EISTEDDFOD
GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU
YNYS MÔN,
2004
Datganiad i’r Wasg
2 Mehefin 2004
NEGES HEDDWCH AC EWYLLYS DA YR
URDD
Lluniwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni gan Aelwyd yr
Ynys, sef aelwyd newydd sydd wedi ei sefydlu yn Ynys Môn yn sgîl
ymweliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd â'r ynys yn 2004.
Mae Nia Efans yn un o'r tair sefydlodd, a sy'n helpu rhedeg yr
aelwyd.
"Mae ymweliad Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn ysgogiad gwych i ni
ddechrau aelwyd yma ar yr ynys. Mae'r aelodau yn dod o bob cwr o'r
sir, ac rydan ni gyda wedi bod yn eithriadol o brysur yn paratoi at
yr ŵyl. Rydan ni'n cymryd rhan mewn 22 o gystadlaethau ddydd Sadwrn!
A heddiw mae tua 40 o'r Aelodau yn mynd i berfformio cyflwyniad o'r
Neges Ewyllys Da ar y llwyfan."
Thema'r neges eleni yw Masnach Deg. Mae'r neges, sydd wedi ei
chyfieithu i ddeg iaith, wedi cael ei anfon ar ffurf poster i bob
cangen o'r Urdd ynghyd â gwasanaeth a luniwyd yn arbennig i gyd‑fynd
â’r thema, ac mae i'w weld ar wefan yr Urdd (www.urdd.org).
Defnyddiwyd y gwasanaeth arbennig yma mewn sawl Gwasanaeth crefyddol
ledled Cymru ar Fai 18, sef Dydd Ewyllys Da yr Urdd.
Manon Wyn Williams, Nia Wyn Huws a Glesni Mair Owen luniodd y Neges,
a nhw fydd yn darllen y Neges ar y llwyfan y prynhawn yma. Manon
hefyd gynlluniodd y poster ddosbarthwyd i ganghennau'r Urdd.
Meddai Nia Efans eto:
"Mae'r Parchedig Elwyn Jones wedi ein helpu ni efo’r cyflwyniad, a
byddwn ni'n canu cân newydd gan Arfon Wyn am Fasnach Deg hefyd.
Ffeindio amser i ymarfer ynghanol yr holl brysurdeb oedd y broblem
fwyaf!"
Bydd aelodau Aelwyd yr Ynys yn cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da
o lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod heddiw am 1.45 y pnawn.
Mae'r Urdd yn ymwneud â sawl prosiect dyngarol
arall, yn eu plith daith i gartref plant yng Ngwlad Pwyl. Ym mis
Awst bydd criw Urddaholics o Dde-ddwyrain Cymru yn teithio i Wlad
Pwyl i weithio mewn Cartref Plant Amddifad. Mae'r daith hon yn
barhad o gysylltiad sy'n bodoli ers y flwyddyn 2000 yn cynnwys
ymweliadau gan blant y Cartref i wersylloedd yr
Urdd.
Lle Chwech Gwell - Ym mis Gorffennaf bydd criw o Urddaholics o Ysgol
y Preseli yn teithio i bentref yn Lesotho, De Affrica i adeiladu
toiledau cymunedol mewn pentref. Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng Urdd
Gobaith Cymru a Dolen Cymru Lesotho. Mae toiled yn y Pafiliwn Croeso
yr wythnos hon er mwyn codi ymwybyddiaeth am y daith.
Croeso Calcutta - Bu'n flwyddyn brysur iawn gyda nifer fawr o
weithgareddau wedi eu cynnal dros Gymru i aelodau'r Urdd. Un o
uchafbwyntiau'r ymgyrch oedd y daith gyfnewid pan deithiodd wyth o
Urddaholics i Calcutta mis Medi 2003, a chroesawu wyth o bobl ifanc
o Calcutta yn ôl i Gymru mis Mai eleni.
Neges Heddwch ac Ewyllys Da, 2004 yw:
"Gwahoddwn ieuenctid y byd i uno gyda ni, bobl ifanc Cymru, i
gefnogi Masnach Deg.
Beth yw Masnach
Deg?
Mae Masnach Deg yn sicrhau bod cynhyrchwyr yn derbyn pris teg am eu
cynnyrch.
Pwy mae Masnach
Deg yn ei helpu?
Mae Masnach Deg yn cynorthwyo gweithwyr a theuluoedd gwledydd tlawd
y byd.
Pam bod Masnach
Deg yn bwysig?
Mae Masnach Deg yn sicrhau amodau gwaith teg i gynhyrchwyr a gwell
dyfodol i’w cymunedau.
Beth allwn ni ei
wneud?
Gallwn ni wneud
gwahaniaeth drwy brynu cynnyrch sy’n arddangos label Masnach Deg.
Gallwn hefyd gydweithio i newid rheolau masnachu rhyngwladol. Mae
modd i fasnach weithio o blaid gwledydd tlawd a gwneud gwahaniaeth
gwirioneddol i fywydau pobl.
Ymunwch gyda ni!"
---------------------------------------- DIWEDD
----------------------------------------
Am ragor o
wybodaeth cysyllter â:
Siân Eleri Davies rhif ffôn symudol: 07811 26 99 29
neu ag Eurgain Haf: 07798 877435
|