cynnal sawl cyngerdd, cymryd rhan mewn nosweithiau llawen a
chystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol ers hynny. Tan y llynedd
roedd y côr wedi ymddangos ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
yn ddi-dorr ers 1989 – ond mae'n nhw'n dawel hyderus y byddan nhw ar
lwyfan yr Eisteddfod ym Môn ddiwedd yr wythnos hon!
Daw Heulwen yn wreiddiol o Lanerfyl yn Nyffryn Banw. Mae'n dod o
deulu cerddorol y James ac mae'n chwaer i'r delynores Alwena
Roberts. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanerfyl (lle mae
chwaer arall iddi, Olwen Chapman yn brifathrawes bellach), Ysgol
Uwchradd Llanfair Caereinion, yna bu'n astudio cerddoriaeth ym
Mhrifysgol Caerdydd cyn dychwelyd i fro ei mebyd.
Bellach mae Heulwen yn Bennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Uwchradd
Llanfair Caereinion, ac mae'n olynu Shân Cothi a Linda Gittins a
fu'n benaethiaid yr adran o'i blaen. Mae'n briod â ffermwr lleol ac
yn fam i bedwar o fechgyn, Carwyn, Rhys, Gerallt a Rhodri, ac mae
wedi trwytho ei phlant yn y diwylliant cerddorol Cymreig, gyda rhai
ohonynt yn chwarae offerynnau pres ac yn cystadlu ar unawdau mewn
eisteddfodau. Mae dau o'r bechgyn yn mynd i Aelwyd Penllys erbyn hyn
ac yn aelodau o'r côr.
Bydd Seremoni Tlws John a Ceridwen Hughes yn cael ei chynnal nos Lun,
31 Mai, am 8.30 yr hwyr ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol
Urdd Gobaith Cymru Ynys Môn 2004.
------------------------Diwedd-------------------------
Bydd Heulwen - ar gael am
gyfweliad ar ôl y seremoni wobrwyo ddydd Llun 31 Mai, 2004 ym
Mhafiliwn y Wasg ar faes yr Eisteddfod.
Am fwy
o fanylion cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929
neu
Eurgain Haf ar 07770 955668 |