EISTEDDFOD
GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU
YNYS MÔN,
2004
Press Release
2 June 2004
CAMU 'MLAEN YNG NGLAN-LLYN A
LLANGRANNOG
Mae'r bwrlwm yn parhau yng nghanolfannau preswyl Urdd Gobaith Cymru
gyda datblygiadau newydd sbon yng ngwersylloedd Llangrannog a
Glan-llyn. Bu'r flwyddyn ddiwethaf yn flwyddyn hynod gyffrous o
adeiladu, newidiadau a datblygiadau pwysig yn y ddau wersyll.
Mae'r Urdd yn falch o groesawu Aled Siôn yn ôl yn Gyfarwyddwr
Gwersyll Glan-llyn, yn dilyn penodiad y cyn-gyfarwyddwr, Alun Owens,
yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd. Mae Aled yn ail ymuno â'r
tîm ar ôl pum mlynedd, ac mae'n edrych ymlaen am yr her.
"Mae'n braf iawn bod yn ôl yn yr hen swydd a dwi'n edrych mlaen i
gyfnod newydd a chyffrous yn y gwersyll. Mae Glan-llyn wedi
datblygu'n helaeth dros y pum mlynedd diwethaf, a dwi'n edrych 'mlaen
i gael ehangu eto ar y ddarpariaeth yma."
"Un datblygiad cynhyrfus ydi'r cyrsiau Sgiliau Allweddol sy'n cael
eu cynnig yma am y tro cyntaf eleni. Dyma gymhwyster mae myfyrwyr
chweched dosbarth yn ymgyrraedd tuag ato, ac mewn cwrs pum niwrnod
yn y gwersyll cânt y cyfle i gyrraedd Lefel 1 neu 2, gan gyrraedd
Lefel 3 os am wneud gwaith gwirfoddol pellach. Mae'r myfyrwyr yn
cael cyfle i ennill tystysgrifau eraill fel canio,
hwylio, arweinwyr chwaraeon neu gymorth cyntaf ar yr un pryd.
Mantais dod i Lan-llyn i wneud y cwrs ydi bod modd cwblhau'r cyfan
mewn wythnos, ac rydym yn ffyddiog y gallwn gynnig gwasanaeth
gwerthfawr i'r ysgolion a'r myfyrwyr gyda'r cyrsiau hyn."
Ar 17 Mehefin 2004 bydd Glan-llyn yn croesawu Alun Pugh AC, y
Gweinidog
dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon,
i agor Canolfan Groeso newydd y gwersyll yn swyddogol. Dyma gartref
newydd swyddfeydd y gwersyll, darlithfa, sinema a llety ar gyfer
dros ugain o bobl. Mae'n ganlyniad buddsoddiad gwerth £852,000 yn
y gwersyll.
Mae Gwersyll Glan-llyn yn croesawu dros 12,000 o ymwelwyr yn
flynyddol, a bydd cyfle gwych i ieuenctid Cymru fwynhau'r
cyfleusterau newydd hyn yn ystod y gwersyll haf sy'n cael ei gynnal
fis Gorffennaf a mis Awst.
Gyda llety newydd sbon ar gyfer 230 wedi agor yng Ngwersyll
Llangrannog y gwanwyn yma, canolfan chwaraeon yn agor yno cyn bo hir,
a gwaith ar Ganolfan Treftadaeth yn bwrw rhagddo, mae'r cyfleusterau
Llangrannog yn datblygu hefyd. Meddai Steffan Jenkins, Cyfarwyddwr
Gwersyll yr Urdd Llangrannog:
"Un o'r digwyddiadau cyntaf i elwa o'r datblygiadau newydd fydd yr
Ysgol Chwaraeon sy'n cael ei chynnal yn y gwersyll ddiwedd fis Awst.
Wedi ei threfnu mewn
cydweithrediad â mawrion byd chwaraeon yng Nghymru, gan gynnwys Clwb
Rygbi Llanelli a Chlwb Pêl‑droed Caerdydd,
mae'n gyfle i blant blwyddyn 5
a 6 wella eu sgiliau chwaraeon tra’n mwynhau ar lan môr.
Yma yn Llangrannog rydym yn edrych ymlaen i gynnig cyfleusterau
newydd a chyfoes i'r cwsmeriaid. Rydym hefyd yn falch eithriadol
bod y datblygiadau cyffrous hyn yn mynd i greu hyd at 30 o swyddi
newydd dros y tair blynedd nesaf, gan roi hwb sylweddol pellach i’r
economi lleol yma yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Rydym yn
ymfalchïo ein bod yn rhan o'r gymuned leol, ac yn gallu cynnig
cyfleusterau o'r safon uchaf i'r gymuned yn ogystal ag i'r
gwersyllwyr."
Mae'r Urdd yn ymfalchïo yn y datblygiadau newydd yn y ddau wersyll.
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:
"Un o fy hoff atgofion i pan oeddwn i'n aelod o'r Urdd oedd treulio
cyfnodau gwersyll haf yng Nglan-llyn a Llangrannog, a dwi'n hynod o
falch o weld y gwersylloedd yn mynd o nerth i nerth ac yn parhau i
gynnig cyfleoedd cynhyrfus a bythgofiadwy i blant a ieuenctid
Cymru."
Diwedd
Am fwy o fanylion
cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929 neu Eurgain Haf ar
07770 955668
2 Mehefin 2004
Nodiadau i olygyddion
1. Cynhelir 6 chyfnod o
Wersyll Haf yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn fel a ganlyn:
16-20 Gorffennaf Blynyddoedd 7-9 Cwrs Antur
20‑25 Gorffennaf Blynyddoedd 7-9 Cwrs Iaith
9-13 Awst Blynyddoedd 9-11 Cwrs Iaith
13-20 Awst Blynyddoedd 7-9 Cwrs Antur
20-25 Awst Blynyddoedd 9-11 Cwrs Antur
25-27 Awst Urddaholics (16-25)
2. Mae cyrsiau
iaith Gwersyll Haf Llangrannog yn llawn, ond mae lle ar ôl ar y
cyrsiau i Gymry Cymraeg Cynradd:
Cwrs 1: 12-16 Gorffennaf
Penwythnos Hir: 16-19 Gorffennaf
Cwrs 2: 19-23 Gorffennaf
Cynhelir yr Ysgol Chwaraeon rhwng 23-27 Awst.
3. Bydd
Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn agor ym mis Tachwedd eleni. Am fwy o
fanylion cysyllter ag Alun Owens ar alun@urdd.org neu 029 20803362
|