RHAGARWEINIAD

Mae’r Safle yma yn bodoli i gynnig cymorth i gystadleuwyr sicrhau’r hawl mewn darnau hunan ddewisol.  Mae na nifer o haenau o hawliau mewn gwaith ac rydym yn gobeithio y bydd y Safle yma’n eich arwain drwy’r camau er mwyn sicrhau’r caniatâd i berfformio gwaith sydd dan hawlfraint, yn yr Eisteddfod(au).

Mae rhai darnau yn anodd iawn i’w clirio ar gyfer eu perfformio / darlledu.  Mae’n synhwyrol cadw ffwrdd oddi wrth rai caneuon  e.e. caneuon a cherddoriaeth o’r sioeau cerdd fawr, caneuon gan artistiaid o’r Unol Daleithiau a chaneuon y Beatles,  gan fod yr hawlfraint yn gymhleth a bod y cyhoeddwyr yn nerfus iawn o roi’r hawl i chi.

Os ydych yn llwyddiannus ac yn cyrraedd llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Môn a bod y perfformiad yn cael ei ddarlledu (ar S4C neu drwy wefan yr Urdd) yna cyfrifoldeb y cwmni cynhyrchu teledu fydd trwyddedu a thalu am yr hawliau darlledu.  Bydd disgwyl i chi grybwyll y siawns y bydd darllediad  fel rhan o’r trafodaethau.

Beth yw Hawlfraint?

Mae hawlfraint yn rhoi hawliau i grewyr gwahanol fathau o ddeunyddiau megis llenyddiaeth, celf, cerddoriaeth a recordiadau sain i reoli defnydd o’r deunydd hwnnw.    

Beth sydd yn cael ei warchod gan Hawlfraint?

Mae hawlfraint yn rhoi hawliau i’r crewyr yn y mathau canlynol o ddeunydd :

       ·        Llenyddol
       ·        Dramatig
       ·        Cerddoriaeth
       ·        Fersiynau o’r uchod.
       ·        Recordiau sain ar unrhyw ffurf
       ·        Ffilmiau gan gynnwys DVD neu Fidio
       ·        Rhaglenni.

Am faint o amser mae’r hawlfraint yn gwarchod?

Mae hyd hawlfraint yn amrywio ac yn dibynnu ar y math o waith. 

-         Mae hawlfraint mewn gwaith llenyddol, dramatig neu gerddorol yn parhau am gyfnod bywyd yr awdur / cyfansoddwr ac yna am 70 mlynedd ar ôl eu marwolaeth.

-         Mae hawlfraint mewn recordiad sain yn terfynu 50 mlynedd ar ôl i’r recordiad gael ei ryddhau.

-         Mae hawlfraint mewn rhaglen a ddarlledwyd yn terfynu 50 mlynedd ar ôl ei ddarlledu.

Os yw’r gwaith allan o gyfnod yr hawlfraint yna mae’n eiddo cyhoeddus (in the public domain) ac felly nid oes angen mynd drwy’r broses o sicrhau’r caniatâd.  Dylid nodi hyn ar y ffurflen cystadlu.

Beth sydd angen i chi wneud?

Os yw’r darn gwaith yn un hunan ddewisol yna bydd yn rhaid i chi sicrhau’r hawl i berfformio yn gyhoeddus unrhyw waith sydd o dan hawlfraint.  Mae’r darnau gosod gan yr Urdd eisoes wedi eu checio ac nid oes angen i chi wneud dim gyda’r darnau hyn o’ch perfformiad(au).

Os ydych yn llwyddiannus yn eich cystadlu ac yn cyrraedd llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, bydd siawns uchel y bydd y gystadleuaeth yn cael  ei darlledu ar Sianel S4C gyda chyd ddarllediad ar safle we’r Urdd.   Cyfrifoldeb y cwmni cynhyrchu teledu fydd sicrhau caniatâd am y darllediad teledu ond mae disgwyl i chi grybwyll y darllediad posib wrth sicrhau’r caniatâd i berfformio.  Mae’r Safle yma yn ceisio eich tywys drwy’r camau priodol er mwyn cysylltu gyda’r bobl gywir a sicrhau’r caniatâd angenrheidiol. 

Nodiadau pwysig

Cofiwch mai dim ond ar gyfer y darnau hunan ddewisiad sydd angen i chi gael caniatâd perfformio. Mae pob darn gosod sydd wedi ei enwi yn y rhaglen testunau wedi eu clirio gan yr Urdd.

Cofiwch fod angen caniatâd ar gyfer pob darn – hyd yn oed os yw’r darn yn fyr iawn. 

Gadewch amser digonol i sicrhau’r caniatâd.

Nid yw’n arferol talu ffî am y caniatâd i berfformio yn yr Eisteddfod.  Bydd ffî yn daladwy gan y cwmni teledu/S4C am y darllediad ond NID Y CHI FYDD YN GYFRIFOL AM Y GOST YMA –  bydd y cwmni cynhyrchu yn cysylltu gyda’r cwmnïau cyhoeddi/recordio os ydych yn llwyddianus yn cyrraedd llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn trafod y ffî gyda nhw yn uniongyrchol.

Cofiwch amgáu y caniatâd perfformio â'r ffurflen gystadlu. Os ydych yn cael problem gyda’r system neu gyda’r broses o sicrhau’r caniatâd yna cysylltwch â:

cymorthhawlfraint@urdd.org

Y cam nesaf

Atebwch y cwestiynau drwy glicio ar y ddolennau (hyperlinks) isod.  Bydd y system yn eich arwain drwy’r gwahanol camau ac yn cynnig manylion cefndir i chi esbonio beth yw’r Eisteddfod a natur y caniatâd rydych yn ceisio ei sicrhau, a chynnig dogfennau fel tystiolaeth.

Os ydych am glirio gwaith llenyddol neu cerddoriaeth mewn llyfr yna cliciwch yma.
Os ydych am glirio gwaith cerddorol yna cliciwch yma

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau i'w wneud a caniatad perfformio, cysylltwch â cymorthhawlfraint@urdd.org

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004