|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU YNYS MÔN, 2004 Datganiad i'r WasgY FEDAL DDRAMAEnillydd: MEINIR LLOYD JONES AELOD UNIGOL, BRO ALED, CONWY Mae Meinir Lloyd Jones, enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ynys Môn 2004 yn athrawes yn Ysgol Gynradd Llannefydd ers dwy flynedd. Yn wreiddiol o Fetws yn Rhos, cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Betws yn Rhos ac yna yn Ysgol Uwchradd Y Creuddyn. Astudiodd Gymraeg a Llên y Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Bangor, gan raddio gyda gradd ddosbarth cyntaf yn y flwyddyn 2001. Roedd un o'r beirniaid, William R Roberts, yn diwtor arni yno. Ymysg ei diddordebau mae Meinir yn rhestru cerdded, nofio, beicio a dosbarthiadau byms a tyms! Mae hi hefyd yn hoffi Eisteddfota, gan ganu, llefaru a chystadlu mewn partïon yn lleol a chenedlaethol. Mwynhaodd wyliau yn Prague a Vienna dros y Pasg, gan weld ei hopera gyntaf yn Vienna! Mae Meinir yn mwynhau dramâu gan ddramodwyr megis Meic Povey a Lillian Hellman. Mae hi hefyd yn cael blas ar fynd i'r theatr i wylio cwmnïau lleol a phroffesiynol yn cyflwyno dramâu. Bu ar gwrs sgriptio yng nghanolfan T Newydd, hefo Meic Povey a Dewi Williams - beirniad arall heddiw. Yn eu beirniadaeth meddai'r beirniaid: Ar yr olwg gyntaf drama yw hon am dyndra rhwng tri phlentyn – dwy ferch a bachgen – yn chwarae mewn parc. Ond buan y sylweddolir fod hyn yn digwydd yn y flwyddyn 2008 pan yw’r wlad hon bellach dan fygythiad terfysgol. Adlewyrchir hyn yn agweddau milain y plant at ei gilydd; mae’r chwarae plant ymddangosiadol diniwed yn troi’n fygythiadau a chyhuddiadau sinistr; mae fel petai’r plant wedi’u llygru gan amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth. Ceir ymdrech dda i greu cymeriadau o gig a gwaed, rhai y gallwn uniaethu â hwy yn eu hing a’u hapusrwydd. Mae gan yr awdur glust dda am ddeialog a rhythmau iaith ac mae’r gwaith wedi ei bupro â fflachiadau hyfryd o hiwmor a dywediadau bachog sy’n lliwio’r ddrama. Mae gan y dramodydd hwn hefyd rywbeth o bwys i’w ddweud wrthym. Meddai Meinir: Fe'm hysgogwyd i ysgrifennu'r ddrama hon yn dilyn helyntion diweddar Afghanistan ac Irac. Mae'r ddrama wedi ei gosod yn y dyfodol agos ac yn edrych ar effaith y rhyfel ar blant ac ar gymdeithas. Mae'r cymeriadau yn ddrychau i rai o'r gwledydd sydd ynghlwm wrth y rhyfel. Catrin Dafydd o Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth, Ceredigion ddaeth yn ail eleni, gyda Bethan Williams o Aelwyd Bethel, Arfon, Eryri yn drydydd. DiweddAm fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929 neu Eurgain Haf ar 07770 955668 1 Mehefin 2004 |
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |