Gwaith Cerddorol.

 

Gall ychwanegu at neu newid fersiwn o waith cerddoriaeth fod yn un o'r canlynol:

 Cyfieithu
Pan fo'r geiriau yn cael eu cyfieithu i iaith arall ac yn golygu yr un peth yn y ddau fersiwn.

 Parodi
Cyfansoddiad sy'n efelychu steil rhywun arall mewn ffordd ddoniol.

 Trefnu
Trefnu ydi paratoi ac addasu cyfansoddiad i'w gyflwyno mewn ffurf wahanol i'w ffurf wreiddiol.  Bydd trefniant yn cynnwys ail gydgordio, aralleirio ac/ neu ddatblygu'r cyfansoddiad fel ei fod yn cynnwys strwythur llawn melodaidd, harmonig a rhyddmig ac nad oes angen unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau pellach.  Gall hyn gynnwys ychwanegu i'r sgôr gwreiddiol, neu leihau’r sgôr gwreiddiol.

Yn ôl

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau i'w wneud a hawlfraint, cysylltwch â cymorthhawlfraint@urdd.org

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004