Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU

YNYS MÔN,  2004

Datganiad i’r Wasg - embargo 5.00 o'r gloch nos Sul 30 Mai 2004


YNYS YR URDD

 Heddiw mae'r llenni’n codi ar wyl gelfyddydol ieuenctid fwyaf Ewrop, a bydd llygaid Cymru gyfan yn troi i'r gogledd tua Ynys Môn am yr wythnos nesaf. Dyma fydd y pedwerydd tro i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'r ynys gyda thref farchnad Llangefni yn 1948, Caergybi yn 1966 a Phorthaethwy yn 1976 eisoes wedi estyn croeso i'r Brifwyl. Ond mae ei chartref eleni ar faes y Primin yn dod â blynyddoedd o waith trafod a chydweithio rhwng swyddogion Sioe Môn a'r Urdd i'w benllanw.

Gan fod y tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sioeau, mae'r Urdd yn hynod ffodus o'r isadeiledd ar y maes sydd wedi rhwyddhau'r paratoi a fydd hefyd yn hwyluso rhediad yr Eisteddfod.

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru

"Rydym yn hynod ddiolchgar am gydweithrediad y Gymdeithas Amaethyddol ym Môn.  Gobeithio bydd cynnal yr Eisteddfod yma yr wythnos hon yn dangos i bobl yr ynys a thu hwnt, botensial yr adeilad pwrpasol hwn sydd wedi ei adnewyddu mewn da bryd ar gyfer yryl.  Rydym yn hynod falch mai Eisteddfod yr Urdd ydi'r digwyddiad cyntaf i gael ei gynnal ar y safle ar ei newydd wedd.

Carwn ddiolch hefyd i Gyngor Sir Ynys Môn am eu cefnogaeth hael a'u cydweithrediad hynaws gydol y daith.

Pleser o'r mwyaf yw gallu cyhoeddi heddiw fod y targed ariannol a osodwyd i bobl leol wedi cyrraedd £210,000, sy'n swm anrhydeddus sy'n adlewyrchiad o ymroddiad a dyfalbarhad y gwirfoddolwyr lleol.

Gwaith tîm sy'n gwneud Eisteddfod yr Urdd yn bosib, a chydweithrediad llu o wirfoddolwyr ac amrywiol asiantaethau er mwyn creu cyfanwaith a chyflawni gwyrthiau yn yr yl yn flynyddol."

Mae'r Eisteddfod wedi mynd ati i ddatblygu ar lwyddiant arbrawf llwyddiannus llynedd o gynnal yr holl ragbrofion ar y maes.  Gan nad oes gymaint o adeiladau pwrpasol ar y maes eleni, mae'r Eisteddfod wedi codi adeiladau addas ar gyfer cynnal y rhagbrofion, a'r gobaith ydy y bydd y trefniant yma unwaith eto yn hwyluso'r profiad o gystadlu.

Mae'r arlwy ar y maes wedi ei datblygu eto eleni, ac mae'r Urdd yn hyderus bod darpariaeth yn yr yl ar gyfer y teulu cyfan.  Am y tro cyntaf mae dau o sêr cerddorol yr ynys, Gwyn Hughes Jones ac Iwan Llywelyn Jones yn cynnal dosbarthiadau meistr ar y maes yn y prynhawniau.  Dyma gyfle heb ei ail i blant a ieuenctid Cymru fanteisio ar athrylith dau sydd wedi cyrraedd y brig ym myd cerddoriaeth, a chael profiad o weithio gyda'r goreuon.

Bydd myrdd o weithgareddau ymylol eraill ar y maes yn ychwanegu at yr ymdeimlad o yl yn yr Eisteddfod.  Fel arfer bydd cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon, o rygbi a phêl‑droed i golff a thennis, trampolinio, dawns a chriced - oll dan ofal staff chwaraeon profiadol yr Urdd.   Bydd ramp sgrialu ger stondin S4C a chyfle i'r mentrus roi cynnig ar ddangos eu triciau.  Am y tro cyntaf bydd tipi ar y maes, a gweithgareddau atyniadol i blant a phobl ifanc yn cael eu cynnal ynddi gydol yr wythnos - gweithgareddau megis sgiliau syrcas a gweithdai dawns, sgriptio ac actio.

Mae'r Urdd yn falch o gael cyfle i weithio gydag asiantaethau amrywiol fel BBC Cymru a'r cylchgrawn V i greu darpariaeth ddeniadol ar gyfer ieuenctid ar y maes.  Diolch i gydweithrediad BBC Cymru bydd holl ragbrofion a chystadlaethau roc a phop yr yl, a’r holl ragbrofion a'r cystadlaethau dawnsio disgo, yn digwydd ar stondin y BBC.

Bydd cyfraniad staff y gwersylloedd yn hanfodol i'r Eisteddfod eto eleni.  Yn ogystal â'r hen ffefrynnau, wal ddringo Glan-llyn a beiciau modur Llangrannog bydd Caffi Mistar Urdd yn ei ôl am yr ail flwyddyn i ddarparu lluniaeth i'r eisteddfodwyr.  Unwaith eto cynnyrch Cymreig fydd ar y fwydlen a bydd dewis eang o frechdanau i fyrbrydau i brydau poeth ar gael drwy'r dydd.  Mae'r ysgolion sy'n cystadlu wedi cael cyfle i archebu pecyn bwyd ar gyfer y daith adref o'r caffi hefyd.

Derek Evans ydy Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Ynys Môn.

" Mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd bod yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004.  Mae nifer fawr o bobl wedi gweithio mor galed ar is‑bwyllgorau a llu o bwyllgorau apêl dros y ddwy flynedd diwethaf i wneud y freuddwyd o Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ddod yn wir. Oherwydd nifer o amgylchiadau yr Eisteddfod yma fydd y gyntaf yn y gogledd ers y flwyddyn 2000, a gobeithio y bydd yr Eisteddfod hon yn tanio brwdfrydedd plant a phobol ifanc y Gogledd a Chymru ben baladr."

Meddai Siân Eirian

"Heno bydd yr Eisteddfod yn cychwyn gyda chyngerdd mawreddog yn y Pafiliwn yng nghwmni Gwyn Hughes Jones, Iwan Llywelyn Jones, Elin Fflur, Côr Seiriol, Côr yr Ynys a Seindorf Biwmaris. Mae'n addo bod yn gyngerdd cofiadwy, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r holl artistiaid am roi o'u hamser, ac yn enwedig Gwyn sydd wedi gwrthod gwahoddiad i ganu Rigoletto Verdi yn Auckland er mwyn bod gyda ni yn yr Eisteddfod yr wythnos hon."

Diwedd

Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07811 269929 neu Eurgain Haf ar 07770 955668

30 Mai 2004

 

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481