|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU YNYS MÔN, 2004 Datganiad i’r Wasg5 Mehefin 2004 GWLAD Y MEDRAU YN EI MEDRU HI'N IAWNMae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd yn falch iawn o gyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2004 yma ar faes Sioe Amaethyddol Mona wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Tyrrodd dros 100,000 o ymwelwyr o Gymru benbaladr a thu hwnt i fwynhau’r myrdd o atyniadau yng Ngyl ieuenctid fwyaf Ewrop gydol yr wythnos. Positif hefyd oedd yr ymateb i gynnal yr Eisteddfod ar safle sefydlog y Sioe Amaethyddol yma ar y Primin gan fanteisio ar y rhwydwaith parod o ffyrdd ac adeiladau sydd yma'n barhaol. Gyda chyfuniad o adnoddau a rhwydwaith ffyrdd parod y Sioe Amaethyddol a chydweithrediad llawn yr heddlu, aelodau o Gyngor Sir Ynys Môn a’r fyddin o stiwardiaid gwirfoddol, roedd y traffig hefyd yn llifo’n rhwydd i mewn ac allan o’r Eisteddfod. Braf yw gallu datgan hefyd fod y pafiliwn wedi bod dan ei sang drwy'r wythnos gyda phob sedd yn llawn. Mae'r cydweithio a fu rhwng trefnwyr yr Eisteddfod, Cyngor Môn a Chymdeithas y Sioe yn golygu y bydd pafiliwn yr Eisteddfod - Pafiliwn Môn - ar gael i drigolion yr ynys elwa ohono yn y tymor-hir i gynnal cyngherddau a gigs ac ati. Profodd y penderfyniad i gynnal y rhagbrofion ar y maes am yr ail flwyddyn yn olynol yn benderfyniad poblogaidd yn nhermau hwylustod cystadleuwyr gan sicrhau bod maes yr Eisteddfod yn fwrlwm o’r bore bach. Cafodd y mentrau newydd a gyflwynwyd gan drefnwyr yr Eisteddfod eleni hefyd atborth calonogol iawn gyda nifer yn mwynhau y gweithdai yn y tipis (a noddwyd gan HSBC) a sawl un yn dysgu sgiliau newydd ar y parc sglefryrddio (a noddwyd gan S4C). Arbrawf llwyddiannus hefyd oedd y Wal fideo 80-sgrin yn gefnlen i'r cystadlu ar y llwyfan gyda'r delweddau arnynt yn gweddu i themâu amrywiol y cystadlaethau yn ogystal â'r ffilmiau byrion o'r gweithiau buddugol ymhob un o'r prif seremonïau. Roedd yr adloniant gyda’r nos hefyd yn taro deuddeg, gyda phob tocyn i sioe uwchradd Llwch yn Ein Llygaid, a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd Caergybi, wedi ei werthu. Codwyd to y pafiliwn gan y sioe gynradd, Joseff, ac roedd y Gyngerdd Agoriadol ar y nos Sul cyntaf yng nghwmni Gwyn Hughes Jones ac artistiaid lleol eraill yn wefr i'r llygad a'r glust. Meddai Derek Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: “Fel arfer, ar ôl edrych mlaen yn eiddgar at ddigwyddiad, mae siom yn digwydd. Mae’r gwrthwyneb yn wir yn hanes Eisteddfod yr Urdd ym Môn eleni. Ydy, mae’r edrych mlaen wedi bod yn felys, wedi bod yn hwyl, ac wedi bod yn adeiladol. Ond mae’r wythnos ei hun wedi cyrraedd yn uwch na’r disgwyl hyd yn oed. Mae hi wedi bod yn wythnos lle mae’r Fam Ynys wedi croesawu ei phlant mewn ffordd y byddai pob Mam yn ei wneud, ac mi fydd hi’n wythos fydd yn aros am byth yn y cof.” Ychwanegodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau: “Dw i wrth fy modd yn gallu cyhoeddi ar ddiwedd ein gŵyl yma ym Môn, i ni gael Eisteddfod wirioneddol rhagorol, gan brofi fod Gwlad y Medrau, wirioneddol yn ei medru hi'n iawn. Dw i’n ddyledus i Derek Evans, Cadeirydd ein Pwyllgor Gwaith lleol a’i dîm, am eu hymroddiad a’u cefnogaeth ddiwyro. Mae cydweithrediad staff Cyngor Sir Ynys Môn dros y tair blynedd diwethaf wedi cyfrannu’n arw tuag ar lwyddiant yr Eisteddfod. Rwan, wedi derbyn yr allwedd i Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, ble cynhelir Eisteddfod arloesol 2005, edrychwn ymlaen at ddatgloi mwy o dalent ieuenctid Cymru ymhen blwyddyn." --------------------------------- DIWEDD --------------------------------- Am fwy o fanylion cysylltwch â
Siân Eleri Davies
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |